Amdan y Comisiynydd
Mae ar y Comisiynydd gyfrifoldeb cyffredinol i sicrhau heddlu effeithiol ac effeithlon sy'n dangos gwerth am arian ac, yn bwysicaf oll, yn lleihau trosedd.
Gwybodaeth
I weld manylion am busnes swyddfa'r Comisiynydd a gwasanaethau wedi eu comisiynu.
Gweithio mewn Partneriaeth
Mae datblygu partneriaethau effeithiol yn sylfaenol i’r gwaith a wneir gan y Comisiynydd.
Cynllun Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru
Mae'r Cynllun Heddlu a Throsedd yn canolbwyntio ar y prif feysydd fydd disgwyl i'r Heddlu eu cyflawni – materion sydd o bwys i bobl leol, ar y cyd a gofynion plismona cenedlaethol.
Cliciwch yma i ddarllen blaenoriaethau plismona Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru
Cymorth i ddioddefwyr trosedd
Mae darparu cymorth i ddioddefwyr trosedd yn flaenoriaeth allweddol i’r Comisiynydd Heddlu a Throsedd. Un o'r gwasanaethau hanfodol y mae'r swyddfa'n ei gomisiynu ydy'r Ganolfan Cymorth Dioddefwyr, a leolir yn Llanelwy, sy'n cynorthwyo pob dioddefwr.
Os oes angen cymorth neu gyngor pellach arnoch chi, cliciwch ar y ddolen hon. (cliciwch 'Cymraeg' yn y faner uchaf i weld cyfieithiad Cymraeg)
Newyddion diweddaraf o Swyddfa'r Comisiynydd
- Newyddion
Mae SCHTh yn parhau i edrych yn graff ar waith Heddlu Gogledd Cymru mewn amryw o ffyrdd eang, ac yn ddiweddar wedi cynnal adolygiad pellach o’r Bwrdd Strategol Gweithredol chwarterol, a gymerodd le ar 8 Mai.
- Newyddion
Ymwelodd Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, Andy Dunbobbin â Chlwb PêlDroed Prestatyn Sports yn ddiweddar, i weld effaith cadarnhaol eu cais llwyddiannus am fuddsoddiad drwy Eich Cymuned, Eich Dewis. Yn ystod yr ymweliad, gwelodd y Comisiynydd gyfleusterau’r clwb a’r cynnydd a wnaed…
- Newyddion
Ar 2 Mai 2024, etholwyd Andy Dunbobbin o Lafur Cymru gan etholwyr Gogledd Cymru, i fod yn Gomisiynydd Heddlu a Throsedd am y pedair blynedd nesaf.