Skip to main content

Gallai madarch hudol helpu i osgoi argyfwng iechyd meddwl, yn ôl pennaeth heddlu

Date

1205PCC-4

Mi allai cyfansoddyn a geir mewn madarch hudol achub bywydau trwy gael ei ddefnyddio fel triniaeth newydd chwyldroadol i bobl sy’n dioddef o PTSD ac iselder, yn ôl pennaeth heddlu.

Mae Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, Arfon Jones, wedi ysgrifennu at holl Aelodau Seneddol y rhanbarth yn gofyn iddynt gefnogi galwad i ailddynodi psilocybin fel cyffur er mwyn caniatáu cynnal mwy o ymchwil.

Ar hyn o bryd mae psilocybin, sy'n digwydd yn naturiol mewn dros 100 o rywogaethau madarch, yn cael ei gategoreiddio fel cyfansoddyn Dosbarth A.

Mae Mr Jones, sy’n ymgyrchydd ers tro dros ddiwygio deddfwriaeth cyffuriau, yn credu y dylid ei ailddynodi o dan y rhestr o gyffuriau llai niweidiol.

Byddai hyn yn galluogi cwmnïau i gynnal profion clinigol ar raddfa fawr i ddatblygu triniaeth effeithiol a diogel.

Mae'r Comisiynydd yn ymuno gyda'r felin drafod, Sefydliad Adam Smith, a Grŵp Diwygio Polisi Cyffuriau y Ceidwadwyr dan gadeiryddiaeth Crispin Blunt AS, sy’n gyn-weinidog yn Llywodraeth y DU.

Mae’r grŵp wedi rhyddhau papur newydd, a ysgrifennwyd gan ymchwilwyr blaenllaw o Goleg y Brenin Llundain a Phrifysgol Manceinion, sy’n dadlau y gallai ailddynodi psilocybin osgoi argyfwng iechyd meddwl yn y dyfodol.

Er ei fod yn cael ei ddefnyddio'n bennaf fel cyffur hamdden, dywed Mr Jones fod corff cynyddol o dystiolaeth yn awgrymu bod psilocybin yn gweithio'n dda fel meddyginiaeth ar gyfer iselder sy'n gwrthsefyll triniaeth, sy'n effeithio ar tua  1.2 miliwn o oedolion yn y DU ac sy’n un o brif achosion hunanladdiad.

Yn ôl y Comisiynydd, fe allai wella bywydau pobl sy’n dioddef salwch meddwl ac arbed biliynau o bunnoedd i’r GIG.

Roedd angen gweithredu ar frys oherwydd bod yr unigedd a achoswyd gan gyfnod clo'r coronafeirws wedi cael effaith niweidiol iawn ar iechyd meddwl pobl.

Dywedodd Mr Jones: “Mae'r ffaith bod psilocybin yn cael ei ddynodi fel cyffur Dosbarth A wedi llesteirio ymchwil ers bron i 50 mlynedd i’w effaith fuddiol posib wrth wella bywydau pobl sy'n dioddef o PTSD ac iselder.

“Mae'n gyfansoddyn seicoweithredol sy'n cymell newidiadau dros dro mewn hwyliau trwy actifadu derbynyddion serotonin yn yr ymennydd.

“Mae’r ymchwil newydd yma gan wyddonwyr yn dangos yn glir bod psilocybin wedi’i ddynodi ar gam fel rhywbeth niweidiol ond y gwir amdani yw y gallai fod yn feddyginiaeth chwyldroadol.

“Mae'r pandemig wedi arwain at lawer o bobl yng ngogledd Cymru i ddioddef ynysu cymdeithasol, amodau gwaith straenllyd a diffyg cyswllt teuluol, yn ogystal â phryderon am effaith yr argyfwng economaidd ar eu bywydau.

“Dyma pam rwyf wedi ysgrifennu at yr ASau yn gofyn am eu cefnogaeth i wyrdroi’r dosbarthiad gwallus hwn

“Mae’n hanfodol ailddynodi Psilocybin o Atodlen 1 i Atodlen 2 fel y gall fod yn haws ac yn rhatach ymchwilio i’w effaith ar afiechydon meddwl amrywiol gan gynnwys PTSD ac iselder.”

Adleisiwyd teimladau'r Comisiynydd gan Dr James Rucker, arbenigwr mewn anhwylderau hwyliau a seicopharmacoleg yng Ngholeg y Brenin Llundain.

Meddai: “Mae iselder difrifol yn gyffredin ac mae'n gallu bod yn farwol. Mae'n gysylltiedig â bron i hanner yr hunanladdiadau yn y DU ac mae'n un o brif achosion anabledd a phwysau economaidd-cymdeithasol ledled y byd.

“Nid yw tua thraean y bobl sy’n dioddef o iselder difrifol yn gwella gyda thriniaethau cyffuriau a seicolegol safonol.

“Mae treialon clinigol o ansawdd da ar raddfa fechan wedi amlygu bod therapi psilocybin yn driniaeth newydd effeithiol i'r bobl yma.

“Bellach mae angen i ni gynnal treialon ar raddfa fwy er mwyn cadarnhau hyn. Fodd bynnag, dynodir psilocybin fel cyffur ‘Atodlen 1’ gan Lywodraeth y DU. Mae hyn yn gwneud treialon clinigol ar raddfa fawr yn anodd iawn ac yn hynod gostus i'w cynnal.

“Mae dynodiad Atodlen 1 yn ddiangen gan nad yw psilocybin yn beryglus ac nid yw'n gaethiwus o'i gymharu â chyffuriau eraill.

“Felly, rydym yn gofyn i Lywodraeth y DU adolygu dynodiad psilocybin, fel y gallwn weithio’n fwy effeithlon i ddod â thriniaeth newydd bosibl i gleifion sy’n dioddef, ac yn marw, bob dydd oherwydd iselder difrifol.”