Skip to main content

Amlygu'r gwaith o drechu trosedd yng Ngogledd Cymru

Dyddiad

Mae Wythnos Genedlaethol Troseddau Cefn Gwlad yn lansio heddiw, 18 Medi, gan barhau tan 24 Medi 2023. Mae'r ymgyrch wedi'i threfnu gan Rwydwaith Cenedlaethol Troseddau Cefn Gwlad, sy'n gweithio er mwyn gweld gwell cydnabyddiaeth a dealltwriaeth o broblemau ac effaith troseddau yng nghefn gwlad fel bod mwy'n gallu cael ei wneud er mwyn cadw pobl yn saffach. Mae'r ymgyrch wythnos o hyd hefyd yn ffordd o amlygu'r gwaith mae Comisiynwyr Heddlu a Throsedd y DU a'u Heddluoedd yn ei wneud er mwyn ymdrin â throseddau cefn gwlad.

Mae troseddau cefn gwlad a bywyd gwyllt yn rhan hanfodol o'r ymateb i drechu trosedd yng Ngogledd Cymru a ffurfio rhan o'r flaenoriaeth gyffredinol o gyflawni cymdogaethau saffach yng Nghynllun Heddlu a Throsedd y Comisiynydd Heddlu a Throsedd sef Andy Dunbobbin ar gyfer y rhanbarth. Mae troseddau cefn gwlad a bywyd gwyllt yn cael eu hamlygu fel rhan o'r cynllun oherwydd nodweddion y troseddoldeb hwn a'r effaith sylweddol gall trosedd ei gael ar gymunedau cefn gwlad.  

Gall troseddau cefn gwlad a bywyd gwyllt gael eu hystyried yn eang iawn fel unrhyw drosedd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol yng nghefn gwlad. Mae pedwar categori mae Heddlu Gogledd Cymru yn eu defnyddio er mwyn disgrifio troseddau cefn gwlad orau: amaethyddol, y byd ceffylau, bywyd gwyllt a threftadaeth. 

Fel rhan o ymroddiad Andy Dunbobbin i gymunedau cefn gwlad Gogledd Cymru a threchu trosedd, mae 2023 wedi gweld sawl menter er mwyn trechu trosedd a helpu cymunedau.

  • Ym mis Awst, cafwyd dathliad yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym Moduan er mwyn cydnabod cyfraniadau a llwyddiannau Tîm Troseddau Cefn Gwlad Heddlu Gogledd Cymru. Yn bresennol roedd y Prif Gwnstabl Amanda Blakeman; Andy Dunbobbin, y Comisiynydd Heddlu a Throsedd presennol; Arfon Jones a Winston Roddick, y cyn Gomisiynwyr; a chynrychiolwyr o UAC ac NFU Cymru.
  • Ym mis Mai, daeth ffermwyr a'u teuluoedd ledled gogledd orllewin Cymru at ei gilydd yng Nghaernarfon ar gyfer digwyddiad ar Ddiogelwch Seiber ac Atal Trosedd, gan edrych ar ffyrdd gall ein cymunedau ni warchod eu hunain yn well rhag trosedd.  Noddwyd y digwyddiad gan yr elusen ar gyfer ffermwyr a'u teuluoedd, Tir Dewi; Heddlu Gogledd Cymru; Ymddiriedolaeth Heddlu Gogledd Cymru a'r Gymuned; a Swyddfa'r CHTh.
  • Ym mis Ebrill, gwnaeth Andy Dunbobbin helpu lansiad Strategaeth Troseddau Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 2023-2025. Mae hon yn strategaeth sydd wedi'i chreu ar y cyd gan bedwar heddlu Cymru a Llywodraeth Cymru, yng Nghynhadledd Troseddau Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad ar Faes y Sioe Frenhinol. Mae'r strategaeth yn canolbwyntio ar drosedd sy'n effeithio'r gymuned amaethyddol fel lladradau, ymosodiadau ar dda byw gan gŵn, llosgi bwriadol a byrgleriaethau. Mae'n amlinellu meysydd blaenoriaeth ar gyfer swyddogion plismona cefn gwlad. 
  • Ym mis Chwefror, gwnaeth Andy Dunbobbin a'r Dirprwy Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Wayne Jones gyfarfod ag aelodau o'r gymuned amaethyddol leol yng Ngogledd Cymru fel rhan o Wythnos Brecwastau Ffermdai Undeb Amaethwyr Cymru (FUW), sydd yn cael ei chynnal rhwng dydd Llun 23 Ionawr a dydd Sul 29 Ionawr. Trefnwyd y digwyddiad, ar fferm Dylasau Uchaf, Padog, Betws y Coed sef cartref Glyn Roberts, Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru, a'i deulu gan Gangen Sir Gaernarfon o'r Undeb. Mae'n helpu codi miloedd o bunnoedd bob blwyddyn at achosion da.
  • Drwy gydol yr haf, fe aeth swyddfa'r CHTh i sioeau amaethyddol ar Ynys Môn, Dinbych a Harlech lle gwnaethant sgwrsio hefo'r gymuned amaethyddol, Undeb Amaethwyr Cymru a'r NFU a gwrando ar eu barn a'u pryderon. Menter ddiweddar arall ydy cymorthfeydd cymunedol newydd, sydd wedi cael eu cynnal mewn sawl tref farchnad yn y rhanbarth, fel y Bala, Pwllheli a Rhuthun lle mae'r CHTh wedi gallu siarad ymhellach hefo'n cymunedau cefn gwlad. 

Gwnaeth Heddlu Gogledd Cymru hefyd lansio eu hymgyrch Dangos y Drws i Drosedd yn ddiweddar hefo help y CHTh. Mae'r ymgyrch hon yn gonglfaen y cynllun er mwyn trechu trosedd mewn ardaloedd cefn gwlad. Drwy'r fenter, mae swyddogion yn annog ffermwyr i wneud mwy o ddefnydd o farcio DNA SmartWater er mwyn gwarchod offer fferm. Hefo cofrestr genedlaethol, mae SmartWater yn gadael i offer a pheiriannau wedi'u dwyn gael eu cysylltu hefo'r perchennog. 

Mae'r Tîm Troseddau Cefn Gwlad wedi bod yn datblygu Pecyn Atal Troseddau Cefn Gwlad, lle 'da ni'n darparu marcio fforensig SmartWater, arwyddion atal cadarn a chyngor atal trosedd wedi'i deilwra.  Dros y blynyddoedd nesaf mae'r tîm yn Heddlu Gogledd Cymru yn anelu dosbarthu pecynnau i bob fferm yng Ngogledd Cymru, sydd oddeutu 7,000.

Dywedodd Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru: "Mae Wythnos Genedlaethol Gweithredu yn Erbyn Troseddau Cefn Gwlad yn gyfle i fwrw goleuni ar drosedd yng nghefn gwlad ac amlygu'r gwaith gwych gan Heddlu Gogledd Cymru a'u Tîm Troseddau Cefn Gwlad er mwyn trechu troseddoldeb yn ein cymunedau cefn gwlad. 

"Yn allweddol i lawer o'n gwaith er mwyn trechu troseddau cefn gwlad ydy gweithio hefo cymunedau er mwyn ychwanegu at eu cadernid. Y mwyaf mae'r heddlu, undebau amaeth, y gymuned amaethyddol, a thrigolion cefn gwlad yn gweithio gyda'i gilydd er mwyn atal troseddau cefn gwlad a bywyd gwyllt, y mwyaf effeithiol fyddwn ni, y cyntaf fyddwn ni'n helpu rhoi diwedd ar y mathau hyn o droseddau.

"Dwi'n hynod ymroddedig i'n cymunedau cefn gwlad ledled Gogledd Cymru. Maen nhw'n hanfodol i'n heconomi, i'n lles, ac i'n hiaith a diwylliant unigryw – ei threftadaeth a'i dyfodol."