Skip to main content

Ymddygiad Gwrthgymdeithasol

Beth ydy ymddygiad gwrthgymdeithasol?

Mae tri phrif gategori ar gyfer ymddygiad gwrthgymdeithasol, yn dibynnu ar yr effaith mae’n gael:

  • Ymddygiad gwrthgymdeithasol personol ydy pan fydd person yn targedu unigolyn neu grŵp penodol.
  • Ymddygiad gwrthgymdeithasol niwsans ydy pan fydd person yn achosi trwbl, diflastod neu ddioddefaint i gymuned.
  • Ymddygiad gwrthgymdeithasol amgylcheddol ydy pan fydd gweithredoedd person yn effeithio ar yr amgylchedd ehangach, megis gofodau cyhoeddus neu adeiladau.

Mae’r math yma o ymddygiad yn gallu cael effaith ystyrlon ar ansawdd bywyd mewn cymuned, yn gwneud i bobl deimlo’n anniogel neu’n anghyfforddus yn eu cymdogaethau eu hunain. Mae’n bwysig riportio digwyddiadau o ymddygiad gwrthgymdeithasol i’r awdurdodau priodol, er mwyn iddyn nhw fedru cymryd y camau sydd angen i ddatrys y problemau.

Riportio Ymddygiad Gwrthgymdeithasol

Os ‘da chi’n dyst neu yn cael profiad o ymddygiad gwrthgymdeithasol, gallwch ei riportio drwy  ffonio 101 os nad ydy’n argyfwng, 999 os oes argyfwng, neu drwy gwefan riportio trosedd Heddlu Gogledd Cymru.

Mae riportio ymddygiad gwrthgymdeithasol yn hanfodol, er mwyn cynnal a chadw cymuned diogel a thawel. Drwy riportio digwyddiadau, ‘da chi’n hysbysu’r awdurdodau o’r broblem, gan eu caniatáu i weithredu yn briodol er mwyn datrys y broblem.

Mae’n bwysig cofio bod ystod eang o fathau o ymddygiad gwrthgymdeithasol, o bethau sy’n niwsans hyd at droseddau mwy difrifol. Beth bynnag y difrifoldeb, mae riportio digwyddiadau yn gyflym yn gallu eu hatal rhag gwaethygu, ac yn sicrhau bod y camau priodol yn cael eu cymryd er mwyn cynnal amgylchedd diogel a heddychlon i bawb.

Cynorthwyaeth i ddioddefwyr ymddygiad gwrthgymdeithasol

Mae ein gwasanaeth wedi’i gomisiynu, Cymorth i Ddioddefwyr, yn cynnig cymorth a chynorthwyaeth arbenigol ar gyfer unigolion sydd wedi eu heffeithio gan ymddygiad gwrthgymdeithasol. Mae Cymorth i Ddioddefwyr yn sefydliad efo’r nod o helpu dioddefwyr i ymdopi ag effeithiau emosiynol ac ymarferol ymddygiad gwrthgymdeithasol, a throseddau eraill. Am ragor o wybodaeth ac i gael help ewch i:  https://www.victimsupport.org.uk/