Skip to main content

Arloesi i Dyfu

Mae cynllun Arloesi i Dyfu gan Comisiynydd Heddlu a Throsedd Andy Dunbobbin yn targedu a buddsoddi mewn prosiectau sy'n ymdrin ag achosion gwreiddiol trosedd ledled Gogledd Cymru, yn enwedig rhai sy'n cynnig syniadau newydd ac arloesol ynghylch atal ac ymdrin â drygioni.

Y nod ydy i'r fenter ategu at y blaenoriaethau o fewn Cynllun Heddlu a Throsedd y Comisiynydd, ynghyd a'i Wasanaeth Heddlu Cymunedol er mwyn gwasanaethu holl gymunedau ledled gogledd Cymru. Mae enghreifftiau o fentrau a all fod yn gymwys am gymorth o dan y cynllun yn cynnwys y rhai hynny sy'n cynnwys gwasanaethau ieuenctid; ymyrraeth gynnar; profiadau niweidiol yn ystod plentyndod; gwasanaethau camddefnyddio cyffuriau, alcohol a sylweddau; sefydliadau sy'n gweithio i wrthsefyll cam-drin domestig, trais rhywiol a thrais yn erbyn merched a genethod. 

Mae Mr Dunbobbin wedi dyrannu £75,000 i'r cynllun er mwyn cynorthwyo prosiectau drwy gydol 2024-2025 am hyd at flwyddyn, gyda'r ffocws ar arloesedd. Bydd hyd at £5,000 ar gael i bob prosiect. Fodd bynnag, os cyflwynir y prosiect ledled dwy neu fwy o siroedd, cynigir uchafswm o £10,000. 

Er mwyn bod yn gymwys am gyllid, rhaid i ymgeiswyr fod yn rhai nid er elw a rhaid iddynt gwblhau cynllun busnes. Rhaid i'r cynllun fod yn gydnaws ag un o flaenoriaethau plismona'r Comisiynydd. Bydd angen i bob sefydliad sicrhau bod ganddynt bolisi Diogelu a/neu bolisi amddiffyn plant, polisi'r Gymraeg, cyfle cyfartal a gwerth cymdeithasol mewn lle a sut byddant yn integreiddio’r meysydd hyn i gyflawni'r prosiect. Rhaid i bob cais gynnwys strategaeth ymadael oherwydd bod y cyllid ar gael am flwyddyn yn unig. yn ogystal, mae'n well bod y prosiect yn cynnwys elfen o arian cyfatebol ond nid yw hyn yn hanfodol.

Gwaharddiadau

Ni ellir defnyddio'r grant i ariannu unigolyn, sefydliadau a sefydlwyd i wneud elw, na gwaith y mae gan gyrff statudol (fel ysgolion neu awdurdodau lleol) ddyletswydd i'w ariannu. Fodd bynnag, bydd ceisiadau gan Awdurdodau Lleol yn cael eu penderfynu fesul achos a rhaid i achosion busnes gynnwys elfen o arian cyfatebol ar gyfer cyllid i'w ystyried gan yr uwch dîm rheoli. Ni fydd ceisiadau'n cael eu hystyried gan lywodraeth leol, carchardai, cyrff y GIG, prosiectau sy'n digwydd y tu allan i'r DU.

Dogfennaeth Arloesi i Dyfu:

Cliciwch ar y dolenni isod i ddysgu mwy am Arloesi i Dyfu a sut y gallwch gyflwyno cais: