Gyda rhai eithriadau, y Comisiynydd Heddlu a Throsedd sy'n gyfrifol am ddal Prif Gwnstabl Heddlu Gogledd Cymru yn atebol. Y Comisiynydd yw'r awdurdod priodol i ymdrin ag unrhyw gwynion a materion ymddygiad yn ymwneud â Phrif Gwnstabl yr Heddlu.
Y Prif Gwnstabl sy’n gyfrifol am ddal pawb arall yn yr Heddlu yn atebol. Mae hyn yn awr yn cynnwys cwynion yn erbyn y Dirprwy Brif Gwnstabl, y Prif Gwnstabl Cynorthwyol ac unrhyw faterion eraill yn ymwneud â'r Prif Swyddogion.
Beth ydy cwyn?
Cwyn yw unrhyw fynegiant o anfodlonrwydd gyda heddlu a fynegir gan neu ar ran aelod o'r cyhoedd. Rhaid iddo gael ei wneud gan berson sy'n bodloni'r diffiniad o achwynydd. Rhaid hefyd cael rhyw fwriad gan yr achwynydd i ddod â'u hanfodlonrwydd i sylw'r heddlu neu gorff plismona lleol. Nid oes rhaid i gŵyn gael ei gwneud yn ysgrifenedig, ac ni ddylai ddatgan yn benodol ei bod yn gŵyn i'w hystyried fel un.
I gwyno am: | Cysylltwch â: |
---|---|
Gwasaneth, Swyddog Heddlu, Staff yr Heddlu, SHC, neu Gwnstabl Gwirforddorol |
Adran Safonau Proffesiynol Pencadlys yr Heddlu Glan y Don Bae Colwyn LL29 8AW E-bost: psdenquiries@northwales.police.uk neu neu drwy'r wefan Hawdd i'w Ddeall |
Y Prif Gwnstabl | Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Pencadlys yr Heddlu Glan y Don Bae Colwyn LL29 8AW E-bost: OPCC@heddlu-gogledd-cymru.police.uk neu Ffurflen Cysylltwch â Ni |
Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru | Panel Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy Bodlondeb Conwy LL32 8DU E-bost: phth.cwynion@conwy.gov.uk Cofrestr Cwynion 2019 |
Staff Swyddfa’r Comisiynydd Heddlu a Throsedd (SCHTH) | Prif Weithredwr SGHT Pencadlys yr Heddlu Glan y Don Bae Colwyn LL29 8AW E-bost: OPCC@heddlu-gogledd-cymru.police.uk neu Ffurflen Cysylltwch â Ni Polisi Cwynion |
Cydymffurfiaeth gyda Safonau'r Iaith Gymraeg | Prif Weithredwr SGHT Pencadlys yr Heddlu Glan y Don Bae Colwyn LL29 8AW E-bost: OPCC@heddlu-gogledd-cymru.police.uk neu Ffurflen Cysylltwch â Ni Polisi Cwynion Iaith Gymraeg |