Beth ydy treisio ac ymosodiad rhywiol?
Mae’r termau “treisio” ac “ymosodiad rhywiol” yn cael eu defnyddio yn gyfreithiol i olygu troseddau penodol. Efallai na wnaiff y termau yma adlewyrchu’r ffordd ‘rydych chi’n eu defnyddio eich hun.
Y diffiniad cyfreithiol o dreisio ydy pan mae rhywun yn rhoi ei bidyn yn fagina, anws neu geg rhywun arall, heb eu caniatâd.
Ymosodiad drwy dreiddiad ydy pan mae rhywun yn rhoi rhywbeth, neu unrhyw ran arall o'r corff heblaw y pidyn (er enghraifft, bysedd) yn fagina neu anws rhywun arall, heb ganiatâd yr unigolyn.
Ymosodiad rhywiol ydy pan mae rhywun yn eich cyffwrdd heb eich caniatâd, efo rhywbeth neu ran o’r corff.
Mae’r diffiniad cyfreithiol o “rhywiol” yn ddibynnol ar pe tai “unigolyn rhesymol” yn ei ystyried yn rhywbeth rhywiol.
Mae hefyd yn drosedd os ydy rhywun yn eich gorfodi i wneud neu wylio rhywbeth rhywiol heb eich caniatâd.
Mae cydsyniad yn golygu bod pawb yn cytuno i beth sy’n digwydd, drwy ddewis, ac efo’r rhyddid a’r gallu i wneud a newid y dewis hwnnw. Mae rhyw heb gydsyniad yn dreisio.
Sut i riportio Treisio ac Ymosodiad Rhywiol?
Os ydych chi neu rhywun ‘rydych yn adnabod wedi dioddef tresio neu ymosodiad rhywiol, mae’n bwysig riportio’r digwyddiadau i’r heddlu. Pan nad ydy’n argyfwng, gallwch gysylltu efo Heddlu Gogledd Cymru drwy ffonio 101, neu ddefnyddio porth adrodd ar-lein yr Heddlu.
Mae’r heddlu yn helpu drwy gasglu tystiolaeth, drwy sicrhau sylw meddygol, a sicrhau diogelwch y dioddefwr.
Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi cyhoeddi llyfryn, sy’n egluro proses ymchwilio’r heddlu, a be’ i ddisgwyl pan ‘rydych yn riportio treisio neu ymosodiad rhywiol. Mae’n egluro’r camau allweddol megis cyswllt cychwynnol yr heddlu, y broses fforensig, cyfweliadau’r dioddefwr, a rôl gynorthwyol y Cynghorwyr Annibynnol Trais Rhywiol (ISVAs):
Cefnogaeth i Ddioddefwyr Treisio ac Ymosodiad Rhywiol
Gall dioddefwyr treisio ac ymosodiad rhywiol gael cefnogaeth ac mae ffynonellau i’w helpu i riportio’r troseddau, ymdopi ag unrhyw drawma, ac ddeall y ffordd drwy’r system gyfreithiol.
Canolfan Gefnogi Trais a Cham-drin Rhywiol Gogledd Cymru (RASASC) Mae Canolfan Gefnogi Trais a Cham-drin Rhywiol Gogledd Cymru yn darparu gwybodaeth, cefnogaeth arbenigol a therapi i unrhyw un 3 oed a hŷn sydd wedi profi unrhyw fath o gam-drin rhywiol neu drais naill ai'n ddiweddar neu yn y gorffennol. Rydym ni hefyd yn cynnig cefnogaeth a therapi arbenigol i bartneriaid ac aelodau teulu’r rheiny sydd wedi dioddef oherwydd cam-drin rhywiol a thrais.
Canolfan Cyfeirio Ymosodiadau Rhywiol (SARC) Amethyst Gogledd Cymru Mae Amethyst SARC yn helpu dioddefwyr drwy ddarparu cefnogaeth arbenigol drwy eu Cynghorwyr Annibynnol Trais Rhywiol (ISVAs). Maen nhw wedi’u hyfforddi’n arbenigol i gynnig cyngor di-duedd, cymorth emosiynol, strategaethau ymdopi, a lle diogel a chyfrinachol ar gyfer y dioddefwyr, er mwyn iddyn nhw drafod eu profiadau ac i sicrhau eu bod yn cael y cymorth priodol ar gyfer anghenion yr unigolyn.
Bawso Mae Bawso yn darparu gwasanaethau atal, amddiffyn a chymorth ymarferol ac emosiynol i Bobl Dduon a Lleiafrifoedd Ethnig (BME) a dioddefwyr mudol Cam-drin Domestig, Trais Rhywiol, Anffurfio Organau Cenhedlu Benywod, Priodas dan Orfod, Trais ar Sail Anrhydedd, Caethwasiaeth Fodern a Masnachu Pobl.
Byw Heb Ofn Mae’r llinell gymorth Byw Heb Ofn yn darparu help a chyngor ynglŷn a thrais yn erbyn merched, cam-drin domestig a thrais rhywiol.