Cais am ddyfynbris: Torri'r Cylch - Gwerthuso ymyrraeth i Atal Trais Difrifol
Mae Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throsedd, fel rhan o'i rôl yn rhoi ar waith y ddyletswydd ar draws Gogledd Cymru yn chwilio am gontractwr cymwys i werthuso ymyraethau trais difrifol sydd wedi eu comisiynu gan Bartneriaethau Diogelwch Cymunedol (CSP) yng ngogledd Cymru.
Ystod y Prosiect
Bydd y gwerthusiad yn canolbwyntio ar effaith ymyraethau a gomisiynwyd gan y CSP yng Ngogledd Cymru i ymdrin â thrais difrifol. Bydd y prosiect yn dechrau ar 1 Medi, 2024, ac yn dod i ben erbyn 31 Mawrth, 2025.
Amcanion allweddol
Asesu effeithiolrwydd yr ymyraethau yn lleihau trais difrifol.
Adnabod dysgu allweddol ac arferion gorau ar gyfer y dyfodol.
Darparu argymhellion ar gyfer ehangu effaith y Ddyletswydd Trais Difrifol.
Dyddiad cau cyflwyno
Gwahoddir y rhai sydd â diddordeb i gyflwyno eu ceisiadau erbyn diwedd y dydd ar ddydd Llun, 29 Gorffennaf , 2024.
Cyswllt
Am ymholiadau a gwybodaeth bellach cysylltwch â:
Diane Jones
Arweinydd Rhaglen Atal Trais Difrifol
diane.jones3@northwales.police.uk
Penderfyniadau
Y Comisiynydd Heddlu a Throsedd fydd yn gwneud penderfyniadau gan ymgynghori fel sy’n briodol â’r Prif Weithredwr, y Prif Swyddog Ariannol, y Prif Gwnstabl a swyddogion neu asiantaethau eraill. Gall swyddogion hefyd wneud penderfyniadau yn unol â’r Cynllun Llywodraethu a gymeradwyir gan y Comisiynydd.
Cyfarfodydd, Agendâu a Chofnodion
- Rhestr cyfarfodydd sydd ar agor i’r cyhoedd
- Agendâu a chofnodion wedi’u cymeradwyo pob cyfarfod cyhoeddus ac unrhyw gyfarfod arall lle gwneir penderfyniad
- Gwybodaeth gefndirol ar gyfer cyfarfodydd sydd ar agor i’r cyhoedd
Gwneud Penderfyniadau
Cofnod o benderfyniadau pwysig a wneir
Gweithdrefnau, ffeithiau, a dadansoddiadau o ffeithiau a ddefnyddir ar gyfer gwneud penderfyniadau
- Os ymgymerir ag unrhyw asesiadau effaith cydraddoldeb byddant yn cael eu cyhoeddi yn amodol ar eithriadau Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000
Ymgynghoriadau Cyhoeddus
- Dweud eich dweud am y Praesept a blaenoriaethau plismona 2024 - I weld y canlyniadau, gwelwch yma
- Dweud eich dweud am y Praesept a blaenoriaethau plismona 2023 - I weld y canlyniadau, gwelwch yma
- Dweud eich dweud am y Praesept a blaenoriaethau plismona 2022 - I weld y canlyniadau, gwelwch yma