![Andy Dunbobbin - The Quay Hotel, Deganwy 2](/sites/default/files/2022-12/PCC%20awards-3_0.jpg)
Amdan y Comisiynydd
Mae ar y Comisiynydd gyfrifoldeb cyffredinol i sicrhau heddlu effeithiol ac effeithlon sy'n dangos gwerth am arian ac, yn bwysicaf oll, yn lleihau trosedd.
![OPCC COLLAGE 2](/sites/default/files/2022-12/2021%20%282%29.png)
Gwybodaeth
I weld manylion am busnes swyddfa'r Comisiynydd a gwasanaethau wedi eu comisiynu.
Gweithio mewn Partneriaeth
Mae datblygu partneriaethau effeithiol yn sylfaenol i’r gwaith a wneir gan y Comisiynydd.
Cynllun Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru
Mae'r Cynllun Heddlu a Throsedd yn canolbwyntio ar y prif feysydd fydd disgwyl i'r Heddlu eu cyflawni – materion sydd o bwys i bobl leol, ar y cyd a gofynion plismona cenedlaethol.
Cliciwch yma i ddarllen blaenoriaethau plismona Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru
Bydd Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru Andy Dunbobbin a Heddlu Gogledd Cymru yn cynnal cymorthfeydd misol i drigolion fel rhan o’i genhadaeth i ddod â phlismona yn agosach at bobl yr ardal. Bydd y fenter yn galluogi pobl leol i drafod plismona yn eu cymunedau ac i godi gofidion a sylwadau sydd ganddynt gyda'r Comisiynydd a swyddogion heddlu lleol.
Cyfarfod cymhorthfa nesaf:
Caergybi
Gorffennaf 24 | 2-4pm
Llyfrgell Caergybi, Neuadd y Farchnad, Stryd Stanley, Caergybi LL65 1HH
Cliciwch yma am fanylion pellach.
Bydd manylion cyfarfodydd y dyfodol yn cael eu cyhoeddi maes o law.
Cymorth i ddioddefwyr trosedd
Mae darparu cymorth i ddioddefwyr trosedd yn flaenoriaeth allweddol i’r Comisiynydd Heddlu a Throsedd. Un o'r gwasanaethau hanfodol y mae'r swyddfa'n ei gomisiynu ydy'r Ganolfan Cymorth Dioddefwyr, a leolir yn Llanelwy, sy'n cynorthwyo pob dioddefwr.
Os oes angen cymorth neu gyngor pellach arnoch chi, cliciwch ar y ddolen hon. (cliciwch 'Cymraeg' yn y faner uchaf i weld cyfieithiad Cymraeg)
Newyddion diweddaraf o Swyddfa'r Comisiynydd
- Newyddion
Mewn cyfarfod arbennig o Banel Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru ym Modlondeb, Conwy ar 21 Mehefin, ail-gadarnhawyd Wayne Jones fel Dirprwy Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru am gyfnod pellach o bedair blynedd.
- Newyddion
Mae menter newydd wedi’i lansio heddiw yng Nghanolfan Busnes Conwy, Cyffordd Llandudno, efo’r nod o greu Gogledd Cymru heb drais. Ei henw ydy Strategaeth Ymateb i Drais Difrifol Gogledd Cymru, a bwriad y cynllun ydy gweithio efo cymunedau er mwyn atal a lleihau trais difrifol ar draws y…
- Newyddion
Mae Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru (CHTh) Andy Dunbobbin a Heddlu Gogledd Cymru yn cynnal cymhorthfa gyngor yn llyfrgell y dref yn Neuadd y Farchnad ar Stryd Stanley ar gyfer trigolion Caergybi a’r cyffiniau o 2-4pm ar Orffennaf 24 fel rhan o'i ymgyrch i ddod â phlismona yn agosach…