Skip to main content

Y CHTh yn addo i fynd i’r afael â’r mater o feiciau trydanol yn achosi perygl ar strydoedd Gogledd Cymru

Dyddiad

Dyddiad

Yn ystod y misoedd diweddar, mae’r mater o feiciau a sgwteri trydanol a beiciau oddi ar y ffordd yn cael eu defnyddio’n amhriodol ar strydoedd Gogledd Cymru yn un sydd wedi’i godi gan nifer o breswylwyr efo’r Comisiynydd Heddlu a Throsedd (CHTh), Andy Dunbobbin. Mae nifer o ddamweiniau ac anafiadau wedi’u hachosi yn ddiweddar, sydd wedi dwyn y mater i sylw. Yn ystod Wythnos Ymwybyddiaeth Ymddygiad Gwrthgymdeithasol  - sy’n rhedeg o 18 – 24 Tachwedd – mae’r CHTh yn addo i weithredu ymhellach ar y pryder allweddol hwn ar ran preswylwyr, ac i wneud strydoedd Gogledd Cymru yn fwy diogel i bawb. Ac mae gwaith y Comisiynydd yn y maes hwn eisoes ar y gweill.

Yn ystod y cyfarfod Bwrdd Gweithredol Strategol Heddlu Gogledd Cymru diweddar, ar 30 Hydref, mi  gynhaliwyd adolygiad o Ddiogelwch y Ffyrdd er mwyn edrych ar y mater o feiciau trydanol a ffyrdd tebyg eraill o gludiant. Yn y cyfarfod, mi wnaeth Andy Dunbobbin a’i dîm gyfarfod efo Prif Swyddogion Heddlu Gogledd Cymru, er mwyn adolygu cyflawniad yr Heddlu yn gyfan gwbl, gan gynnwys o ran y blaenoriaethau yng Nghynllun Heddlu a Throsedd y CHTh.

Mi wnaeth y Prif Gwnstabl roi diweddariad ar gyflawniad Heddlu Gogledd Cymru, a sut mae’r Heddlu yn ymdrin â’r mater o feiciau oddi ar y ffordd, beiciau a sgwteri trydanol.

Mae swyddogion Heddlu Gogledd Cymru wedi cyflawni mentrau yn y gorffennol, fel Ymgyrch Blue Takeoff, er mwyn mynd i’r afael â’r defnydd anghyfreithlon o feiciau oddi ar y ffordd, a’u hatafaelu os oes angen. Yn  gynharach eleni, mi wnaeth swyddogion y Tîm Troseddau Cefn Gwlad lansio ymgyrch yn targedu beiciau oddi ar y ffordd yn cael eu defnyddio’n anghyfreithlon ac mewn ffordd gwrthgymdeithasol yn ardaloedd cefn gwlad Wrecsam, Sir Ddinbych a Sir y Fflint.

Mae’r CHTh yn ysgrifennu ei Gynllun Heddlu a Throsedd ar gyfer Gogledd Cymru ar hyn o bryd, sy’n gosod y blaenoriaethau ar gyfer plismona’r ardal dros y pedair blynedd nesaf. Mae’r cynllun wedi ei baratoi yn dilyn ymgynghoriad efo miloedd o bobl lleol dros yr haf. Mae’r pwnc o feiciau a sgwteri trydanol yn cael eu defnyddio’n amhriodol yn debygol o’i gynnwys yn y cynllun, ac mae’r CHTh yn bwriadu dal y Prif Gwnstabl yn atebol er mwyn sicrhau bod adnoddau priodol yn cael eu neilltuo i ymdrin â’r mater, a bod ymgyrchoedd yr heddlu yn parhau i wneud strydoedd yn fwy diogel ar gyfer pob defnyddiwr. Mae hefyd efo’r nod o weithio efo Llywodraethau’r DU a Chymru, er mwyn cyflwyno deddfwriaeth sy’n diogelu cymunedau rhag ymddygiad gwrthgymdeithasol sy’n ymwneud â beiciau a sgwteri trydanol.

Dywedodd Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, Andy Dunbobbin: “Mae’r mater o feiciau a sgwteri trydanol a beiciau oddi ar y ffordd yn un sydd wedi’i godi efo fi dro ar ôl tro yn ystod y misoedd diweddar. Mi ‘roedd yn bwnc allweddol ac mi wnaeth nifer o bobl sôn amdano yn ystod yr ymgynghoriad cyhoeddus  yn ddiweddar ar gyfer fy Nghynllun Heddlu a Throsedd i Ogledd Cymru, sydd ar ddod.

“Mae aelodau o Banel Heddlu a Throsedd y rhanbarth hefyd wedi codi pryderon eu cymunedau ynglŷn â’r mater, yn ystod y cyfarfodydd ‘dwi wedi’u cael efo nhw. Mae diogelwch y beiciau a sgwteri yma yn amlwg yn bwysig i lawer o breswylwyr Gogledd Cymru, ac mae damweiniau diweddar wedi dangos ei fod yn faes lle ‘da ni angen parhau i fod yn wyliadwrus. Mae’r Heddlu yn datblygu dulliau er mwyn ymdrin â phan maen nhw’n cael eu defnyddio er mwyn cyflawni ymddygiad gwrthgymdeithasol, dull ‘dwi’n ei gefnogi’n gyfan gwbl.

“Fel CHTh, ‘dwi’n parhau i ymrwymo i weithio efo’r Prif Gwnstabl ac ymdrin â phryderon y cyhoedd ynglŷn â beiciau a sgwteri trydanol, a beiciau oddi ar y ffordd. Mae llawer o ddefnyddwyr beiciau a sgwteri trydanol yn eu defnyddio’n briodol ac yn ystyried cerddwyr, ond mae lleiafrif sydd ddim, ac mae’n rhaid iddyn nhw gael gwybod nad ydy’r ymddygiad yn dderbyniol. ‘Dwi’n benderfynol dylai ein strydoedd fod yn ddiogel i bawb, pe bai nhw ar droed, ar feic neu mewn cerbyd – ‘does dim esgus rhoi eraill mewn perygl na achosi anafiadau drwy reidio yn ddiofal.”

Am ragor o wybodaeth ynglŷn ag ymddygiad gwrthgymdeithasol yng Ngogledd Cymru a sut i’w riportio, ewch i: northwales.police.uk/cy-GB/cyngor/cyngor-a-gwybodaeth/asb/asb/ymddygiad-gwrthgymdeithasol/