Skip to main content

Ymweld a Chraffu Cyhoeddus Annibynnol

Mae'r Comisiynydd Heddlu a Throsedd a'i swyddfa yn gyfrifol am gynnal gwasanaeth heddlu effeithlon ac effeithiol ar gyfer Gogledd Cymru. Mae craffu a herio cyflawniad Heddlu Gogledd Cymru yn rhan allweddol o'u gwaith. Mae hyn yn cynnwys monitro cyflawniad o ran y Cynllun Heddlu a Throsedd.

Ar wahân i wneud gwaith goruchwylio yn uniongyrchol eu hunain, mae yna adegau lle mae'r swyddfa yn trysori aelodau o'r cyhoedd yn cymryd rhan weithredol wrth graffu ar waith yr heddlu. Mae'r aelodau hyn o'r cyhoedd o bob cefndir yn chwarae rhan amhrisiadwy wrth gynnig golwg annibynnol ar waith yr heddlu.

Gall hyn gynnwys ymweld hefo pobl yn y ddalfa er mwyn gwneud yn siŵr bod eu hawliau'n cael eu gwarchod, sicrhau lles cŵn heddlu, cymryd rhan mewn grwpiau sy'n goruchwylio cysylltiadau heddlu hefo cymunedau lleiafrifol a bregus, gan gynnwys pobl LHDTQ+, pobl Ddu a Lleiafrifoedd Ethnig, pobl anabl, a phobl ifanc.

Gallwch ddarllen mwy am bob un o'r gwahanol gynlluniau, grwpiau a phaneli ymweld annibynnol isod ynghyd â gwybodaeth am sut i ymuno a chymryd rhan. Mae'r meysydd a'r cynlluniau craffu yn cynnwys:

Cynllun Ymwelwyr Dalfeydd Annibynnol

Mae Ymwelwyr Dalfeydd Annibynnol yn aelodau o’r cyhoedd sydd wedi’u recriwtio gan y Comisiynydd Heddlu a Throsedd i ymweld â Dalfeydd yng ngogledd Cymru ar hap i wirio triniaeth a lles pobl sy’n cael eu cadw yn y ddalfa gan yr heddlu. Mae’n ddyletswydd statudol ar y Comisiynydd i gael Cynllun Ymwelwyr Dalfeydd Annibynnol.

Mae Ymwelwyr Dalfeydd yn ymweld mewn parau ac yn cyrraedd yn ddirybudd yn y Dalfeydd, cânt fynediad ar unwaith i'r ddalfa. Eu gwaith yw siarad â'r bobl sy'n cael eu cadw yn y ddalfa ac archwilio'r amodau y maent yn cael eu cadw. Ar ddiwedd pob ymweliad maent yn paratoi adroddiad ar eu canfyddiadau.

Os bydd unrhyw faterion yn cael eu codi yn yr adroddiadau, caiff y rhain eu datrys yn syth drwy siarad â Swyddog y Ddalfa neu os ydynt yn fwy cymhleth caiff y mater ei gyfeirio ar unwaith at Arolygydd y Ddalfa. Mae'r holl adroddiadau adborth yn cael eu dadansoddi gan yr Heddlu a Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throsedd a'u trafod yng nghyfarfod Panel Annibynnol yr Ymwelwyr â'r Ddalfa a gynhelir bob 3 mis.

Daw Ymwelwyr Dalfeydd o amrywiaeth o gefndiroedd ac adrannau o’r gymuned. Rhaid iddynt fod dros 18 oed, yn byw neu'n gweithio yn ardal yr heddlu a heb unrhyw gysylltiad uniongyrchol â'r system cyfiawnder troseddol.

Mae'r holl waith a wneir yn wirfoddol, ac ad-delir costau teithio gan Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throsedd.

Cynllun Ymweliadau Lles Cŵn

Sefydlwyd y Cynllun Lles Cŵn Heddlu ar y cyd yn Swydd Gaer a Gogledd Cymru i wirio lles cŵn heddlu.

Mae Ymwelwyr Lles Cŵn Heddlu yn gwirio lles pob ci heddlu, yn enwedig mewn perthynas â ‘Pum Rhyddid’ yr RSPCA sy’n mynychu cenelau a chyfleusterau hyfforddi.

Mae'r RSPCA yn credu y dylai unrhyw un sy'n gyfrifol am ofalu am anifeiliaid geisio rhoi'r pum rhyddid iddyn nhw. Ystyrir bod y pum rhyddid yn ddyheadol, gan na ellir eu cyflawni a'u cynnal bob amser. Er enghraifft, efallai y bydd angen i anifail deimlo'n newynog cyn iddo fwyta. Fodd bynnag, dylai ceidwaid anifeiliaid bob amser anelu at roi'r pum rhyddid i'w hanifeiliaid cyn belled ag y bo modd.

Y pum rhyddid yw:

  • Rhyddid rhag newyn a syched - dylai anifeiliaid gael mynediad at ddŵr ffres drwy'r amser a'r math cywir o fwyd i'w cadw'n heini.
  • Rhyddid rhag anghysur - dylai anifeiliaid gael y math cywir o gartref, gan gynnwys cysgod a rhywle cyfforddus i orffwys.
  • Rhyddid rhag poen, anaf neu afiechyd - dylai anifeiliaid fod yn ffit ac yn iach bob amser a dylent gael eu trin gan filfeddyg os ydynt yn sâl neu wedi'u hanafu.
  • Rhyddid i ymddwyn yn normal - dylai anifeiliaid gael digon o le, cyfleusterau priodol a chwmni anifeiliaid eraill o'u math eu hunain.
  • Rhyddid rhag ofn neu drallod - trwy sicrhau bod amodau a thriniaeth yr anifeiliaid yn osgoi dioddefaint meddyliol.

Pam y crëwyd y Cynllun Ymwelwyr Lles Cŵn Heddlu?

Fwy na 21 mlynedd yn ôl, arweiniodd marwolaeth ci heddlu ‘Acer’ tra’n hyfforddi yn Essex, yn ogystal ag erlyniad dilynol swyddogion heddlu dan sylw, at golli hyder y cyhoedd mewn dulliau hyfforddi cŵn heddlu mewn modd dealladwy.

Nod Cynllun Lles Cŵn Heddlu yw cynnal safonau a sicrhau bod gweithdrefnau hyfforddi Cwnstabliaeth Swydd Gaer yn foesegol, yn drugarog, yn dryloyw ac yn atebol. Mae Ymwelwyr Lles Cŵn Heddlu yn arsylwi, yn rhoi sylwadau ac yn adrodd ar yr amodau y mae cŵn y Gwnstabliaeth yn cael eu cartrefu, eu hyfforddi a’u cludo.

Ar hyn o bryd mae gennym nifer o wirfoddolwyr profiadol ac ymroddedig sy'n gweithio'n galed i sicrhau bod safonau'n uchel a bod aelodau'r cyhoedd yn cael eu gwasanaethu'n dda.

Mae Heddlu Gogledd Cymru yn cynnal cyfarfodydd cymunedol ar-lein i bobl leol drafod plismona yng Ngogledd Cymru.

Cyfarfod Grŵp Hil Heddlu Gogledd Cymru

Mae Cyfarfod Grŵp Hil Heddlu Gogledd Cymru yn cael ei gynnal er mwyn i aelodau'r gymuned siarad am faterion plismona sy'n ymwneud â hil.

Mae'r cyfarfodydd hyn yn gyfle i bobl roi adborth uniongyrchol i Heddlu Gogledd Cymru am broblemau, mathau o droseddau, tensiynau cymunedol neu faterion plismona cyffredinol eraill sy'n effeithio ar bobl oherwydd eu hil. Mae'n gyfle hefyd i'r heddlu rannu gwybodaeth am faterion plismona perthnasol yng Ngogledd Cymru

Mae'r cyfarfodydd sy'n cael eu cynnal bob chwarter, yn gyfle gwych i aelodau'r cyhoedd a sefydliadau cymunedol fynegi barn, rhannu pryderon, datrys problemau⁠, a chyfrannu at sgyrsiau am hil a phlismona. Does dim gofynion penodol i'r rhai sy'n bresennol – mae croeso i chi ddod draw dim ond i wrando neu ymuno yn y sgwrs. Diben y cyfarfodydd hyn ydy sicrhau bod yr heddlu'n ymwybodol am faterion trosedd a phlismona sy'n effeithio ar gymunedau. Os ‘da chi'n credu bod angen gwell dealltwriaeth ar yr heddlu ynghylch sut mae troseddau sy'n gysylltiedig â hil a chamau'r heddlu yn effeithio ar bobl, dewch draw.

Mae'r cyfarfodydd fel arfer tua 2 awr ac mae swyddogion a staff Heddlu Gogledd Cymru yn bresennol. Swyddfa'r Comisiynydd Heddlu a Throsedd sy'n eu cadeirio nhw ar hyn o bryd. Mae'r pynciau a drafodir fel arfer yn cynnwys Stopio a Chwilio, Troseddau Casineb, Tensiynau Cymunedol a'r Cynllun Gweithredu Gwrth-Hiliaeth.

Os oes gennych chi ddiddordeb cymryd rhan yn y cyfarfodydd, cysylltwch hefo Lisa McNulty (Lisa.McNulty@northwales.police.uk) o Uned Amrywiaeth yr Heddlu a fydd yn eich ychwanegu at ein rhestr cysylltiadau ac yn gallu trefnu anfon gwahoddiad Teams atoch chi. Os hoffech chi fwy o wybodaeth neu drafod rôl y grŵp hwn yn fanylach, cysylltwch hefo mi, Elizabeth Ward (Elizabeth.ward@northwales.police.uk).

Hefyd, os oeddech chi'n arfer mynychu ond heb fod ers tro, ailgysylltwch trwy Lisa. Mae'n bwysig ein bod yn manteisio ar y cyfle i siarad hefo a chyfeirio at yr heddlu wrth ymdrin â throsedd a materion yn ymwneud hefo hil.

Cyfarfod Grŵp LHDT+ Heddlu Gogledd Cymru

Mae Cyfarfod Grŵp LHDT+ Heddlu Gogledd Cymru yn cael ei gynnal er mwyn i aelodau'r gymuned siarad am faterion plismona sy'n ymwneud â phobl LHDT+.

Mae'r cyfarfodydd hyn yn gyfle i bobl roi adborth uniongyrchol i Heddlu Gogledd Cymru am broblemau, mathau o droseddau, tensiynau cymunedol neu faterion plismona cyffredinol eraill sy'n effeithio ar bobl oherwydd eu bod yn LDHT+. Mae'n gyfle hefyd i'r heddlu rannu gwybodaeth am faterion plismona perthnasol yng Ngogledd Cymru

Mae'r cyfarfodydd sy'n cael eu cynnal bob chwarter, yn gyfle gwych i aelodau'r cyhoedd a sefydliadau cymunedol fynegi barn, rhannu pryderon, datrys problemau⁠, a chyfrannu at sgyrsiau am faterion plismona ar gyfer y gymuned LHDT+. Does dim gofynion penodol i'r rhai sy'n bresennol – mae croeso i chi ddod draw dim ond i wrando neu ymuno yn y sgwrs. Diben y cyfarfodydd hyn ydy sicrhau bod yr heddlu'n ymwybodol am faterion trosedd a phlismona sy'n effeithio ar gymunedau. Os ‘da chi'n credu bod angen gwell dealltwriaeth ar yr heddlu ynghylch sut mae troseddau sy'n gysylltiedig â LHDT+ a chamau'r heddlu yn effeithio ar bobl, dewch draw.

Mae'r cyfarfodydd fel arfer tua 2 awr ac mae swyddogion a staff Heddlu Gogledd Cymru yn bresennol. Mae aelod o'r gymuned yn eu cadeirio ar hyn o bryd. Mae'r pynciau a drafodir fel arfer yn cynnwys Stopio a Chwilio, Troseddau Casineb, a Thensiynau Cymunedol.

Os oes gennych ddiddordeb cymryd rhan yn y cyfarfodydd, cysylltwch hefo Lisa McNulty (Lisa.McNulty@northwales.police.uk) o Uned Amrywiaeth yr Heddlu a fydd yn eich ychwanegu at ein rhestr cysylltiadau ac yn gallu trefnu anfon gwahoddiad Teams atoch chi. Os hoffech chi fwy o wybodaeth neu drafod rôl y grŵp hwn yn fanylach, cysylltwch hefo Greg George (Pennaeth Datblygu Amrywiaeth Corfforaethol) Greg.George@northwales.police.uk.

Hefyd, os oeddech chi'n arfer mynychu ond heb fod ers tro, ailgysylltwch trwy Lisa. Mae'n bwysig ein bod ni’n manteisio ar y cyfle er mwyn siarad hefo a chyfeirio at yr heddlu wrth ymdrin â throseddau a materion yn ymwneud hefo LHDT+.

Cyfarfod Grŵp Anabledd Heddlu Gogledd Cymru

Mae Cyfarfod Grŵp Anabledd Heddlu Gogledd Cymru yn cael ei gynnal er mwyn i aelodau'r gymuned siarad am faterion plismona sy'n ymwneud â phobl anabl.

Mae'r cyfarfodydd hyn yn gyfle i bobl roi adborth uniongyrchol i Heddlu Gogledd Cymru am broblemau, mathau o droseddau, tensiynau cymunedol neu faterion plismona cyffredinol eraill sy'n effeithio ar bobl anabl. Mae'n gyfle hefyd i'r heddlu rannu gwybodaeth am faterion plismona perthnasol yng Ngogledd Cymru.

Mae'r cyfarfodydd sy'n cael eu cynnal bob chwarter, yn gyfle gwych i aelodau'r cyhoedd a sefydliadau cymunedol fynegi barn, rhannu pryderon, datrys problemau⁠, a chyfrannu at sgyrsiau am faterion plismona ar gyfer pobl anabl. Does dim gofynion penodol i'r rhai sy'n bresennol – mae croeso i chi ddod draw dim ond i wrando neu ymuno yn y sgwrs. Diben y cyfarfodydd hyn ydy sicrhau bod yr heddlu'n ymwybodol am faterion trosedd a phlismona sy'n effeithio ar gymunedau. Os ‘da chi'n credu bod angen gwell dealltwriaeth ar yr heddlu ynghylch sut mae troseddau sy'n gysylltiedig hefo anabledd a chamau'r heddlu yn effeithio ar bobl, dewch draw.

Mae'r cyfarfodydd fel arfer tua 2 awr ac mae swyddogion a staff Heddlu Gogledd Cymru yn bresennol. Ar hyn o bryd maen nhw'n cael eu cadeirio gan Bennaeth Amrywiaeth Heddlu Gogledd Cymru. Mae'r pynciau a drafodir fel arfer yn cynnwys Stopio a Chwilio, Troseddau Casineb, a Thensiynau Cymunedol.

Os oes gennych ddiddordeb cymryd rhan yn y cyfarfodydd, cysylltwch hefo Lisa McNulty (Lisa.McNulty@northwales.police.uk) o Uned Amrywiaeth yr Heddlu a fydd yn eich ychwanegu chi at ein rhestr cysylltiadau ni ac yn gallu trefnu anfon gwahoddiad Teams atoch chi. Os hoffech chi fwy o wybodaeth neu drafod rôl y grŵp hwn yn fanylach, cysylltwch hefo Greg George (Pennaeth Datblygu Amrywiaeth Corfforaethol) Greg.George@northwales.police.uk.

Hefyd, os oeddech chi'n arfer mynychu ond heb fod ers tro, ailgysylltwch trwy Lisa. Mae'n bwysig ein bod ni’n manteisio ar y cyfle er mwyn siarad hefo a chyfeirio at yr heddlu wrth ymdrin â throseddau a materion yn ymwneud hefo LHDT+.

  • Panel Craffu Defnyddio Grym yn Gyhoeddus Heddlu Gogledd Cymru
  • Panel Craffu Stopio a Chwilio
  • Grŵp Cynghori Annibynnol Heddlu Gogledd Cymru