Beth ydy cam-drin domestig?
Cam-drin domestig ydy patrwm o ymddygiad difrïol mewn perthynas, sy’n ymwneud â phartneriaid neu gyn- bartneriaid, neu aelodau teulu. Gall ymddangos mewn sawl ffurf, gan gynnwys cam-driniaeth corfforol, emosiynol, rhywiol ac ariannol, ac hefyd rheoli drwy orfodaeth ac ymddygiad bygythiol.
Gall cam-drin corfforol fod yn rhywbeth sy’n achosi niwed corfforol neu anafiadau. Bwriad cam-drin emosiynol ydy bychanu hunan-werth y dioddefwr. Cam-drin rhywiol ydy unrhyw weithred neu ymddygiad rhywiol sy’n ddieisiau. Mae cam-drin ariannol yn ymwneud â rheoli neu gwrthod mynediad i ffynonellau ariannol, gan adael y dioddefwr yn ddibynnol ar y cam-driniwr.
Mae trais domestig yn medru cael effaith difrifol a hir-barhaol ar ddioddefwyr, gan gynnwys anafiadau corfforol a thrawma seicolegol. Mae’n fater difrifol sy’n effeithio ar unigolion o unrhyw gefndir, beth bynnag eu hoed neu eu rhyw.
Sut i riportio cam-drin domestig?
Os ydych chi neu rhywun dach chi’n adnabod yn dioddef cam-drin domestig, gallwch riportio drwy ffonio 999 mewn argyfwng, 101 pan nad ydy’n argyfwng, neu drwy wefan riportio trosedd Heddlu Gogledd Cymru.
Pan dach chi’n riportio cam-drin domestig, mi fyddwch yn siarad efo pobl broffesiynol sydd ag arbenigedd ar gyfer ymdrin â’r sefyllfaoedd sensitif yma. Maen nhw’n deall cymhlethdod cam-drin domestig ac yn medru rhoi’r gefnogaeth a’r cyngor sydd angen.
Cefnogaeth i ddioddefwyr cam-drin domestig
Mae ein gwasanaethau wedi’u comisiynu ar gael i helpu unigolion sydd wedi’u heffeithio gan gam-drin domestig:
Uned Diogelwch Cam-Drin Domestig Mae’r Uned Diogelwch Cam-Drin Domestig (DASU) yn sefydliad sy’n darparu ymyrraeth cydweithredol a phwrpasol proffesiynol ar gyfer pobl sy’n dioddef cam-drin domestig ar draws siroedd Conwy, Dinbych, y Fflint a Wrecsam.
(Y rhain ‘dwi wedi’u cymryd o’u gwefannau, fel yn y fersiwn Saesneg)
Byw Heb Ofn Mae’r llinell gymorth Byw Heb Ofn yn darparu help a chyngor ynglŷn a thrais yn erbyn merched, cam-drin domestig a thrais rhywiol.
Bawso Mae Bawso yn darparu gwasanaethau atal, amddiffyn a chymorth ymarferol ac emosiynol i Bobl Dduon a Lleiafrifoedd Ethnig (BME) a dioddefwyr mudol Cam-drin Domestig, Trais Rhywiol, Anffurfio Organau Cenhedlu Benywod, Priodas dan Orfod, Trais ar Sail Anrhydedd, Caethwasiaeth Fodern a Masnachu Pobl.
Canolfan Cefnogi Trais a Cham-drin Rhywiol Gogledd Cymru (RASASC) Mae Canolfan Cefnogi Trais a Cham-drin Rhywiol Gogledd Cymru yn darparu gwybodaeth, cefnogaeth arbenigol a therapi i unrhyw un 3 oed a hŷn sydd wedi profi unrhyw fath o gam-drin rhywiol neu drais naill ai'n ddiweddar neu yn y gorffennol. Rydym ni hefyd yn cynnig cefnogaeth a therapi arbenigol i bartneriaid ac aelodau teulu’r rheiny sydd wedi dioddef oherwydd cam-drin rhywiol a thrais.
Gorwel Uned fusnes o fewn cymdeithas dai Grŵp Cynefin sy’n darparu gwasanaethau o safon i gefnogi pobl sy’n dioddef cam-drin domestig. Mae Gorwel yn gweithio gydag unigolion a theuluoedd, gan gynnwys tenantiaid Grŵp Cynefin, o fewn pedair sir gogledd Cymru: Ynys Môn, Gwynedd, Sir Conwy a Sir Ddinbych.