Dyddiad
Mae prosiect o'r enw 'Peidiwch â dwyn fy nyfodol' (Don't steal my future) sy'n ceisio codi ymwybyddiaeth o beryglon rhwydo, pornograffi a chasineb at ferched wedi derbyn arian fel rhan o Strategaeth Ymateb Trais Difrifol Gogledd Cymru i redeg gweithgareddau mewn ysgolion ar draws yr ardal. Roedd sesiwn o'r prosiect yn Ysgol Bryn Eilian yn Mae Colwyn yn ganolbwynt ymweliad ar 24 Hydref gan Gomisiynydd Heddlu a Throsedd (CHTh) Heddlu Gogledd Cymru, Andy Dunbobbin, a aeth i weld effaith y fenter ymysg myfyrwyr yn yr ysgol.
Daeth 'Peidiwch â dwyn fy nyfodol' i fodolaeth yn dilyn llofruddiaeth Sarah Everard er mwyn mynd i'r afael â thrais rhywiol ar draws cymdeithas. Y fformat yw gweithdy hyd at dair awr i blant a phobl ifanc. Mae'r hyfforddiant, sy'n cael ei gyflwyno gan dîm o hyfforddwyr profiadol yn darparu dysgu rhyngweithiol, enghreifftiau go iawn a llawer o wybodaeth ddefnyddiol wedi ei gyflwyno mewn modd i helpu rhoi gwybod i'r rhai sydd yn bresennol yr hyn yw trais rhywiol. Ynddo mae pecyn yn cynnwys dysgu rhyngweithiol am drais rhywiol, ei amledd a'i effaith nid yn unig ar y rhai sy'n goroesi ond hefyd ar droseddwyr a'u teuluoedd.
Croesawyd y CHTh i Ysgol Bryn Elian gan y Pennaeth Mrs Hastings yn y brif neuadd. Cyflwynwyd y sesiwn i dros 100 o ddisgyblion blwyddyn 8 a wnaeth gymryd rhan i gychwyn mewn cwis i brofi eu gwybodaeth o'r gyfraith a'r materion yn ymwneud â thrais rhywiol, rhwydo a chydsynio. Symudodd y drafodaeth ymlaen at safonau derbyniol o ymddygiad a modelau rôl gwrywaidd, sut i ddangos parch tuag at ferched a'u cyfraniad ehangach i gymdeithas.
Dywedodd Maria Senior o'r staff dysgu yn Ysgol Bryn Elian: "Fel rhan o'r cwricwlwm addysg bersonol a chymdeithasol, mae'n hanfodol ein bod ni'n cael sesiynau sy'n creu ymwybyddiaeth o drais rhywiol. Mae'r prosiect ‘'Peidiwch â dwyn fy nyfodol' wedi ei drefnu gan Ganolfan Cefnogi Trais a Cham-drin Rhywiol (RASASC) a chyflwynwyd sesiynau yn Ysgol Bryn Elian ar 24 Hydref. Cyflwynwyd y sesiynau mewn ffyrdd gwahanol i'r bobl ifanc mewn modd effeithiol. Y nod yw codi ymwybyddiaeth o drais rhywiol, yn ogystal â gwybod am rwydo, pornograffi a thrais yn erbyn merched. Mae'n bwysig iawn i'n pobl ifanc sicrhau bod ganddynt y cyfle i dyfu i fod yn ddinasyddion iach a hyderus yn unol â Phedwar Amcan Cwricwlwm Cymru."
Dywedodd Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru: “Mae trais rhywiol yn felltith ar gymdeithas ac yn rhywbeth mae'n rhaid i ni i gyd gydnabod a'i herio. Gall pobl ddioddef trais rhywiol o oed ifanc ac mae'n bwysig ein bod ni'n codi ymwybyddiaeth o'r pwnc hwn mewn modd sy'n addas ar gyfer oed y bobl ifanc fel ein bod ni'n gallu eu cadw'n ddiogel. Dyna pam mae prosiectau fel 'Peidiwch â dwyn fy nyfodol' mor hanfodol ag roedd hi'n dda gweld y prosiect ar waith a gweld sut gwnaeth y bobl ifanc ymateb i'r neges.
"Mae trais difrifol yn cael effaith andwyol ar unigolion a chymunedau ar draws Gogledd Cymru. Yn ystod 2022-23 cofnodwyd 30,000 o droseddau trais yn erbyn unigolion gan yr heddlu ar draws y rhanbarth. Er bod hyn yn lleihad o'r flwyddyn flaenorol - ac yn dangos gwaith caled Heddlu Gogledd Cymru a phartneriaid yn y gymuned - dw i'n benderfynol o weld y ffigwr hwn yn disgyn yn is byth."
Dywedodd Gaynor McKeown, Prif Weithredwr, Canolfan Cymorth Trais a Cham-drin Rhywiol Gogledd Cymru (RASASCNW): Mae ymgyrch "Peidiwch â dwyn fy nyfodol" RASASC Gogledd Cymru yn rhaglen unigryw sy'n codi ymwybyddiaeth o drais rhywiol a cham-drin. Mae’n trafod ei effaith a pha mor gyffredin ydyw ac mae'r themâu yn berthnasol ac yn gyfredol - yn adlewyrchu ar yr hyn sydd yn digwydd i blant a phobl ifanc nawr.
“Ein nod a'n gweledigaeth yw herio agweddau a newid ymddygiad, a sut gallwn ni fel unigolion ac fel cymuned gyfrannu at y newid sydd angen mewn cymdeithas i leihau/diddymu trais a thrais rhywiol yn cynnwys trais yn erbyn merched a genethod sydd nawr yn cael ei ystyried yn epidemig, tebyg i derfysgaeth mewn cymdeithas."
Bydd yr arian a dderbyniwyd gan y Comisiynydd Heddlu a Throsedd hefyd yn galluogi i'r neges 'Peidiwch â dwyn fy nyfodol' gael ei gyflwyno drwy sesiynau sy'n addas i oed y disgyblion ym mlwyddyn 6 mewn ysgolion. I gyd-fynd â'r rhaglen, bydd llwybrau atgyfeirio, hyfforddiant ac adnoddau ychwanegol yn cael eu cyflwyno i staff ar ymwybyddiaeth o drais rhywiol a sut i hwyluso datgeliadau. Roedd y prosiect eisoes ar y gweill gyda disgyblion hŷn, ond nawr diolch i'r arian hwn bydd disgyblion iau hefyd yn derbyn sesiynau. Mae'r bwlch hwn yn y ddarpariaeth yn angen a nodwyd gan Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol yng Nghonwy a Sir Ddinbych o dan Gadeiryddiaeth Peter Brown a'r Rheolwr Sian Taylor.
Mae'r prosiect yn cael ei redeg gan Ganolfan Cymorth Treisio a Cham-drin Rhywiol Gogledd Cymru (RASASCNW) sy'n seiliedig ym Mangor ac yn darparu gwybodaeth, cefnogaeth arbenigol a therapi i unrhyw un dros dair oed neu'n hŷn sydd wedi profi unrhyw fath o gam-drin neu drais rhywiol naill ai'n ddiweddar neu'n y gorffennol. Maent hefyd yn darparu cefnogaeth arbenigol a therapi i bartneriaid ac aelodau o deuluoedd rhai sydd wedi cael eu heffeithio gan gam-drin rhywiol a thrais.
Amcan Strategaeth Ymateb i Drais Difrifol ydy gweithio gyda chymunedau i atal a leihau trais difrifol ar draws yr ardal. Mae'n canolbwyntio ar ddod â phartneriaid, yn cynnwys yr heddlu, awdurdodau lleol, gwasanaethau tân ac achub ac asiantaethau iechyd a chyfiawnder troseddol penodol at ei gilydd er mwyn ymdrin â thrais difrifol a'i achosion gwreiddiol. Mae'r CHTh a'i swyddfa yn gweithredu fel cyd-gydlynydd ar gyfer y rhanddeiliaid hyn.
Prif flaenoriaethau Strategaeth Ymateb Trais Difrifol Gogledd Cymru yw:
- Cynorthwyo a gwella atal ac ymyrraeth gynnar ynghylch trais yn erbyn merched a genethod, cam-drin domestig, a thrais rhywiol (VAWDASV).
- Hyrwyddo diogelu cyd-destunol er mwyn gweithio gyda phlant a phobl ifanc sy'n agored i gam-fanteisio a/neu gaethwasiaeth fodern.
- Nodi a gweithredu gwelliannau, arfer gorau ac arloesedd fel partneriaeth er mwyn ymateb i drais difrifol.
- Adeiladu dull ataliol yng Ngogledd Cymru, drwy ddealltwriaeth o risg, profiadau niweidiol yn ystod plentyndod a thrawma.