Skip to main content

Arian troseddwyr yn talu am bererindod ingol pobl ifanc o Ynys Môn

Dyddiad

Arian troseddwyr yn talu am bererindod ingol pobl ifanc o Ynys Môn

Bydd pridd o Benysarn ar Ynys Môn yn cael ei daenellu dros feddau milwyr y Rhyfel Byd Cyntaf o’r pentref gan aelodau o’r clwb ieuenctid lleol, ac mae’r daith yn cael ei hariannu gan arian sydd wedi ei atafaelu gan droseddwyr.

Mae’r trip i Wlad Belg yn rhan o brosiect i ddelio gydag ymddygiad gwrthgymdeithasol yn y pentref ac mae’n cynnwys pobl ifanc, rhwng 11 a 18 oed, sydd wedi bod yn ymchwilio i filwyr o’r pentref dros y pedair blynedd diwethaf.

Cafodd y trip ei ohirio oherwydd ymosodiad terfysgol ar Frwsel yn 2016 ond bydd y bobl ifanc yn awr yn medru gwneud y bererindod emosiynol i faes y gad yn Ypres i dalu teyrnged i’r saith milwr o Benysarn bu farw yno.

Cyn i’r prosiect gael ei lansio roedd grwpiau o bobl ifanc wedi bod yn ymddwyn yn wrthgymdeithasol, ond ar ôl cael eu hysbrydoli a’u cymell gan yr hyn y maent wedi ei ddysgu, mae gan y bobl ifanc bellach llawer mwy o falchder yn eu pentref ac mae hyn wedi helpu i godi pontydd gyda’r gymuned.

Mae Clwb Ieuenctid Penysarn, sydd â 23 aelod, wedi derbyn grant o £1,000 i wneud eu trip i Wlad Belg yn bosibl.

Daw’r grant o gronfa arbennig sydd wedi cael ei dosbarthu gan Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru Arfon Jones, sydd â chyfanswm o £61,901 ynddi eleni ac sy’n cynnwys dau gyfraniad mawr a neilltuwyd yn benodol i ymladd bygythiad Llinellau Cyffuriau.

Mae menter Eich Cymuned, Eich Dewis hefyd yn cael ei chefnogi gan Ymddiriedolaeth Heddlu a Chymuned Gogledd Cymru sy’n dathlu eu 21ain pen-blwydd eleni.

Daw’r cyllid ar gyfer y cynlluniau o arian gafodd ei atafaelu gan y llysoedd drwy’r Ddeddf Elw Troseddau gyda’r gweddill yn dod o Gronfa Comisiynydd yr Heddlu.

Mae pob un o chwe sir y rhanbarth wedi derbyn hyd at £2,500 yr un ar gyfer dau grŵp gyda £5,000 yr un hefyd wedi’i neilltuo ar gyfer dau grŵp arall sy’n gweithredu mewn tair neu fwy o siroedd.

Yn ychwanegol eleni, diolch i gyllid ychwanegol gan Gomisiynydd yr Heddlu a Throsedd a Heddlu Gogledd Cymru, mae dau grant newydd o £10,000 ar gael.

Bwriad y grantiau sylweddol hyn yw ariannu prosiectau sy’n delio â phroblemau sy’n deillio o fygythiad Llinellau Cyffuriau, lle mae pobl ifanc yn cael eu gorfodi a’u bygwth â thrais i gymryd rhan mewn gweithgareddau anghyfreithlon ar draws y rhanbarth.

Roedd tua 15,000 wedi bwrw pleidlais ar-lein i benderfynu pa un o’r cynlluniau cymunedol ddylai dderbyn cefnogaeth, a chyflwyniad sieciau i’r 19 ymgeisydd llwyddiannus ym Mhencadlys Heddlu Gogledd Cymru ym Mae Colwyn.

Dywedodd arweinydd Clwb Ieuenctid Penysarn, Carol Whittaker: “Fe wnaethon ni geisio mynd allan i Wlad Belg tair blynedd yn ôl ond cafodd Brwsel ei tharo gan fomiau ar y dydd Llun, ac roeddem ni fod i fynd allan yno ar y dydd Sadwrn wedyn.

Mi wnaethon ni ofyn i’r rheini beth roedden nhw eisiau gwneud ac yn ddealladwy, nid oedden nhw’n awyddus i’w plant fynd.

Rwan, diolch i’r grant rydym wedi ei gael, gallwn fynd â’r bobl ifanc draw i Wlad Belg ym mis Gorffennaf lle byddan nhw’n ymweld â beddau saith milwr o Benysarn gan osod torch a chroes ar bob bedd.

Rydym hefyd yn mynd i fynd ag ychydig o bridd o’r pentref i roi ar eu beddau. Yn amlwg, nid yw’r milwyr byth yn mynd i ddychwelyd felly mae hyn yn golygu ei bod ni’n medru mynd â darn bach o adref atyn nhw. Rwy’n teimlo’n emosiynol wrth feddwl am y peth.”

Dywedodd Carol, sy’n athrawes yn Ysgol Syr Thomas Jones, Amlwch ac sydd wedi bod yn rhan o’r clwb ieuenctid am 21 mlynedd, bod y prosiect Rhyfel Byd Cyntaf wedi atal ymddygiad gwrthgymdeithasol ym Mhenysarn.

Esboniodd: “Roedd pobl ifanc yn dod i’r clwb ieuenctid ond hefyd yn achosi problemau tu allan. Rwan mae pethau’n llawer gwell.

Mae’r bobl ifanc yn teimlo’n falch dros eu pentref ac maen nhw’n ymwybodol o hanes teimladwy ein neuadd bentref a gafodd ei adeiladu er cof am y milwyr.

Roedd ymchwilio i enwau’r 17 milwr sydd ar y garreg goffa yn y pentref wedi gwneud y Rhyfel Byd Cyntaf yn llawer mwy perthnasol iddyn nhw.

Mi wnaethon nhw sylweddoli bod y dynion yma wedi mynd i’r un ysgol a nhw ac maen nhw wedi gweld rhai o’r tai lle'r oedden nhw'n byw. Maen nhw wedi cerdded yr un camau.

Roedd y bobl ifanc wedi cyfarfod â rhai o’r teuluoedd felly roedden nhw wedi dod i adnabod y dynion fel unigolion yn hytrach nag enwau. Mae ymdeimlad gwirioneddol o bontio ar draws y cenedlaethau i’r prosiect yma.

Dywedodd Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gogledd Cymru Arfon Jones, a gyflwynodd y wobr ar y cyd gyda’r Prif Gwnstabl Cynorthwyol newydd Sacha Hatchett: “Rwy’n falch iawn fod cronfa Eich Cymuned Eich Dewis yn parhau i gefnogi prosiectau cymunedol ar draws gogledd Cymru am y seithfed flwyddyn yn olynol.

Mae’r gronfa unigryw yma’n caniatáu i’n cymunedau benderfynu pa brosiectau ddylai gael cefnogaeth ariannol drwy ein system pleidleisio ar-lein ac mae’r ymateb wedi gweld bron i 15,000 o aelodau’r cyhoedd yn pleidleisio dros gyfanswm o 30 prosiect.

Mae’r prosiectau yma’n cefnogi fy Nghynllun Heddlu a Throsedd sydd â´r pwrpas o sicrhau fod Heddlu Gogledd Cymru yn rhoi sylw penodol i’r pwyntiau hynny sydd wedi cael eu hadnabod fel rhai hanfodol gennyf i, y cyhoedd, ac yn wir yr heddlu ei hunain.

Bydd nifer ohonoch yn ymwybodol o’r ymgynghoriad Trydydd Sector diweddar a gynhaliwyd gen i, sydd wedi arwain at ddiweddaru fy mlaenoriaethau i gynnwys y ffyrdd rydym yn delio gyda thueddiadau sy’n dod i'r amlwg gan gynnwys Troseddu Cyfundrefnol a cham-fanteisio ar bobl fregus

Fel rhan o hyn, rwy’n bwriadu sicrhau bod ffocws clir yn parhau i gael ei roi ar droseddau llinellau cyffuriau - ffurf filain o droseddu sy’n cymryd mantais ar bobl ifanc bregus a’u troi at fywyd o droseddu sy’n beryglus a threisgar iawn lle nad oes llawer o ffyrdd i ddianc ohono.

Rwy’n falch iawn o weld bod nifer o’ch ceisiadau yn ceisio mynd i'r afael â’r broblem hon a chefnogi ein pobl ifanc.

Mae grwpiau cymunedol yn hanfodol i ddinasyddion gogledd Cymru, ac maent yn helpu ein cymunedau i fod ymysg y llefydd mwyaf diogel i fyw, gweithio ac ymweld â hwynt yn y Deyrnas Gyfunol.”

Dywedodd Sacha Hatchett: “Mae’r arian yma’n cynnwys arian gafodd ei atafaelu gan droseddwyr o dan y Ddeddf Elw Troseddau. Mae hon yn neges bwysig iawn oherwydd drwy agwedd broffesiynol Swyddogion Heddlu Gogledd Cymru a chefnogaeth y llysoedd, rydym yn medru taro’r troseddwyr lle mae’n eu brifo fwyaf - eu pocedi.

Yn y saith mlynedd rydym wedi darparu cyllid Eich Cymuned Eich Dewis i grwpiau cymunedol lleol ydym wedi atafaleu dro £ miliwn mewn arian ac asedau.

Mae ein cymunedau yn parhau i chwarae rhan yn y llwyddiant yma diolch i wybodaeth leol sy’n cael ei rhoi i’r swyddogion sydd yn ein helpu i ddod â’r troseddwyr yma o flaen eu gwell.

Mae tua £700,000 o’r arian yma a gafodd ei atafaelu wedi dod yn ol i Heddlu'r Gogledd oddi wrhty Swyddfa Gartref ac rydym yn galu denfyddio peth o hyn i gefnogi cynlluniau fel ‘Eich Cymuned Eich Dewis’.

Mae’n danfon neges bositif bod arian sy’n cael ei gymryd o bocedi troseddwyr yn cael ei ailgylchu. Mae hyn yn troi arian drwg yn arian da gaiff ei ddefnyddio i bwrpas adeiladol.”