Skip to main content

CHTh yn gweld sut mae nawdd cymunedol yn helpu dyfodol positif

Dyddiad

Ar 28 Medi, mi wnaeth y Comisiynydd Heddlu a Throsedd (CHTh) Andy Dunbobbin ymweld â Seren Ffestiniog Cyf (Seren) yn eu canolfan ym Mlaenau Ffestiniog i ddysgu mwy am sut mae arian o gronfa Eich Cymuned, Eich Dewis yn cael ei ddefnyddio i wella ansawdd bywyd pobl gydag anawsterau dysgu.

Mae Eich Cymuned, Eich Dewis yn dathlu ei degfed pen-blwydd yn 2023 a, dros y deng mlynedd diwethaf mae dros £500,000 wedi cael ei roi i dros 150 o brosiectau yn gweithio i leihau trosedd yn eu hardaloedd a chynorthwyo'r blaenoriaethau yng Nghynllun Trosedd Comisiynydd yr Heddlu. Mae cronfa Eich Cymuned, Eich Dewis yn cynorthwyo prosiectau llawr gwlad ac mae'n derbyn cymorth gan Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, Ymddiriedolaeth yr Heddlu a'r Gymuned Gogledd Cymru (PACT) a Heddlu Gogledd Cymru.  Mae'r arian ar gyfer Eich Cymuned, Eich Dewis yn dod yn rhannol oddi wrth arian sydd wedi ei atafaelu drwy'r llysoedd drwy Ddeddf Enillion Troseddau gyda'r gweddill o Gronfa'r Comisiynydd Heddlu a Throsedd.

Sefydlwyd Seren Ffestiniog Cyf yn 1996 fel elusen sy'n darparu gofal cartref, gofal dydd a gofal seibiant ar gyfer unigolion gydag anableddau corfforol ac anableddau dysgu yng Ngwynedd ac mae wedi datblygu nifer o brosiectau, yn cynnwys profiad gwaith a sgiliau cyflogaeth o fewn eu gwasanaeth gofal dydd.  Yn eu canolfan lles a hefyd drwy eu clwb wythnosol mae unigolion yn cael eu hannog i feithrin eu creadigrwydd yn eu gwasanaeth - gan ddefnyddio arlunio, crefftau, symudedd a cherddoriaeth i wella eu profiadau.

Gyda'r arian a dderbyniwyd o'r gronfa Eich Cymuned, Eich Dewis, mae Seren wedi prynu taflunydd rhyngweithiol i ddatblygu medrusrwydd a sgiliau gweledol ac ymenyddol defnyddwyr eu gwasanaeth. Gyda'r arian, mae'r elusen hefyd yn bwriadu cynnal hyfforddiant arbenigol ar gyfer staff i roi sesiynau 'Touch Trust' ar waith, fel ffordd o reoli ymddygiad heriol a thawelu emosiynau.

Yn ystod yr ymweliad, cyfarfu'r Comisiynydd â staff o Seren i ganfod eu cynlluniau a gweld sut mae'r taflunydd yn gweithio a chlywed sut y bydd o fudd i ddefnyddwyr gwasanaethau'r sefydliad.

Dywedodd Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru: "Mi ges i'r fraint o ymweld â Seren, gan weld gyda fy llygaid fy hun yr effaith mae'r arian o'r gronfa Eich Cymuned, Eich Dewis yn cael ar eu gwaith.

"Yn ystod fy ymweliad, mi wnes i gyfarfod y staff a gweld uned y taflunydd a brynwyd gyda'r arian o'r gronfa.  Dw i'n gwerthfawrogi'r effaith y mae offer fel hyn yn cael yn galluogi pobl i gyflawni eu potensial a gwella eu lles personol.

"Mae amcanion Seren yn cyd-fynd gyda blaenoriaethau fy Nghynllun Heddlu a Throsedd o ddiogelu pobl fregus drwy gynnig llwyfan i bobl gydag anableddau dysgu i fagu hyder a balchder. Dyna pam dw i mor falch o fod wedi rhoi'r arian iddynt barhau eu gwaith."

Angela Middleton-Jones, Prif Weithredwr Seren Ffestiniog Cyf : "Rydym yn falch iawn o gael y grant hwn, yn enwedig gan ei fod wedi dod drwy bleidleisiau'r cyhoedd.  Mae'n bwysig i ni gynnig gwasanaeth holistaidd, nid yn unig i annog unigolion i fod yn aelodau gweithgar o'r gymuned ym mhob ffordd, ond hefyd er mwyn gofalu am eu hanghenion emosiynol a'u mwynhad. 

"Mae'r buddsoddiad hwn mewn technoleg newydd yn gwneud gwahaniaeth a bydd hefyd yn datblygu sgiliau.   Roedd hi'n bleser croesawu'r Comisiynydd i'n clwb wythnosol a fydd yn datblygu'r berthynas rhwng unigolion a'r Heddlu gan y gall rhai fod yn amheus ohonynt"

Dywedodd cadeirydd PACT Ashley Rogers: "Dw i'n falch iawn o gefnogi Seren drwy'r fenter "Eich Cymuned, Eich Dewis." Mae'r sefydliad yn gwneud gwahaniaeth go iawn i fywyd y bobl mae'n gwasanaethu, gan ddatgloi eu potensial a meithrin cynhwysiant. Dymuniadau gorau iddynt yn y dyfodol."

Dywedodd Nigel Harrison, Prif Gwnstabl Cynorthwyol Dros Dro Heddlu Gogledd Cymru:  "Mae buddsoddi yn ein cymunedau'n rhan allweddol o blismona effeithiol. Bydd y gefnogaeth a roddwyd i Seren drwy Eich Cymuned, Eich Dewis yn chwarae rhan allweddol yn hyrwyddo ysbryd cymunedol a gwaith y grŵp ar gyfer pobl Gwynedd."