Skip to main content

CHTh yn gweld yr hyn sydd ar y gweill i Wersyll Sgowtiaid Ynys Môn

Dyddiad

Fe aeth Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru i ymweld â Gwersyll Ardal Talwrn Sgowtiaid Ynys Môn ar 14 Hydref, yn ystod un o'i ddyddiau cynnal a chadw dros yr hydref. Roedd yno er mwyn dysgu mwy am waith a gweithgareddau'r Sgowtiaid. Gwelodd sut mae arian sy'n cael ei gymryd oddi ar droseddwyr yn cael ei ddefnyddio er lles pobl ifanc yr ardal drwy brosiect Adnoddau Storio Canolog y Sgowtiaid. 

Mae cronfa Eich Cymuned, Eich Dewis yn helpu prosiectau llawr gwlad ac mae'n derbyn help gan Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, Ymddiriedolaeth yr Heddlu a'r Gymuned Gogledd Cymru (PACT) a Heddlu Gogledd Cymru. Mae'r arian ar gyfer Eich Cymuned, Eich Dewis yn dod yn rhannol oddi wrth arian sydd wedi ei atafaelu drwy'r llysoedd drwy Ddeddf Enillion Troseddau gyda'r gweddill o Gronfa'r Comisiynydd Heddlu a Throsedd.  

Mae Sgowtiaid Ynys Môn yn cynnwys saith grŵp sy'n gwasanaethu pobl ifanc 14-18  oed yr ynys i gyd. Mae ganddyn nhw dros 300 aelod ar hyn o bryd ac maen nhw'n cynyddu, ynghyd â 70 o wirfoddolwyr ar waith. Mae arian Eich Cymuned, Eich Dewis wedi helpu rhoi storfa saff yn Nhalwrn ar gyfer yr eitemau hyn, sydd bellach mewn lle hawdd i grwpiau'r Sgowtiaid gael atyn nhw.   

Tra yn y gwersyll, gwelodd y Comisiynydd y paratoadau sydd ar y gweill ar gyfer coed newydd mae'r grŵp yn gobeithio eu plannu ym mis Ionawr a'r ffensio sy'n cael ei osod o amgylch yr ail wersyll. Bydd coed y dyfodol yn rhoi cysgod yno hefyd. 

Dywedodd Dr Dylan Evans o Sgowtiaid Ynys Môn: "Mae Cyngor Sgowtiaid Ynys Môn yn ddiolchgar iawn am y cyllid hwn sy'n galluogi prynu ail storfa yn ein gwersyll yn Nhalwrn a fydd yn cael ei ddefnyddio gan ein gwirfoddolwyr sy'n oedolion a phobl ifanc 14-18 oed ar y safle. Mae'r ail storfa hefyd yn lleihau costau teithio ac yn cynyddu'r defnydd a mwynhad y gwersyll ynghyd â phrofiad cyffredinol i bawb." 

Dywedodd Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru: "Roedd yn bleser ymweld â Thalwrn a gweld gwaith a gweithgareddau'r Sgowtiaid yn y Gwersyll Ardal. Heddiw ac yn ystod ymweliadau o'r blaen, dwi wedi gweld faint mae'r gwersyll yn ei olygu i Sgowtiaid ar yr ynys a pha mor ymroddedig ydyn nhw tuag at ddatblygu a chynyddu'r cyfleusterau ar y safle er budd pawb.  Mae helpu cymunedau'n rhan allweddol o'm Cynllun Heddlu a Throsedd ar gyfer Gogledd Cymru. Fel un sydd wedi bod yn Sgowt ei hun, dwi'n gwybod fod eu gwaith nhw'n enghraifft o hyn ar waith.  Diolch yn fawr i chi yn Nhalwrn am eu croeso cynnes."

Dywedodd Ashley Rogers, cadeirydd PACT: "Dwi'n falch ein bod ni wedi gallu helpu Sgowtiaid Ynys Môn hefo cyllid Eich Cymuned, Eich Dewis. Mae'r gwaith maen nhw'n ei wneud wrth sgwrsio a helpu pobl ifanc ledled yr ynys yn amhrisiadwy. Hefo dros 300 o aelodau ac mae'n cynyddu, dwi'n siŵr bydd y Gwersyll Ardal ond yn dod yn fwy gwerthfawr fel adnodd cymunedol wrth i amser fynd yn ei flaen."

Dywedodd Nigel Harrison, Prif Gwnstabl Cynorthwyol Dros Dro Heddlu Gogledd Cymru: "Mae'n dda gweld amrywiaeth o brosiectau cymunedol ledled ardal Heddlu Gogledd Cymru yn cael help cyllid Eich Cymuned, Eich Dewis. Mae darparu cyfleusterau newydd ar Wersyll Talwrn yn enghraifft ymarferol sut mae cyllid Eich Cymuned, Eich Dewis yn gallu cael ei ddefnyddio er budd y gymuned."

Mae Eich Cymuned, Eich Dewis yn dathlu ei ddegfed pen-blwydd yn 2023. Dros y deng mlynedd diwethaf  mae dros £500,000 wedi cael ei roi i dros 150 o brosiectau sy'n gweithio er mwyn lleihau troseddau yn eu hardaloedd a helpu'r blaenoriaethau yng Nghynllun Heddlu a Throsedd y Comisiynydd. 

Er mwyn dysgu mwy am PACT, ewch ar www.pactnorthwales.co.uk. Er mwyn dysgu mwy am waith Swyddfa'r Comisiynydd Heddlu a Throsedd, ewch ar www.northwales-pcc.gov.uk. Am fwy o wybodaeth am Sgowtiaid Ynys Môn, ewch ar: www.scoutsmon.wales