Dyddiad
Mae ymgyrch ar droed i chwilio am wirfoddolwyr i weithio gyda chyn-droseddwyr rhyw fel rhan o raglen arloesol yng ngogledd Cymru sydd â chyfradd llwyddiant o 100%.
Nod y rhaglen Cylchoedd Cymorth ac Atebolrwydd (COSA) yw cadw’r gymuned yn ddiogel ac ers iddi ddechrau yng ngogledd Cymru yn 2007 nid oes yr un o’r troseddwyr a gymerodd ran wedi mynd ymlaen i aildroseddu.
Mae’r prosiect yn gweithredu ar draws pob un o chwe sir y rhanbarth ac mae pob troseddwr yn ymuno â gwirfoddolwyr hyfforddedig o gefndiroedd, oedrannau a galwedigaethau amrywiol.
Mae’r gwirfoddolwyr yn mynd trwy broses ddewis ac asesu risg cyn y gallant gofrestru trwy’r Gwasanaeth Carchardai a Phrawf EM sy’n rhedeg y cynllun.
Mae’r cyn-droseddwr yn cael ei ystyried fel canolbwynt y cylch a bydd yn cyfarfod yn wythnosol â’r tîm sy’n cynnig rhwydwaith gadarn o gwnsela, cefnogaeth ac arweiniad ar ailintegreiddio i fywyd cymunedol.
Heddiw, fe wnaeth Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru Arfon Jones ganmol yr hyn y mae’r prosiect wedi ei gyflawni ac apeliodd ar i fwy o wirfoddolwyr o ogledd Cymru ddod ymlaen i gefnogi’r gwaith hwn sy’n trawsnewid bywydau.
Mae Cylchoedd yn parhau i brofi y gall pobl newid eu hymddygiad gyda’r gefnogaeth, ymyrraeth ac arweiniad priodol gan eu cymuned,” meddai.
Mae cefnogi integreiddio troseddwyr rhyw yn ddiogel yn hanfodol i atal dioddefwyr cam-drin pellach a chadw ein cymunedau’n ddiogel yn y tymor hir.
Mae’r rhaglen hon o werth enfawr i ogledd Cymru ac rwy’n falch iawn o’i llwyddiant dros y blynyddoedd. Yn syml iawn, fedrwn ni ddim tanbrisio ei heffaith ar ddiogelwch cymunedol.
Byddwn yn apelio ar unrhyw un sy’n credu bod ganddyn nhw’r sgiliau i gyfrannu at y tîm ymroddedig hwn i gysylltu a helpu i ehangu eu gwaith rhyfeddol.”
Mae gwirfoddolwyr yn helpu i gefnogi’r broses o ailintegreiddio o’r carchar, gan baratoi troseddwyr ar gyfer addysg, cyflogaeth neu wirfoddoli ac ar yr un pryd yn lleihau dieithrio.
Mae pob “cylch” yn cynnwys pedwar i chwech o wirfoddolwyr ac mae’n golygu mynychu cyfarfodydd rheolaidd unwaith yr wythnos er mwyn mynd i’r afael ag arwahanrwydd a helpu aelodau craidd i fagu hyder a hunan-barch er mwyn datblygu diddordebau a hobïau priodol.
Mae gwirfoddolwyr yn cael gwybod yn llawn am droseddu’r aelodau craidd yn y gorffennol ac yn eu helpu i gydnabod patrymau meddwl ac ymddygiad a allai arwain at aildroseddu.
Daeth Heidi, sy’n fyfyriwr 20 oed, yn wirfoddolwr dros flwyddyn yn ôl ar ôl chwilio am gyfleoedd i ehangu ei phrofiad i gefnogi ei gradd mewn troseddeg.
Roeddwn yn chwilio am rywbeth perthnasol a phersonol. Esboniodd fy narlithydd y opsiynau a’r llwybrau gwahanol i mi ac mi ddewisais wneud cais i cylchoedd,” meddai.
Rwyf wedi bod yn gwirfoddoli ers blwyddyn bellach. Cefais hyfforddiant sylfaenol cychwynnol a oedd yn gwrs diwrnod o hyd ac roedd hyn yn ein helpu i ddeall beth i’w ddisgwyl a sut i ymagweddu at aelodau’r cynllun ac ymateb iddyn nhw. Mewn gwirionedd roedd yn rhan o’r gwaith o’n paratoi.
Ers gwirfoddoli rwyf wedi cefnogi dau berson, mae un wedi symud dramor ers hynny. Mae’r aelod craidd rwy’n ei helpu ar hyn o bryd wedi gwneud cais yn ddiweddar am swydd a gwaith gwirfoddoli ar ôl i ni ei annog i ennill ei drwydded adeiladu.
Chwe mis yn ôl, ni fyddai wedi breuddwydio i wneud hynny. Mae’n werth chweil ac mae’n braf gallu helpu.
Mae’n bendant yn achubiaeth iddo oherwydd mae yna ddiffyg rhwydweithiau cymdeithasol a chefnogaeth ar ei gyfer. Rwyf wedi helpu i lunio ei CV fel y gall wneud cais am swyddi. Mae’n darparu cefnogaeth gymdeithasol anffurfiol go iawn.
Mae’n rhywbeth rydw i wir yn mwynhau ei wneud. Rwyf eisoes wedi gwneud cais i barhau. Mae’n brofiad gwych ar gyfer y gwasanaeth prawf. Mae angen tair blynedd o brofiad arnaf yn gweithio gyda phobl heriol a bydd hyn yn cyfrif tuag at y profiad hwnnw.”
Dywedodd Heather Evans, cydlynydd prosiect COSA ar gyfer gogledd Cymru: “Mae COSA yn gynllun cymunedol sy’n darparu cefnogaeth ategol i drefniadau rheoli risg a goruchwylio statudol wrth fonitro ac ailintegreiddio troseddwyr rhyw. Y flaenoriaeth yw lleihau troseddu rhyw pellach ac atal eraill rhag dioddef yn y dyfodol.
Mae gwirfoddolwyr yn cefnogi aelodau craidd i leihau eu teimlad o fod yn ynysig trwy ddarparu cymorth emosiynol ac ymarferol a’u galluogi i ddatblygu gweithgareddau a rhwydweithiau cymdeithasol cadarnhaol tra hefyd yn cael eu dal yn atebol am eu gweithredoedd.
Mae gwirfoddolwyr Cylch yn cael eu gwerthfawrogi’n fawr gan y gwasanaeth. Mae darpar ymgeiswyr yn cael eu recriwtio, eu sgrinio a’u hyfforddi i ddarparu rhwydwaith cymorth strwythuredig ac yn cael eu goruchwylio a’u cefnogi gan weithwyr proffesiynol priodol trwy gydol y cyfnod cyswllt â throseddwyr. Mae’r system wedi bod yn hynod effeithiol yng ngogledd Cymru ac mae gwirfoddolwyr wedi bod yn cefnogi’r broses ailintegreiddio troseddwyr rhyw yn llwyddiannus dros y 12 mlynedd diwethaf.”
Cynhelir pob cyfarfod ‘cylch’ yn gyhoeddus a gellir eu cynnal mewn siopau coffi neu lyfrgelloedd. Mae’n rhaglen hollol wirfoddol ac mae cyn-droseddwyr yn cydsynio i gymryd rhan.
I unrhyw un sy’n ystyried gwirfoddoli, byddwn yn dweud wrth bobl i beidio gadael i ragfarn pobl eraill ddylanwadu arnynt,” meddai Heidi.
Gall pobl fod yn eithaf petrusgar a chyflym i farnu, hyd yn oed heddiw. Mae’n bwysig bod yn ymwybodol o farn pobl ond peidiwch â gadael iddo effeithio ar eich barn chi eich hun. “
Yn 2010, derbyniodd Circles UK, y grŵp ymbarél ar gyfer yr holl brosiectau ‘Cylchoedd’ sydd ar waith ledled y DU, Wobr Longford i gydnabod ei ddewrder yn mynd i’r afael â throseddu rhyw trwy wirfoddolwyr yn y gymuned.
Mae angen gwirfoddolwyr o bob rhan o ogledd Cymru ond yn arbennig yn ardaloedd Conwy, Sir Ddinbych, Gwynedd a Môn. Byddai gwirfoddolwyr sy’n siarad Cymraeg hefyd yn ddefnyddiol.
Am fwy o wybodaeth ewch i : Circles-uk.org.uk neu anfonwch e-bost at Heather.evans@justice.gov.uk