Skip to main content

Clybiau pêl-droed ar draws Gogledd Cymru yn derbyn nawdd gan CHTH

Dyddiad

Summer Soccer Fund

Mae Andy Dunbobbin, y Comisiynydd Heddlu a Throsedd wedi datgelu'r rhestr derfynol o ymgeiswyr llwyddiannus ei Gronfa Bêl-droed yr Haf, mewn partneriaeth â Chymdeithas Bêl-droed Cymru. 

Ym mis Gorffennaf, gwnaeth y CHTh wahodd sefydliadau pêl droed a chymunedol yng Ngogledd Cymru i ymgeisio am gyllid ar gyfer mentrau chwaraeon. Y nod oedd ymdrin â phryderon fel achosion cynyddol o ymddygiad gwrthgymdeithasol yn ystod misoedd yr haf. Y syniad oedd rhoi cyfle i blant a phobl ifanc ymwneud â gweithgareddau cadarnhaol yn ystod y gwyliau ysgol.

O fewn y cyfnod byr, gwnaeth cyfanswm o 25 clwb pêl droed ledled Gogledd Cymru ymgeisio am gyllid.  Dyma'r rhestr lawn o glybiau sydd wedi derbyn cyllid o Gronfa Bêl Droed yr Haf:

  • Clwb Pêl-droed Cei Connah
  • Clwb Pêl Droed Penrhosgarnedd
  • Cymdeithas Bêl Droed Ysgolion Wrecsam
  • Clwb Pêl Droed Genethod Porthmadog
  • AURA
  • CPD Coedpoeth Utd
  • CPD Dyffryn a Thalybont

Cafodd y clybiau rhwng £500 a bron i £4000, yn dibynnu ar geisiadau'r clybiau. Mae arweinwyr bob clwb wedi cael gwybod am eu llwyddiant, gyda phrosiectau eisoes ar y gweill.

Aeth Mr Dunbobbin i ymweld â CPD Penrhosgarnedd ym Mangor ar eu cae yn Nhreborth er mwyn dathlu llwyddiant Cronfa Bêl Droed yr Haf ar nos Fawrth, 29 Awst. Yn ystod yr ymweliad hefo Dirprwy Gomisiynydd Wayne Jones a SCCH Jack Mitchelmore o Heddlu Gogledd Cymru, gwnaeth y CHTh gyfarfod â rhai o'r chwaraewyr ac arweinwyr y tîm. Gwnaeth glywed faint o wahaniaeth mae eu grant o dros £1,600 wedi'i wneud iddyn nhw ac wrth iddynt gyflawni gweithgareddau'r haf.

Sefydlwyd Cronfa Bêl Droed yr Haf fel rhan o'r Cynllun Arloesi i Dyfu cyffredinol. Dyma fenter y CHTh er mwyn targedu a buddsoddi mewn prosiectau sy'n ymdrin ag achosion troseddau ar draws Gogledd Cymru, yn enwedig rhai sy'n cynnig syniadau newydd ac arloesol o ran atal ac ymdrin â gwneud drygioni.

Dywedodd Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru: "Rwyf yn falch o fod wedi rhoi cyllid i glybiau a grwpiau yn ein rhanbarth.

"Roeddwn i'n falch iawn o'r ymateb i Gronfa Bêl Droed yr Haf.  Gadawodd safon y ceisiadau argraff arnom ni. Roedd brwdfrydedd ac ymroddiad y clybiau hyn i chwaraeon a'r cyfraniad cymunedol yn amlwg iawn.

"Fel eich CHTh, dwi'n canolbwyntio ar helpu ein cymunedau. Fe wnes i sefydlu Cronfa Bêl Droed yr Haf er mwyn lleihau'r posibilrwydd o ymddygiad gwrthgymdeithasol yn ein rhanbarth ni. Mae'n rhoi'r llwyfan i glybiau a sefydliadau gynnal gweithgareddau gwerth chweil i bobl ifanc, gan feithrin amgylchfyd saff a chynhwysol.

"Gan ystyried y twrnameintiau pêl droed sy'n mynd ymlaen ac enwogrwydd byd-eang CPDC Wrecsam, does dim amser gwell i ddathlu pêl droed a chwaraeon yn gyffredinol yng Ngogledd Cymru. Mae ymgeiswyr bellach yn gallu datblygu eu prosiectau hefo'r cyllid hwn. Dwi'n edrych ymlaen at weld y prosiectau cyffrous hyn yn datblygu ac yn cael effaith gadarnhaol yn ein cymunedau ni.

"O ystyried y diddordeb gawsom ni, dwi'n awyddus datblygu'r fenter hon ymhellach, yn enwedig yn ystod y gwyliau ysgol. Bydd yn rhoi mwy o weithgareddau i'n plant gymryd rhan ynddyn nhw.

Dywedodd Gethyn Owen, Cadeirydd a Phrif Hyfforddwr CPD Penrhosgarnedd: “Mae’r cyllid hwn o Gronfa Pêl Droed yr Haf wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i’r clwb. Mae wedi’n galluogi ni brynu offer newydd a chynnal gweithgareddau i’r plant gymryd rhan ynddyn nhw. Mae rhai o’r chwaraewyr gobeithio’n mynd i aros er mwyn chwarae dros y tymor hefyd!”

Dywedodd Noel Mooney, Prif Weithredwr Cymdeithas Bêl Droed Cymru: “Mae'n wych gweld y clybiau pêl droed hyn o ogledd Cymru yn elwa o Gronfa Bêl Droed yr Haf. Mae'n wych gweld fod cymaint o ddiddordeb wedi bod yn y gronfa.   

⁠"Bydd hyn yn gadarnhaol iawn i gymunedau lleol wrth gynnig gweithgareddau am ddim, hwyliog ac iach i blant sy'n byw yn yr ardal, gan roi rhywbeth adeiladol iddyn nhw ganolbwyntio arno fo dros wyliau'r haf. 'Da ni'n falch o allu gweithio hefo'r Comisiynydd Heddlu a Throsedd ar y prosiect hwn sy'n dal grym pêl droed er budd iechyd, lles a chymunedol."

Tra mae ceisiadau ar gyfer Cronfa Bêl Droed yr Haf bellach wedi cau, mae SCHTh dal yn gwahodd ceisiadau ar gyfer y cynllun ariannu Arloesi i Dyfu ehangach.

Er mwyn gwybod mwy am Arloesi i Dyfu a chyflwyno cais, ewch ar www.northwales-pcc.gov.uk/cy/arloesi-i-dyfu