Skip to main content

Creu fforwm newydd er mwyn atal a lleihau niwed sylweddau yng Ngogledd Cymru

Dyddiad

Ym Mhencadlys Heddlu Gogledd Cymru ym Mae Colwyn, cynhaliwyd cyfarfod cyntaf corff newydd -  Fforwm Atal a Lleihau Niwed. Ei nod ydy codi ymwybyddiaeth yng Ngogledd Cymru am syniadau atal a lleihau niwed camddefnyddio sylweddau ar hyn o bryd. Cadeirir y fforwm gan Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru. Mae wedi cael ei greu ar gais Bwrdd Cynllunio Ardal Gogledd Cymru.

Mae'r Fforwm Atal a Lleihau Niwed yn dod â'r sefydliadau allweddol sy'n gweithio er mwyn lleihau niwed mewn cymunedau ledled Gogledd Cymru at ei gilydd. Bydd yn cael ei reoli o ddydd i ddydd gan Kirsty Brooke sy'n rhan o Dîm Lleihau Niwed Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Bydd bob awdurdod lleol, ynghyd â'r gwasanaethau prawf, yr heddlu a'r trydydd sector yn cael eu cynrychioli ar y fforwm. Y cynllun ydy y bydd yn defnyddio arferion gweithio aml-asiantaethau, rhannu arfer da a datrys problemau er mwyn sicrhau fod egwyddorion atal a lleihau niwed yn rhan hanfodol o gyflawni gwasanaeth yn y rhanbarth. 

Bydd yn cyfarfod yn chwarterol er mwyn darparu fforwm er mwyn trafod a chytuno ar gamau cyffredin wrth atal a lleihau niwed, gan ddefnyddio'r ymdriniaeth iechyd cyhoeddus at y mater.  Bydd hefyd yn datblygu a chynorthwyo polisïau, rhaglenni, gwasanaethau a gweithrediadau ar y cyd sy'n gweithio er mwyn gwella iechyd, lles cymdeithasol ac economaidd unigolion, cymunedau a chymdeithas⁠sy'n gysylltiedig â defnyddio cyffuriau ac alcohol. Maes allweddol arall o'i waith fydd monitro patrymau sy'n dod i'r amlwg sy'n berthnasol i ddefnyddio sylweddau ledled Gogledd Cymru, nodi a gweithredu cynlluniau gweithredu ac ymatebion priodol gan aml-asiantaethau.

Rhan bellach o'i waith fydd monitro  System Gwybodaeth Cyffuriau Lleol Gogledd Cymru, Rhaglen Mynd â Nalocson Adref a'r Rhaglen Nodwydd a Chwistrell ar ran y Bwrdd Gweithredol Cynllunio Ardal ac adrodd ar gynnydd ac unrhyw faterion allweddol. Bydd hefyd yn monitro gweithredu a darparu profi firysau gwaed a chyflawni Strategaeth Atal Alcohol Gogledd Cymru. 

Mae'r fforwm yn ychwanegu at weithgarwch arall o ran lleihau ac atal niwed. Er enghraifft, ym mis Mehefin llynedd, gwahoddwyd Andy Dunbobbin i ymddangos ger bron y Pwyllgor Dethol Materion Cartref er mwyn trafod ymdriniaeth yr heddlu tuag at atal troseddau cyffuriau yng Ngogledd Cymru.

Roedd y gwrandawiad yn rhan o ymchwiliad y Pwyllgor i ddefnydd cyffuriau anghyfreithlon a'i effeithiau ar gymdeithas a'r economi. Siaradodd fel rhan o banel o Gomisiynwyr er mwyn pwysleisio pwysigrwydd gweithio mewn partneriaeth er mwyn ymdrin â chamddefnyddio cyffuriau a lleihau niwed.

Dywedodd Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru: "Fel Cadeirydd, rwyf yn falch o weld lansiad Fforwm Atal a Lleihau Niwed newydd. Rwyf yn gobeithio bydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol wrth gydlynu'r ymdriniaeth tuag at ymdrin â chamddefnyddio sylweddau ledled Gogledd Cymru. Mae'n bwysig fod gennym gynrychiolaeth o ystod o wasanaethau ar y Fforwm fel yn y frwydr yn erbyn camddefnyddio sylweddau. Mae angen i ni edrych ar bob gwasanaeth o dai, iechyd a gwasanaethau cymdeithasol i'r gwasanaeth prawf a phlismona. Mae canolbwyntio ar atal yn allweddol gan ei fod yn lleihau'r effaith ar gymuned ac mae'n lleihau'r galw ar wasanaethau cyhoeddus sydd eisoes o dan bwysau."

Dywedodd Paul Firth, Swyddog Comisiynu a Datblygu Rhanbarthol (Camddefnyddio Sylweddau): "Mae camddefnyddio sylweddau yn llechwraidd. Gall effeithio ar unrhyw deulu. Pan mae'n gwneud, mae angen lliniaru. Ni all yr un sefydliad ymdrin â'r mater hwn ar ei ben ei hunain. Unwaith mae rhywun yn mynd yn gaeth, mae'n gwestiwn meddygol sydd angen ymateb wedi'i gydlynu. Rwyf yn gobeithio bydd y fforwm newydd hwn yn llenwi bwlch mewn darparu gwasanaeth a gweithio mewn partneriaeth. Hon ydy'r ymdriniaeth iawn ar yr amser iawn."