Skip to main content

Creu rôl newydd er mwyn gweithio hefo pobl ifanc ac annog riportio trosedd

Dyddiad

Jason Evans, Crimestoppers

Mae Gweithiwr Allgymorth newydd gael ei benodi gan Crimestoppers hefo'r nod o gyflwyno eu prosiect Fearless yng Ngogledd Cymru. Mae'r swydd wedi cael ei chreu hefo cyllid o Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru er mwyn helpu annog pobl ifanc riportio trosedd yn y rhanbarth. 

⁠Derbyniodd Jason Evans, sy'n wreiddiol o Landudno, y swydd newydd sef Gweithiwr Allgymorth Ieuenctid Fearless yng Ngogledd Cymru ddechrau mis Hydref. Yn fwyaf diweddar, gweithiodd Jason i Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru fel rhan o'i waith hefo pobl ifanc, sgil y bydd yn ei chyflwyno i'w rôl newydd hefo Fearless.

Fearless ydy'r gwasanaeth penodol i ieuenctid gan Crimestoppers ac mae'n rhoi'r cyfle i bobl ifanc roi gwybodaeth am drosedd yn gyfan gwbl ddienw. Mae Fearless hefyd yn caniatáu pobl ifanc ddweud am drosedd drwy hyrwyddo gwasanaethau Crimestoppers, codi ymwybyddiaeth am yr hyn ydy trosedd, a thrwy chwalu rhwystrau riportio trosedd. Mae gan Crimestoppers dîm o Weithwyr Allgymorth Fearless ar draws y wlad sy'n ymweld ag ysgolion, clybiau ieuenctid a digwyddiadau amrywiol er mwyn rhoi gwybod i bobl ifanc a gweithwyr proffesiynol am eu gwasanaeth. 

Fel rhan o'i waith newydd, bydd Jason yn cyflwyno sesiynau atal trosedd ac addysg Fearless i bobl ifanc a'r bobl hynny sy'n gweithio hefo pobl ifanc ar draws Gogledd Cymru. Ei waith fydd codi ymwybyddiaeth am brosiect Fearless ac addysgu pobl ifanc ar ganlyniadau trosedd, hefo sylw penodol ar linellau cyffuriau, troseddau cyllyll a'r Ymdriniaeth Gwylwyr. Mae hyn yn ein hannog ni weithredu ac atal niwed os ydy hi'n saff gwneud.  

Bydd Jason hefyd yn cynrychioli tîm Fearless mewn digwyddiadau a datblygu gweithgareddau yn ystod y tymor a gwyliau ysgol mewn ysgolion uwchradd a lleoliadau ieuenctid fel clybiau a chymdeithasau.

Er mwyn sicrhau llwyddiant y prosiect, bydd Jason yn gweithio'n agos hefo ysgolion uwchradd ar draws yr ardal, ynghyd ag unedau atgyfeirio disgyblion, Heddlu Gogledd Cymru ac awdurdodau lleol. 

Dywedodd Jason Evans, Gweithiwr Allgymorth Fearless Gogledd Cymru: "Dwi'n falch o fod yn rhan o dîm Fearless yng Nghymru. Mae Fearless yn wasanaeth anhygoel sy'n caniatáu pobl ifanc riportio trosedd yn ddienw, heb ofni'r canlyniadau. 

"Dwi'n anelu addysgu pobl ifanc ar beryglon cael eu denu at drosedd a'r canlyniadau oes a all ddigwydd. Dwi'n gobeithio drwy godi ymwybyddiaeth a darparu sesiynau Fearless ar draws Gogledd Cymru, bydd gan bobl ifanc y grym i ddod yn wylwyr ar waith a riportio trosedd er mwyn gwella diogelwch eu cymunedau a'u hysgolion."   

Dywedodd Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru: "Dwi'n falch ein bod ni wedi gallu ariannu'r rôl hon hefo prosiect Fearless gan Crimestoppers. Mae posibilrwydd iddo fod yn hynod fuddiol wrth annog pobl ifanc ar draws Gogledd Cymru godi llais os ydy nhw'n gweld trosedd a'i riportio wrth Crimestoppers yn gyfan gwbl ddienw.

"Mae'r rôl hefyd yn ategu'r flaenoriaeth yn fy Nghynllun Heddlu a Throsedd i ar gyfer Gogledd Cymru sef helpu dioddefwyr a chymunedau, yn enwedig drwy warchod plant a phobl ifanc a'u cyfeirio nhw oddi wrth y system cyfiawnder troseddol. Mae'r prosiect Fearless hefyd yn helpu wrth ymateb i'r cynnydd 'da ni wedi'i weld yn genedlaethol o ran pobl ifanc yn cario cyllyll a phroblemau fel llinellau cyffuriau, cyffuriau a chamfanteisio'n rhywiol ar blant drwy annog pobl ifanc siarad am broblemau maen nhw wedi dod ar eu traws.

"Mae'n bwysig fod pobl ifanc yn gwybod fod ganddyn nhw rywle i droi a rhywun a wnaiff wrando. Dwi'n gobeithio bydd Jason yn gallu lledaenu neges Crimestoppers a phrosiect Fearless ar draws Gogledd Cymru." 

Er mwyn gwybod mwy am brosiect Fearless, ewch ar: www.crimestoppers-uk.org/fearless/what-is-fearless