Skip to main content

Disgyblion yn dysgu neges diogelwch ffyrdd mewn achos llys ffug yn Rhuthun

Dyddiad

Ar ddydd Gwener, 13 Hydref, gwnaeth dros 100 o ddisgyblion Chweched Dosbarth a Blwyddyn 11 yn Ysgol Brynhyfryd yn Rhuthun brofi sut mae bod mewn achos llys, hefo achos llys ffug ym mhrif neuadd yr ysgol. Cafodd ei noddi gan y darparwr offer drama Kompan.

Ar wahân i ddangos sut mae achos llys yn gweithredu a’r rolau sydd ar gael i ddisgyblion sydd â diddordeb mewn astudio a gweithio yn y system gyfreithiol, pwrpas allweddol y digwyddiad oedd codi ymwybyddiaeth ymhlith pobl ifanc am yrru’n ddiogel a pheryglon gyrru’n fyrbwyll. Yn 2022, bu 34 o farwolaethau ar ffyrdd Gogledd Cymru, gydag 8 yn yrwyr 16-25 oed.

Trefnwyd y digwyddiad gan Pat Astbury, rhywun sy'n byw yn Rhuthun, ac aelod o Banel Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru. Jean Williams luniodd sgript yr 'achos llys'. Mae ganddi flynyddoedd o brofiad o gynghori ynadon pan mae achosion yn cyrraedd y llys.

Roedd Jo Alkir, a gollodd ei merch Olivia, a oedd yn ddisgybl yn Ysgol Brynhyfryd, mewn damwain car ym mis Mehefin 2019 ger Rhuthun, yn bresennol er mwyn pwysleisio pwysigrwydd gyrru'n ofalus i'r bobl ifanc er mwyn osgoi trasiedïau fel marwolaeth Olivia. Fe wnaeth eu hannog nhw 'fod yr un sy'n cael rhywun adref yn ddiogel, yn hytrach na'r un sy'n goryrru'. Pwysleisiwyd y pwynt hwn James Davies, AS Dyffryn Clwyd a ddywedodd: "Nid yw byth yn rhy gynnar deall pwysigrwydd diogelwch ffyrdd." 

Roedd stori'r achos llys yn cynnwys damwain car ffuglennol a oedd wedi digwydd yn Nant y Garth tu allan i Ruthun. Roedd y gwrthdrawiad yn cynnwys car a oedd wedi goddiweddyd un cerbyd ac wedi gyrru mewn i gerbyd arall. Roedd pob 'gyrrwr' yn y gwrthdrawiad yn ymddangos fel tyst.

Chwaraewyd y rhannau allweddol yn yr achos ffug, fel tyst, erlynydd, cyfreithiwr yr amddiffyniad, y diffynnydd, a'r ynadon gan fyfyrwyr Ysgol Brynhyfryd. Cawsant help Alun Humphreys o Wasanaeth Erlyn y Goron, y cyn ynad Richard Welch, swyddogion Heddlu Gogledd Cymru a Wayne Jones, Dirprwy Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru. 

Ar ôl clywed y dystiolaeth, aeth y panel o fyfyrwyr a oedd yn chwarae rhannau'r ynadon i ystyried y rheithfarn, a ddarllenwyd ar lafar wedyn i'r llys o gyd-fyfyrwyr. Roedd trafodaeth am yr achos a'r gosb, ynghyd â sgwrs am sut mae achosion troseddol eraill yn cyrraedd y llys. Rhoddodd y Dirprwy GHTh araith glo i'r disgyblion ar bwysigrwydd gyrru'n ddiogel a'i brofiadau'n ystod ei yrfa fel swyddog heddlu.

Dywedodd Wayne Jones, Dirprwy Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru: "Mae diogelwch ffyrdd yn rhan allweddol o gynllun y Comisiynydd Heddlu a Throsedd sef Andy Dunbobbin ar gyfer Gogledd Cymru. Mae digwyddiadau fel achos llys ffug heddiw yn hanfodol wrth ledaenu neges diogelwch ffyrdd mewn ffordd sy'n rhyngweithiol ac yn hawdd i'w deall. Mae hyn fel ein bod yn gallu cadw gyrwyr, teithwyr a cherddwyr yn ddiogel. Diolch i Pat Astbury a phawb yn Ysgol Brynhyfryd am drefnu'r diwrnod ac am gymryd rhan."

Dywedodd Mr Bedwyn Phillips, Pennaeth Cynorthwyol y Chweched Dosbarth, Ysgol Brynhyfryd: "Mae'n wych croesawu pawb yma heddiw er mwyn mynd â ni drwy'r achos llys mewn 'achos llys' o ran gyrru'n ddiogel. Mae'n rymus trafod hyn yn agored hefyd mewn fforwm hefo mam Olivia Alkir.  Mae hefyd wedi bod yn ffordd bwysig o ehangu posibiliadau gyrfaol ar gyfer ein myfyrwyr, fel eu bod nhw'n gallu trafod yr hyn maen nhw eisiau ei wneud fel swydd hefo gweithwyr proffesiynol a sut i gyrraedd y nod. Mae gweld sut mae llys yn gweithio o lygad y ffynnon hefyd yn annog ffordd weithredol o ddysgu."