Dyddiad
Mae ffilm drawiadol sydd â’r bwriad o amddiffyn pobl ifanc rhag bod yn rhan o’r fasnach gyffuriau yn mynd i gael ei gwneud gan gyfarwyddwr teledu nodedig trwy ddefnyddio £10,000 o arian a atafaelwyd gan droseddwyr yng ngogledd Cymru.
Bydd y fideo, y bwriedir ei ddefnyddio wedyn mewn ysgolion ac ar draws y gymuned, yn cael ei wneud gan elusen Canolfan Sain Golwg Arwyddion (CSGA) o Fae Colwyn mewn tair iaith – Saesneg, Cymraeg a Iaith Arwyddion – a bydd y ffilm hefyd yn defnyddio actorion ifanc o ogledd Cymru.
Mae’n cael ei chyfarwyddo gan John Evans, sy’n gyn-filwr a swyddog heddlu o Gaergybi, a adawodd yr heddlu i astudio ffilm ym Mhrifysgol Bangor ac sydd wedi gweithio yn y byd teledu ers hynny.
Mae John wedi ennill gwobrau’r Gymdeithas Teledu Frenhinol (RTS) a gwobrau eraill yn y byd teledu ac mae ei waith wedi cael ei ddarlledu ar BBC Three ac S4C, lle'r oedd ei ffilm ddogfen gyntaf, Cysgod Rhyfel, yn tynnu sylw at y problemau a wynebodd pedwar cyn-filwr oedd yn dioddef Anhwylder Straen Wedi Trawma.
Mae’r fideo newydd yn bwriadu dangos sut y gall plant bregus rhwng 9 a 13 oed gael eu tynnu i mewn i fywyd o droseddu drwy Linellau Cyffuriau, sef y rhwydwaith droseddol o gangiau cyffuriau sy’n gweithredu ar draws gogledd Cymru o ddinasoedd mawr ac sy’n recriwtio pobl ifanc fel dosbarthwyr.
Daw’r grant o gronfa arbennig sydd wedi cael ei dosbarthu gan Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru Arfon Jones, sydd â chyfanswm o £61,901 ynddi eleni ac sy’n cynnwys dau gyfraniad mawr a neilltuwyd yn benodol i ymladd bygythiad Llinellau Cyffuriau.
Mae menter Eich Cymuned, Eich Dewis hefyd yn cael ei chefnogi gan Ymddiriedolaeth Heddlu a Chymuned Gogledd Cymru sy’n dathlu eu 21ain pen-blwydd eleni.
Daw’r cyllid ar gyfer y cynlluniau o arian gafodd ei atafaelu gan y llysoedd drwy’r Ddeddf Elw Troseddau gyda’r gweddill yn dod o Gronfa Comisiynydd yr Heddlu.
Mae pob un o chwe sir y rhanbarth wedi derbyn hyd at £2,500 yr un ar gyfer dau grŵp gyda £5,000 yr un hefyd wedi’i neilltuo ar gyfer dau grŵp arall sy’n gweithredu mewn tair neu fwy o siroedd.
Yn ychwanegol eleni, diolch i gyllid ychwanegol gan Gomisiynydd yr Heddlu a Throsedd a Heddlu Gogledd Cymru, mae dau grant newydd o £10,000 ar gael.
Bwriad y grantiau sylweddol hyn yw ariannu prosiectau sy’n delio â phroblemau sy’n deillio o fygythiad Llinellau Cyffuriau, lle mae pobl ifanc yn cael eu gorfodi a’u bygwth â thrais i gymryd rhan mewn gweithgareddau anghyfreithlon ar draws y rhanbarth.
Roedd tua 15,000 wedi bwrw pleidlais ar-lein i benderfynu pa un o’r cynlluniau cymunedol ddylai dderbyn cefnogaeth, a chyflwyniad sieciau i’r 19 ymgeisydd llwyddiannus ym Mhencadlys Heddlu Gogledd Cymru ym Mae Colwyn.
Caiff ffilm CSGA ei chyfarwyddo gan eu Rheolwr Cyfryngau a Chyfathrebu John Evans.
Maent wedi gweithio’n agos gyda Heddlu Gogledd Cymru â’u swyddogion ymgysylltu ag ysgolion i wneud y ffilm ac meddai John: “Mae’r ffilm yma wedi’i hanelu at bobl ifanc, gan gynnwys pobl anabl, sydd mewn perygl o gael eu recriwtio yn ogystal â’u ffrindiau, eu rhieni a’u perthnasau.
Rydym wedi defnyddio actorion sy’n siarad Saesneg a Chymraeg gydag acen gogledd Cymru felly mae’n fwy perthnasol ac yn adlewyrchu’r cylch cyfoedion y mae’r plant yma’n rhan ohono a hefyd gydag oedolion a phlant sy’n defnyddio Iaith Arwyddion Prydeinig.
Roedd hefyd yn bwysig gweithio efo Heddlu Gogledd Cymru oherwydd maen nhw’n arbenigwyr yn y maes yma ac mae’n rhaid i’r fideo gael hygrededd a dangos realiti bywyd yng ngogledd Cymru.
Yr eiliad y mae plentyn yn deall eu bod nhw’n gwneud rhywbeth yn anghywir mae yna dueddiad i geisio ei gelu ond rydym yn gobeithio amlygu’r ffaith mai nhw yw’r dioddefwyr yn yr achos yma.
Rydym yn ddiolchgar iawn i Gomisiynydd yr Heddlu a Throsedd am ddarparu'r cyllid yma i ni oherwydd os caiff y fideo effaith ar un plentyn yna bydd hynny’n un plentyn fydd wedi’i achub a does dim modd rhoi pris ar hynny.”
Mae’r ffilm fer tair-ieithog yn rhan o weithdy awr o hyd ar thema ‘Llinellau Cyffuriau’ gaiff ei defnyddio mewn ysgolion gyda disgyblion ym Mlynyddoedd Saith, Wyth a Naw fel rhan o’r cwricwlwm Addysg Bersonol a Chymdeithasol a fydd yn cael ei dosbarthu gan Swyddogion Heddlu Cymunedol Ysgolion (SHCY) ac sydd ar gael ar www.schoolbeat.org.
Dywedodd Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gogledd Cymru Arfon Jones, a gyflwynodd y wobr ar y cyd gyda’r Prif Gwnstabl Cynorthwyol newydd Sacha Hatchett: “Rwy’n falch iawn fod cronfa Eich Cymuned Eich Dewis yn parhau i gefnogi prosiectau cymunedol ar draws gogledd Cymru am y seithfed flwyddyn yn olynol.
Mae’r gronfa unigryw yma’n caniatáu i’n cymunedau benderfynu pa brosiectau ddylai gael cefnogaeth ariannol drwy ein system pleidleisio ar-lein ac mae’r ymateb wedi gweld bron i 15,000 o aelodau’r cyhoedd yn pleidleisio dros gyfanswm o 30 prosiect.
Mae’r prosiectau yma’n cefnogi fy Nghynllun Heddlu a Throsedd sydd â´r pwrpas o sicrhau fod Heddlu Gogledd Cymru yn rhoi sylw penodol i’r pwyntiau hynny sydd wedi cael eu hadnabod fel rhai hanfodol gennyf i, y cyhoedd, ac yn wir yr heddlu ei hunain.
Bydd nifer ohonoch yn ymwybodol o’r ymgynghoriad Trydydd Sector diweddar a gynhaliwyd gen i, sydd wedi arwain at ddiweddaru fy mlaenoriaethau i gynnwys y ffyrdd rydym yn delio gyda thueddiadau sy’n dod i'r amlwg gan gynnwys Troseddu Cyfundrefnol a cham-fanteisio ar bobl fregus
Fel rhan o hyn, rwy’n bwriadu sicrhau bod ffocws clir yn parhau i gael ei roi ar droseddau llinellau cyffuriau - ffurf filain o droseddu sy’n cymryd mantais ar bobl ifanc bregus a’u troi at fywyd o droseddu sy’n beryglus a threisgar iawn lle nad oes llawer o ffyrdd i ddianc ohono.
Rwy’n falch iawn o weld bod nifer o’ch ceisiadau yn ceisio mynd i'r afael â’r broblem hon a chefnogi ein pobl ifanc.
Mae grwpiau cymunedol yn hanfodol i ddinasyddion gogledd Cymru, ac maent yn helpu ein cymunedau i fod ymysg y llefydd mwyaf diogel i fyw, gweithio ac ymweld â hwynt yn y Deyrnas Gyfunol.”
Dywedodd Sacha Hatchett: “Mae’r arian yma’n cynnwys arian gafodd ei atafaelu gan droseddwyr o dan y Ddeddf Elw Troseddau. Mae hon yn neges bwysig iawn oherwydd drwy agwedd broffesiynol Swyddogion Heddlu Gogledd Cymru a chefnogaeth y llysoedd, rydym yn medru taro’r troseddwyr lle mae’n eu brifo fwyaf - eu pocedi.
Mae ein gweithrediadau yn targedu pob math o droseddau difrifol gan gynnwys troseddau traws-ffiniol, lladradau arfog, defnydd anghyfreithlon o ddrylliau yn ogystal â chynhyrchu, mewnforio a chyflenwi cyffuriau.
Mae’r rhai sy’n rhan o droseddu difrifol yn aml iawn yn byw ymhell tu hwnt i’w modd, drwy yrru ceir drud, byw mewn tai mawr a mynd ar wyliau dramor yn aml; ac mae’n bosib iawn eu bod yn gallu byw bywyd fel hyn oherwydd yr elw maent wedi’i wneud o droseddau.
Mae ein cymunedau yn parhau i chwarae rhan yn y llwyddiant yma diolch i wybodaeth leol sy’n cael ei rhoi i’r swyddogion sydd yn ein helpu i ddod â’r troseddwyr yma o flaen eu gwell.
Mae’n danfon neges bositif bod arian sy’n cael ei gymryd o bocedi troseddwyr yn cael ei ailgylchu. Mae hyn yn troi arian gwael yn arian da gaiff ei ddefnyddio i bwrpas adeiladol.”
Cynrychiolwyr COSSS yn derbyn eu gwobr Eich Cymuned, Eich Dewis ym mhencadlys Heddlu Gogledd Cymru, o'r chwith, y Prif Gwnstabl Cynorthwyol Sacha Hatchett, Sarah Thomas a John Evans gyda Chomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru Arfon Jones.