Skip to main content

Gorsaf heddlu "werdd" newydd

Dyddiad

30042019 Police opening-2

Mae gorsaf heddlu newydd ecogyfeillgar sy’n cynnwys dodrefn wedi'u hail-gylchu a llu o nodweddion arbed ynni eraill wedi cael ei chanmol fel yr orsaf wyrddaf yn y Deyrnas Unedig.

Yn Llai agorwyd cyfleuster newydd Ardal Reoli a Dalfa Rhanbarth y Dwyrain yn swyddogol  gan Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru Arfon Jones, a ddatgelodd fod rhai o'r desgiau a'r cadeiriau sydd wedi'u hadnewyddu yn dod o’r hen bencadlys rhanbarthol yn Wrecsam.

Mae’r adeilad sy’n cynnwys y cyfarpar a'r gosodiadau diweddaraf, wedi costio £21.5 miliwn, ac mae hefyd yn cynnwys arae solar 80 cilowat ar y to a modd o gynaeafu dŵr glaw er mwyn golchi 85 o gerbydau'r heddlu bob wythnos.

Mae goleuadau LED clyfar wedi'u gosod ac mae'r adeilad eisoes yn dangos bod ei ddefnydd o ynni 50 y cant yn is nag adeiladau hŷn tebyg.

Cafodd y pencadlys 8,680 metr sgwâr, ei adeiladu gan y prif gontractwyr Galliford Try, ac mae’n cynnwys swyddfeydd a chyfleusterau ar gyfer 350 o swyddogion a staff yr heddlu, ynghyd â 32 o gelloedd, cyfleusterau ffreutur a dwy gampfa yn ogystal ag ystafelloedd loceri a garejys.

Daeth y rhan fwyaf o'r cadeiriau a'r dodrefn swyddfa o gyflenwyr lleol, gan gynnwys Neuadd y Sir yn yr Wyddgrug a'r hen orsaf heddlu yn Wrecsam, ac mae llawer ohonynt wedi’u hadnewyddu a'u huwchraddio ar y safle gan gwmni Orangebox o Dde Cymru, tra bod seddau a byrddau allanol wedi cael eu gwneud gan bobl ag anableddau dysgu yng Nghynnyrch Coed Meifod, Dinbych.

Cymerwyd gofal mawr y tu allan i ofalu am y bywyd gwyllt sy'n cynnwys rhywogaeth glöyn byw y gwibiwr llwyd, a thegeirianau gwyllt.

Gwelwyd ac arbedwyd un enghraifft o'r tegeirian caldrist gan ecolegydd y Cynllun Rheoli, Dr Richard Birch, a welwyd yn llythrennol o dan fwced cloddiwr JCB.

Yn y cyfamser, bwriedir dymchwel bloc yr hen orsaf heddlu yn Wrecsam a bydd gorsaf newydd yng nghanol y dref gyda desg flaen ar gyfer y cyhoedd yn cael ei hagor yn yr hen Oriel yng nghanol y dref.

Dywedodd y Comisiynydd, sy’n gyn-arolygydd heddlu: “Rwyf wrth fy modd bod gennym adeilad o'r radd flaenaf, ecogyfeillgar sy’n gweddu ar gyfer yr 21ain ganrif ac sy'n addas i ddyletswyddau a chyfrifoldebau plismona modern.

Cafodd bron i 90 y cant o'r dodrefn eu hadnewyddu neu eu hailgynhyrchu. Arbedwyd 40 tunnell o allyriadau nwyon tŷ gwydr CO2e a llwyddwyd hefyd i osgoi creu 26 tunnell o wastraff, gan arbed £300,000 o'i gymharu â chost gyfartalog dodrefn pris canolig fel hyn.

Mae'n hollbwysig i ni sicrhau bod ein hadeiladau newydd mor ynni-effeithlon ac mor ecogyfeillgar â phosibl a chredaf mai hon bellach yw'r orsaf heddlu fwyaf ecogyfeillgar yn y DU.

Mae'n gyfleuster gwych ac mae gallu cartrefu'r staff ar gyfer Wrecsam a Sir y Fflint mewn un lleoliad pwrpasol yn ardderchog.

Mae wedi'i ddiogelu rhag y dyfodol a bydd yn darparu amgylchedd gwaith gwych i'n staff - llawer gwell na’r tŵr ynghanol y dref lle treuliais flynyddoedd lawer.

Mae cymaint o bobl wedi bod yn rhan o'r prosiect hwn a hoffwn ddiolch i bob un ohonynt, ond mae yna un person y mae angen i mi ddiolch iddi yn arbennig uwchlaw pawb arall, a Liz Bryan y Rheolwr Prosiect yw honno. Mae Liz wedi bod yn ddyfal dros ben yn ymwneud efo adeiladu'r adeilad hwn ers blynyddoedd, ac rydym wedi gwerthfawrogi ei hymroddiad a'i phroffesiynoldeb yn fawr iawn.”

Cafodd y gwesteion arbennig, gan gynnwys rhai o gyn-gydweithwyr Mr Jones o'r adeg yr arferai weithio yn hen orsaf heddlu Wrecsam, eu diddanu gan gôr Ysgol Glanrafon o’r Wyddgrug, cyn i'r plac gael ei ddadorchuddio gan y Prif Gwnstabl Carl Foulkes.

Dywedodd y Prif Gwnstabl Foulkes: “Mae hwn wedi bod yn brosiect anhygoel sydd wedi arwain at gyfleuster newydd gwych a fydd yn gwneud cymaint o wahaniaeth i blismona yn yr ardal.

Mae yma swyddfeydd gweinyddol, swyddogaethau plismona allweddol ac ystafelloedd y ddalfa o'r radd flaenaf mewn lleoliad delfrydol er mwyn gwasanaethu Sir y Fflint a Wrecsam. Rwyf wrth fy modd bod gennym gyfleuster sy'n ein galluogi i gwrdd â gofynion amgylchedd plismona modern.

Rwyf hefyd yn edrych ymlaen at agor ein gorsaf ynghanol tref Wrecsam yn nes ymlaen eleni. Dyma fydd canolfan ein swyddogion ymateb, ein swyddogion cymorth cymunedol a'n tîm cymdogaeth yn ogystal â darparu gwasanaeth cownter blaen i'r cyhoedd.”

Dywedodd Anna Pretious, Rheolwr Cadwraeth Amgylcheddol ac Ynni Heddlu Gogledd Cymru: “Rydym yn rhagweld arbediad o £10,000 y flwyddyn ar gostau ynni gyda 10 y cant o'r trydan a gynhyrchir yn ynni solar ac 80 y cant o'r gweddill yn dod o ffynonellau adnewyddadwy eraill.

Rydym yn cynaeafu dŵr glaw i danc 18,000 litr sy'n ddigon i olchi 136 o gerbydau ac ar y safle mae gennym system ddraenio gynaliadwy gyda dau bwll i gasglu'r dŵr ffo ac atal llifogydd a phyllau eraill i annog bioamrywiaeth.

Fel gwasanaeth heddlu rydym wedi bod yn cymryd bywyd gwyllt a bioamrywiaeth yn ddifrifol iawn am 20 mlynedd ac yma mi wnaeth Dr Birch gynnal arolygon daearegol ac arolygon o gynefinoedd a ddangosodd bod brithwaith o gynefinoedd yma sydd wedi cael eu diogelu yn ystod ac ar ôl y gwaith adeiladu.

Yn ogystal â Dr Birch mae’r safle bellach yn cael ei reoi gan Ecological Land Management y gellir gweld ei swyddfeydd o'r safle ac mae hyn wedi rhoi parhad a chysondeb i ni o ran ein dull gweithredu.

Mae cadwraeth bywyd gwyllt wedi bod yn rhan annatod o'n meddylfryd ers blynyddoedd bellach.”

Mae planhigion prin eraill ar y safle yn cynnwys llysiau'r gwaed, tra bod yma hefyd fadfallod dŵr cribog a phum rhywogaeth o degeirian ac mae gwelyau blodau sy'n gyfeillgar i fywyd gwyllt, coed derw, bedw a helyg hefyd wedi cael eu plannu ar y safle.

Sefydlwyd coridor ecolegol er mwyn galluogi bywyd gwyllt i symud yn rhwydd heibio'r safle i'r gwrychoedd ger y brif ffordd i'r ystâd ddiwydiannol, ac yn ystod y gwaith adeiladu, rhoddodd y tîm datblygu degeirianau a achubwyd i brosiectau plannu yng Ngharchar Wrecsam ac i'r Prosiect Tegeirianau ar gyfer Ysgolion.

Yn ddiweddarach y mis hwn, ar ddydd Sadwrn, 18 Mai, bydd y safle'n cynnal y Bio Blitz rhwng 10yb a 2yp pan wahoddir aelodau o'r cyhoedd i ymuno mewn arolwg bywyd gwyllt o'r safle.

Ychwanegodd Anna Pretious: “Mae hwn yn ddigwyddiad arloesol i unrhyw wasanaeth heddlu ac mae'n ddigwyddiad arloesol iawn.

Rydym yn gobeithio cael hyd at 50 o bobl yma gyda ni i gynnal cyfrifiad o'r hyn sydd yma o ran bywyd gwyllt.”

2019 Wrexham ECCF Social Value Case Study (Welsh)