Dyddiad
Mae Clwb Bocsio Y Rhyl yn tynnu ei bwysau go iawn wrth gyflwyno sesiynau hyfforddi i bobl ifanc a'u helpu i aros allan o drafferth oherwydd arian parod a atafaelwyd oddi wrth droseddwyr.
Mae'r clwb, sy'n cynnal sesiynau am bedair noson bob wythnos, yn hyfforddi plant ac oedolion ifanc a chynnig gweithgareddau cadw'n heini, rhywbeth i godi hyder neu gyfle i focsio'n gystadleuol iddynt.
Mae'r aelodau'n dathlu ar ôl cael grant o £2,000 gan gronfa arbennig a ddosbarthwyd gan Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru Arfon Jones, a fydd yn cael ei ddefnyddio i brynu offer campfa newydd gan gynnwys menig, gardiau pen a bagiau dyrnu.
Daw’r cyllid ar gyfer y cynlluniau o arian menter Eich Cymuned, Eich Dewis hefyd yn cael ei chefnogi gan Ymddiriedolaeth Heddlu a Chymuned Gogledd Cymru sy’n dathlu eu 21ain pen-blwydd eleni.
Daw’r gwobrau yn rhannol o arian gafodd ei atafaelu gan y llysoedd drwy’r Ddeddf Elw Troseddau gyda’r gweddill yn dod o Gronfa Comisiynydd yr Heddlu.
Mae pob un o chwe sir y rhanbarth wedi derbyn hyd at £2,500 yr un ar gyfer dau grŵp gyda £5,000 yr un hefyd wedi’i neilltuo ar gyfer dau grŵp arall sy’n gweithredu mewn tair neu fwy o siroedd.
Yn ychwanegol eleni, diolch i gyllid ychwanegol gan Gomisiynydd yr Heddlu a Throsedd a Heddlu Gogledd Cymru, mae dau grant newydd o £10,000 ar gael.
Bwriad y grantiau sylweddol hyn yw ariannu prosiectau sy’n delio â phroblemau sy’n deillio o fygythiad Llinellau Cyffuriau, lle mae pobl ifanc yn cael eu gorfodi a’u bygwth â thrais i gymryd rhan mewn gweithgareddau anghyfreithlon ar draws y rhanbarth.
Roedd tua 15,000 wedi bwrw pleidlais ar-lein i benderfynu pa un o’r cynlluniau cymunedol ddylai dderbyn cefnogaeth, a chyflwyniad sieciau i’r 19 ymgeisydd llwyddiannus ym Mhencadlys Heddlu Gogledd Cymru ym Mae Colwyn.
Dywed Dan Andrews, prif hyfforddwr Clwb Bocsio Y Rhyl bod y sesiynau hyfforddi yn meithrin disgyblaeth ac yn addysgu pobl ifanc i barchu eu hunain fel unigolion yn ogystal â phobl eraill.
Dywedodd: “Mae dewis mawr o offer ar gael i'r plant ac rydym yn codi £2 y sesiwn gyda phedwar hyfforddwr cymwys yn hyfforddi hyd at 26 o blant ar y tro.
Mae hyn yn rhoi llawer iawn o draul ar bethau fel menig bocsio, bagiau dyrnu ac offer ymarfer arall.
Mi wnaethon ni ofyn am gymorth o gronfa Eich Cymuned Eich Dewis i brynu ychydig o offer hyfforddi bob dydd, yn ogystal â phecynnau eraill ar gyfer y plant sydd eisiau symud ymlaen ymhellach yn y gamp.”
Ychwanegodd: “Mae'r heddlu wedi adnabod nifer o'n haelodau o'r blaen a’r gobaith ydi efo'n harweiniad ni a thrwy ddysgu'r egwyddorion hyn iddyn nhw, y bydd y galw ar yr heddlu ar bethau fel ymddygiad gwrthgymdeithasol yn cael ei leihau.
Rydym wedi trafod nifer o brosiectau gyda Swyddogion Cefnogi Cymuned yr Heddlu lleol lle byddem yn gweithio gyda nhw i gyflenwi sesiynau cymunedol a fyddai'n helpu i wella'r berthynas rhwng ein haelodau a Heddlu’r Gogledd.
Rydym eisiau dysgu pwysigrwydd hunanddisgyblaeth i bobl ifanc o bob oed a chefndir tra'n rhoi rhywle iddyn nhw ddod a lle mae ganddyn nhw deimlad go iawn o berthyn.
Rydym yn gobeithio y bydd hefyd yn hybu perthynas iach efo'u rhieni a fydd yn teimlo'n hyderus bod y clwb sy'n gysylltiedig â'u plant yn gweithio'n agos gyda Heddlu Gogledd Cymru.
Rydym yn falch iawn ein bod wedi llwyddo yn ein cais a bydd y £2,000 rydym wedi ei gael yn ddefnyddiol dros ben.”
Enillwyr eraill Sir Ddinbych oedd Rhaglen Rhyddid yr Uned Cefnogi Cam-drin yn y Cartref yn y Rhyl a dderbyniodd £2,500 a Youth Shedz Cymru, sydd â chanolfannau ym Mae Cinmel / Tywyn, Abergele a Dinbych, a gafodd £2080.
Mae Rhaglen Rhyddid DASU yn gweithio gyda dioddefwyr a goroeswyr cam-drin yn y cartref i roi hunanhyder a chefnogaeth iddynt tra bod prosiect Youth Shedz yn darparu lleoedd lle gall pobl ifanc fynd i ddysgu sgiliau newydd, cymryd rhan mewn prosiectau cymunedol a chael eu mentora gan fodelau rôl cadarnhaol.
Dywedodd Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gogledd Cymru Arfon Jones, a gyflwynodd y wobr ar y cyd gyda’r Prif Gwnstabl Cynorthwyol newydd Sacha Hatchett: “Rwy’n falch iawn fod cronfa Eich Cymuned Eich Dewis yn parhau i gefnogi prosiectau cymunedol ar draws gogledd Cymru am y seithfed flwyddyn yn olynol.
“Mae’r gronfa unigryw yma’n caniatáu i’n cymunedau benderfynu pa brosiectau ddylai gael cefnogaeth ariannol drwy ein system pleidleisio ar-lein ac mae’r ymateb wedi gweld bron i 15,000 o aelodau’r cyhoedd yn pleidleisio dros gyfanswm o 30 prosiect.
Mae’r prosiectau yma’n cefnogi fy Nghynllun Heddlu a Throsedd sydd â´r pwrpas o sicrhau fod Heddlu Gogledd Cymru yn rhoi sylw penodol i’r pwyntiau hynny sydd wedi cael eu hadnabod fel rhai hanfodol gennyf i, y cyhoedd, ac yn wir yr heddlu ei hunain.
Bydd nifer ohonoch yn ymwybodol o’r ymgynghoriad Trydydd Sector diweddar a gynhaliwyd gen i, sydd wedi arwain at ddiweddaru fy mlaenoriaethau i gynnwys y ffyrdd rydym yn delio gyda thueddiadau sy’n dod i'r amlwg gan gynnwys Troseddu Cyfundrefnol a cham-fanteisio ar bobl fregus
Fel rhan o hyn, rwy’n bwriadu sicrhau bod ffocws clir yn parhau i gael ei roi ar droseddau llinellau cyffuriau - ffurf filain o droseddu sy’n cymryd mantais ar bobl ifanc bregus a’u troi at fywyd o droseddu sy’n beryglus a threisgar iawn lle nad oes llawer o ffyrdd i ddianc ohono.
Rwy’n falch iawn o weld bod nifer o’ch ceisiadau yn ceisio mynd i'r afael â’r broblem hon a chefnogi ein pobl ifanc.
Mae grwpiau cymunedol yn hanfodol i ddinasyddion gogledd Cymru, ac maent yn helpu ein cymunedau i fod ymysg y llefydd mwyaf diogel i fyw, gweithio ac ymweld â hwynt yn y Deyrnas Gyfunol.”
Dywedodd Sacha Hatchett: “Mae’r arian yma’n cynnwys arian gafodd ei atafaelu gan droseddwyr o dan y Ddeddf Elw Troseddau. Mae hon yn neges bwysig iawn oherwydd drwy agwedd broffesiynol Swyddogion Heddlu Gogledd Cymru a chefnogaeth y llysoedd, rydym yn medru taro’r troseddwyr lle mae’n eu brifo fwyaf - eu pocedi.
Mae ein gweithrediadau yn targedu pob math o droseddau difrifol gan gynnwys troseddau traws-ffiniol, lladradau arfog, defnydd anghyfreithlon o ddrylliau yn ogystal â chynhyrchu, mewnforio a chyflenwi cyffuriau.
Mae’r rhai sy’n rhan o droseddu difrifol yn aml iawn yn byw ymhell tu hwnt i’w modd, drwy yrru ceir drud, byw mewn tai mawr a mynd ar wyliau dramor yn aml; ac mae’n bosib iawn eu bod yn gallu byw bywyd fel hyn oherwydd yr elw maent wedi’i wneud o droseddau.
Mae ein cymunedau yn parhau i chwarae rhan yn y llwyddiant yma diolch i wybodaeth leol sy’n cael ei rhoi i’r swyddogion sydd yn ein helpu i ddod â’r troseddwyr yma o flaen eu gwell.
Mae’n danfon neges bositif bod arian sy’n cael ei gymryd o bocedi troseddwyr yn cael ei ailgylchu. Mae hyn yn troi arian drwg yn arian da gaiff ei ddefnyddio i bwrpas adeiladol.”