Skip to main content

Heddlu bach am gael effaith fawr

Dyddiad

Heddlu bach am gael effaith fawr

‘Helo, Helo, Helo,’ - mae gan Heddlu Gogledd Cymru 10 recriwt bychan newydd.

Nod prosiect yr Heddlu Bach yw meithrin gwell perthynas rhwng swyddogion heddlu a’r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu.

Mae’r tîm ifanc o ymladdwyr troseddau rhwng 9 ac 11 oed yn ddisgyblion yn Ysgol Gynradd Alexandra, Wrecsam.

Rhoddwyd lifrai sgleiniog newydd i’r heddweision bach yn ogystal â’u cardiau gwarant eu hunain.

Cawsant dyngu llw mewn seremoni arbennig ym mhencadlys newydd yr heddlu yn Llai ym mhresenoldeb Uchel Siryf Clwyd, Stephanie Catherall, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru Arfon Jones a Phrif Gwnstabl Cynorthwyol Heddlu Gogledd Cymru Sacha Hatchett.

Mae’r prosiect yn cael ei ariannu’n rhannol gyda grant o £300 gan elusen Crimebeat yr Uchel Siryf, sy’n helpu pobl ifanc i ddatblygu prosiectau sy’n gwneud eu cymunedau yn llefydd mwy diogel i fyw ynddynt. Mae hefyd yn cael ei gefnogi gan Gyngor Cymuned Acton a Tesco.

Yn ystod y rhaglen saith wythnos o hyd bydd y bobl ifanc yn dewis y blaenoriaethau plismona sy’n peri pryder iddyn nhw, er enghraifft goryrru gerlaw eu hysgol, traffig, sbwriel neu barcio.

Byddant yn gallu mynd allan ar batrôl gyda swyddogion heddlu arferol a gweld sut y mae’r gwn cyflymdra a ddelir â llaw yn gweithio.

Roedd yr heddwas bach, Rhys Davies, 10 oed, yn falch iawn o gael ei dderbyn i’r prosiect.

Dywedodd: “Rwyf wrth fy modd efo’r dillad heddlu ac rwy’n falch iawn fy mod wedi cael y cyfle i fynd ar y cynllun.

Rwyf eisiau mynd allan gyda heddlu traffig a dysgu sut i ddal pobl sy’n gyrru’n rhy gyflym. Dydan ni ddim eisiau gweld pobl yn goryrru achos gall plant ac oedolion gael eu brifo. Does dim angen gyrru’n gyflym yn enwedig ger ysgolion a lle mae pobl hŷn yn byw.

Mae’n mynd i fod yn grêt a fedra i ddim aros i helpu a gweithio efo fy ffrindiau ar bethau yn y gymuned.”

Ychwanegodd ei dad, Jay Davies, sy’n gweithio i Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam fel swyddog darpariaeth chwarae: “Mae’n gynllun mor wych ac yn chwalu rhwystrau ac yn cael gwared ar y syniad nad oes gan blant le i wneud penderfyniadau mewn cymunedau – ac yn sicr mae angen eu cynnwys mewn pethau fel hyn.”

Anerchodd yr Uchel Siryf Stephanie Catherall y recriwtiaid newydd ac ystafell yn llawn rhieni a neiniau a theidiau balch gan ddweud wrthynt fod prosiect yr Heddlu Bach yn gyfle gwirfoddoli rhyngweithiol llawn hwyl.

Dywedodd: “Mae’n wych gweld pawb ohonoch yn cymryd cymaint o ddiddordeb mewn dod yn swyddogion heddlu bach lleol, gan wirfoddoli a chymryd rhan yn eich cymunedau. Rwy’n siŵr y byddwch chi’n dysgu llawer iawn o hyn ac yn cael llawer o hwyl hefyd.

Mae’r Heddlu Bach yn ffordd o ymgysylltu gyda phlant yn eu cymunedau. Mae’n helpu i fynd i’r afael â blaenoriaethau plismona, cynyddu hyder a lleihau rhwystrau canfyddedig.”

Ychwanegodd: “Mae’n rhoi llais i bobl ifanc ac mae Crimebeat yn gobeithio annog mwy o brosiectau Heddlu Bach yn y dyfodol.”

Mae Arfon Jones, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, sy’n gyn-arolygydd heddlu ei hun, yn gefnogwr mawr o brosiect yr Heddlu Bach.

Dywedodd: “Nid yw plant byth yn rhy ifanc i chwarae rôl weithredol. Nod y prosiect hwn yw rhoi hyder i’r bobl ifanc hyn. Mae’n help ein bod yn ymwneud yn gynnar yn eu bywydau ifanc a’u hannog i ddeall beth y mae’r heddlu yn ei wneud yn eu cymunedau.

Mae’n wych gweld cymaint o rieni a neiniau a theidiau yma hefyd. Maent yn amlwg yn falch iawn o’u plant ac mae ganddyn nhw ddigon o achos i deimlo balchder o’r fath.”

Bydd yr Heddlu Bach yn Ysgol Alexandra yn cael ei redeg gan Swyddog Cymorth Cymunedol yr Heddlu, a dywed Robina Amhed mai’r 10 recriwt newydd yw’r cyntaf yng Ngogledd Cymru a’r gobaith yw cyflwyno’r syniad i ardaloedd eraill.

Dywedodd: “Mae’r prosiect yn cael ei dreialu gan Ysgol Gynradd Alexandra.

Aeth yr holl swyddogion bach newydd drwy broses ddethol gychwynnol a oedd yn cynnwys llenwi ffurflen gais a chael cyfweliad.

Ein gobaith yw dod o hyd i 10 o gadetiaid heddlu newydd neu heddweision y dyfodol!”

Yn ôl yr athro Will Brownhill, roedd yn fenter “ardderchog”.

Dywedodd: “Ar ôl meddwl am y mentrau y maent am fynd i’r afael â hwynt, bydd angen iddyn nhw benderfynu beth y gallwn ei wneud i ddelio â’r materion hynny a throsglwyddo’r neges honno i grwpiau cymunedol eraill.”

Mi fyddant yn cael y cyfle, er enghraifft, i fynd allan gyda swyddogion heddlu arferol ac edrych ar droseddau goryrru a sut mae’r radar a ddelir â llaw yn gweithio.

Rydym hefyd yn disgwyl iddynt gymryd rhan mewn diwrnodau cymunedol a mynychu digwyddiadau cymunedol er mwyn helpu i ledaenu eu neges o ddinasyddiaeth dda.”