Skip to main content

Heddwas y cafodd ei fam ei lladd yn greulon gan lysdad yn hyrwyddo ymgyrch newydd i fynd i'r afael â thrais yn y cartref

Dyddiad

PCCWhiteRibbon-22

Mae ymgyrch i fynd i’r afael â thrais yn erbyn merched wedi codi gêr gyda sticeri ffenestri arbennig yn cael eu rhoi ym mhob un o’r 250 o gerbydau heddlu yng ngogledd Cymru.

Mae'r ymgyrch yn cael ei hyrwyddo gan yr Heddwas Mike Taggart, 37 oed, y cafodd ei fam ei thrywanu i farwolaeth gan ei lysdad creulon pan oedd yn ddim ond 15 oed.

Y profiad trawmatig oedd yr ysgogiad i’r Heddwas Taggart i ymuno â Heddlu Gogledd Cymru ac ef bellach yw Swyddog Strategol Cam-drin yn y Cartref yr heddlu.

Mae'r sticeri Rhuban Gwyn yn rhan o fenter ryngwladol a sefydlwyd gan ddynion i roi diwedd ar bob math o drais yn erbyn merched.

Gosodwyd y sticer cyntaf ar gar patrol heddlu gan yr Heddwas Taggart a Chomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, Arfon Jones.

Mae mynd i’r afael â thrais yn y cartref yn un o brif flaenoriaethau Cynllun Heddlu a Throsedd y Comisiynydd, sef y cynllun gwaelodol ar gyfer plismona Gogledd Cymru, ac mae wedi darparu cyllid ar gyfer yr ymgyrch.

Mae Mr Jones, sy’n gyn arolygydd heddlu, hefyd yn cefnogi cynllun arall i gynnig hyfforddiant am ddim i staff siopau trin gwallt ledled gogledd Cymru i godi ymwybyddiaeth a'u helpu i adnabod arwyddion o gam-drin yn y cartref.

Yn ôl yr Heddwas Taggart, roedd gosod sticeri’r Rhuban Gwyn ar gerbydau’r heddlu hefyd wedi anfon neges bwysig am fater sy’n hynod bwysig iddo.

Cafodd bywydau yr Heddwas Taggart a’i chwaer, Becci, eu chwalu'n llwyr pan lofruddiwyd eu mam yn ei fflat yn y Rhyl yn 1997 gan Derek Evans, ei chyn ŵr, ar ôl blynyddoedd o gamdriniaeth filain dan ddylanwad alcohol.

Nid oedd Evans yn hoffi ei hannibyniaeth newydd ar ôl iddi ddechrau gweithio gyda phobl ag anableddau dysgu ac mewn un digwyddiad ar ôl iddi fod am ddiod gyda ffrindiau, ymosododd arni yn y stryd.

Er iddi ei adael nid oedd dianc ac aeth Evans draw i'w fflat newydd a'i thrywanu 11 o weithiau.

Dywedodd yr Heddwas Taggart: “Doedd dim clwyfau amddiffyn. Mae’n rhaid ei bod hi wedi marw yn syth.

Dywedodd wrth y llys na allai gofio unrhyw beth ond fe’i cafwyd yn euog o lofruddiaeth a’i ddedfrydu i garchar am oes gydag isafswm o 11 mlynedd dan glo.

Y trawma yr aeth fy nheulu drwyddo yw un o’r pethau a’m cymhellodd i’r swydd hon er mwyn helpu pobl sy’n dioddef cam-drin yn y cartref.

Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi bod yn rhagweithiol iawn yn y maes hwn a chafwyd penderfyniad o’r newydd i fynd i’r afael â thrais yn y cartref wedi i Arfon Jones ddod yn Gomisiynydd Heddlu a Throsedd.

Mae Mr Jones hefyd yn awyddus i ddod yn Llysgennad Rhuban Gwyn sy'n dangos ei fod yn teimlo’n angerddol iawn am y mater.

Rwy’n ddiolchgar iddo am ddarparu cyllid ar gyfer sticeri’r Rhuban Gwyn ac am ei gefnogaeth i’r ymgyrch siopau trin gwallt.

Mae wedi bod yn hynod ragweithiol wrth dynnu sylw at yr ymgyrch a sicrhau bod pobl yn gwybod beth yw’r arwyddion a sut i annog pobl i ddod ymlaen, a sut i helpu’r heddlu i geisio mynd i’r afael â hyn.

Roedd pobl yn arfer tybio bod cam-drin yn y cartref yn ymwneud â phethau fel cam-drin rhywiol a chorfforol yn unig. Ond bellach mae sylw hefyd yn canolbwyntio ar gam-drin emosiynol, a rheoli heb ddefnyddio trais.

Mae hefyd yn ymwneud ag ynysu pobl nid yn unig o ran lleoliad ond hefyd yn feddyliol trwy eu cadw draw o’i cylch ffrindiau a’i teulu.

Amlygwyd cryn dipyn ar y teledu yn ddiweddar ynglŷn â chwarae triciau meddyliol (‘gaslighting’) hefyd sydd yn y bôn yn gwneud i’ch dioddefwyr gredu bod rhywbeth yn digwydd nad yw o reidrwydd yn digwydd.

O ganlyniad, mae'r dioddefwr yn dod yn fwy dibynnol ac yn gwneud iddynt droi at y troseddwr am gyngor a chefnogaeth.

Ar lefel bersonol mae’n anhygoel gweld y camau sy’n cael eu cymryd ac mae pwysigrwydd y mater yn cael ei yrru ymlaen hefyd.

22 mlynedd yn ôl y gwnaethom golli fy mam, a chredaf pe bai’r mater hwn mor amlwg ym meddyliau pobl bryd hynny ac yn cael yr un math o sylw ag y mae heddiw efallai y byddai wedi ei gwthio hi i adael yn gynt ac achub ei bywyd.

Ychwanegodd Arfon Jones: “Trwy gael y sticeri Rhuban Gwyn hyn ar bob cerbyd heddlu bydd mwy o bobl yn gweld yr hyn y gallan nhw ei wneud i fynd i’r afael â mater trais yn y cartref ac i ledaenu’r gair ei fod yn annerbyniol.

Mae yna arwyddion bod pobl yn teimlo’n fwy hyderus i ddod ymlaen ac mae honno’n neges bwysig i’w lledaenu. Mae niferoedd cynyddol o bobl sydd wedi goroesi cam-drin yn y cartref yn ei riportio, ac mae dioddefwyr yn dod ymlaen. Mae hynny'n gadarnhaol. Rydym yn annog pobl i ddod ymlaen yn lle dioddef yn dawel.”

Mae'r gwasanaeth yng Nghanolfan Cymorth Dioddefwyr Gogledd Cymru ar gael rhwng 8yb-8yh o ddydd Llun i ddydd Gwener a rhwng 9yb-5yp ar ddydd Sadwrn. Gellir cysylltu â’r ganolfan ar Rhadffôn 0300 30 30 159, trwy e-bost yn: northwales.helpcentre@victimsupport.org.uk, neu drwy’r gwefannau www.victimhelpcentrenorthwales.org.uk neu www.canolfangymorthiddioddefwyrgogleddcymru.org.uk