Skip to main content

Hwb ariannol i ganolfan cam-drin rhywiol

Dyddiad

RASAC PCC EF DM

Datgelwyd bod nifer yr achosion a dderbynnir gan ganolfan argyfwng sy'n helpu dioddefwyr camdriniaeth rywiol wedi dyblu yn ystod y 12 mis diwethaf.

Ond, yn ôl Canolfan Trais a Cham-drin Rhywiol Gogledd Cymru (RASASC), mae hynny'n beth da oherwydd mae'n golygu bod goroeswyr yn fwy hyderus ynglŷn â dod ymlaen i geisio cymorth.

Roedd y cadeirydd dros dro Non Williams yn siarad ar ôl derbyn siec o £6,179 gan Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru Arfon Jones.

Yn bresennol yn y digwyddiad hefyd oedd y seren bop a'r cyflwynydd teledu Elin Fflur a oedd ymhlith y sêr a gymerodd ran mewn cyngerdd codi arian a drefnwyd gan Mr Jones yng Nghadeirlan Bangor, ynghyd a chyflwynydd y noson Dilwyn Morgan, sy’n gynghorydd sir yng Ngwynedd ond sydd yr un mor adnabyddus fel digrifwr  a chyflwynydd radio a theledu.

Mae'r ganolfan wedi gweld cynnydd sylweddol yn ei llwyth gwaith ar ôl i achosion proffil uchel fel sgandal Jimmy Savile fod yn amlwg ar y newyddion.

Dywedodd Ms Williams fod 468 o oedolion a 114 o blant o bob cwr o Ogledd Cymru wedi cael help, cyngor a chefnogaeth yn ystod y 12 mis diwethaf.

Dywedodd: “Bydd rhodd y Comisiynydd Heddlu a Throsedd yn golygu y gallwn leihau'r rhestr aros ar gyfer gwasanaethau cwnsela a hefyd prynu offer chwarae i blant sydd angen cael eu cwnsela.

Rydym yn darparu gwasanaethau cwnsela i ddynion a merched, plant ac oedolion sydd wedi dioddef trais rhywiol yn ogystal ag achosion hanesyddol.

Rydym yn gweld bod mwy a mwy o achosion hanesyddol yn dod i'r amlwg oherwydd twf mewn ymwybyddiaeth ynghylch troseddau o'r fath. Mae hynny o ganlyniad i effaith achosion proffil uchel fel un Jimmy Savile.

Rydym yn cwmpasu Gogledd Cymru gyfan o Sir y Fflint i Wynedd ac i lawr i Feirionnydd ac rydym wedi gweld ein llwyth gwaith yn dyblu yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf. Yn ystod y 12 mis diwethaf, mae ein 33 o gwnselwyr hyfforddedig wedi cefnogi 468 o oedolion a 114 o blant.

Mae hynny'n gynnydd anferth ond rydym wedi ymrwymo i helpu pawb sydd wedi dioddef trais ac ymosodiad rhywiol. Rwy'n credu y bydd gofyn i ni gefnogi hyd yn oed mwy o ddioddefwyr yn y blynyddoedd i ddod.

Mae gennym hefyd 11 o weithwyr ategol sy'n cefnogi pobl cyn iddyn nhw fynd i'r llys. Mae rhai pobl yn dioddef o orbryder ac rydym yn defnyddio canolfan gorbryder diogel ym Mae Colwyn fel hafan ddiogel.”

Ychwanegodd: “Mae gennym ein canolfan yma ym Mangor ac mae dwy ganolfan arall, un yng Nghaergybi ac un ym Mae Colwyn, ond byddwn yn cyfarfod efo pobl ac yn eu cefnogi trwy eu cyfarfod mewn amryw o leoliadau ar draws gogledd Cymru.  

Dywed Eileen Dewhurst, cynghorydd RASASC, y bydd y rhodd gan y comisiynydd heddlu a throsedd yn help anferth wrth geisio lleihau amseroedd aros am wasanaethau.

Dywedodd: “Rydym yn darparu gwasanaethau cefnogi a chwnsela i unrhyw un 13 oed neu hŷn sydd wedi profi unrhyw fath o drais rhywiol, yn ddiweddar neu yn y gorffennol. Ac rydym hefyd yn cefnogi partneriaid ac aelodau o'r teulu os oes angen.

Mae pobl yn gofyn am gymorth efo amrywiaeth o faterion gan gynnwys cam-drin plant yn rhywiol, cam-fanteisio rhywiol, cam-drin trefnedig, ymosodiadau rhywiol a thrais rhywiol.

Byddwn yn gwrando a byddwn yn credu dioddefwyr. Nid ein gwaith ni yw barnu dioddefwyr na sut maen nhw wedi ymdopi ac ni fyddwn yn dweud wrth bobl beth i'w wneud.”

Ychwanegodd: “Rydym yn gobeithio darparu amgylchedd diogel er mwyn i ddioddefwyr allu archwilio sut maen nhw'n teimlo ac i wneud eu dewisiadau eu hunain o ran y ffordd ymlaen.”

Roedd Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, Arfon Jones, wrth ei fodd o fod wedi gallu cefnogi RASASC trwy gyfrannu elw'r cyngerdd i'r achos.

Dywedodd: “Mae delio ag ac atal trais rhywiol yn flaenoriaeth o fewn fy Nghynllun Heddlu a Throsedd.

Roeddwn ond yn ymwybodol o'r llwyth gwaith cynyddol sy'n wynebu cwnselwyr RASASC a phenderfynais geisio codi arian sydd ei ddirfawr angen a cheisio helpu i liniaru rhai o'r materion sy’n wynebu’r ganolfan.

Mae yna werth cymdeithasol gwirioneddol o fynd i'r afael â'r materion a'r problemau hyn drwy'r gwaith y mae RASASC yn ei wneud. Mae'n ymwneud â gwella ansawdd bywyd dioddefwyr ond mae hefyd yn cael effaith bwysig arall gan ei fod yn lleihau galwadau ar staff gwasanaethau statudol eraill.”

Ychwanegodd: “Rwyf hefyd yn ddiolchgar iawn i Elin Fflur, Dilwyn Morgan y cyflwynydd, Côr y Penrhyn, Only Boys Aloud a'r band gwerin Tant a berfformiodd yn y cyngerdd. Fe wnaethon nhw i gyd helpu i wneud y noson yn llwyddiant ysgubol.

Roedd codi mwy na £6,000 yn dipyn o gamp ac rwyf wrth fy modd fy mod wedi gallu cyflwyno'r siec i RASASC heddiw.”

Ychwanegodd Elin Fflur: “Mae helpu i godi ymwybyddiaeth o RASASC wedi bod yn anhygoel. Mae'n rhaid i mi gyfaddef nad oeddwn yn ymwybodol o'r holl waith y maen nhw'n ei wneud cyn hyn. Mae ymweld â'r ganolfan wedi bod yn agoriad llygad go iawn.

Mae'n rhaid bod RASASC yn hafan go iawn i bobl sydd wedi dioddef troseddau rhywiol. Fedra i ddim dychmygu mor anodd a pha mor erchyll ydi gorfod delio efo cam-drin rhywiol. Mae'n rhaid ei fod yn brofiad erchyll sy’n trawsnewid bywyd.”

Ategwyd y teimlad gan Dilwyn Morgan a ddywedodd: “Roeddwn wrth fy modd yn gallu cefnogi achos mor werth chweil sy'n effeithio ar bob cymuned. Braint oedd cymryd rhan yn y cyngerdd. Roedd Elin Fflur, ynghyd â'r holl bobl eraill a gyfrannodd, yn wych.

Mae codi mwy na £6,000 mewn un digwyddiad yn syfrdanol ac mae'n ardderchog gweld y Comisiynydd Heddlu a Throsedd yn cefnogi elusen mor bwysig sy'n gwneud gwaith mor anhygoel.”

I wybod mwy am Ganolfan Cymorth Trais a Cham-drin Rhywiol Gogledd Cymru  ewch i www.rasacymru.org.uk