Skip to main content

Mwy o lwyddiant i ymgysylltiad prosiect hamdden gyda phobl ifanc diolch i gyllid cymunedol

Dyddiad

Ar ddydd Mercher 19 Gorffennaf, ymwelodd Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd (CHTh) Gogledd Cymru â Hamdden Harlech ac Ardudwy yn eu canolfan yn Harlech, Gwynedd. Diben yr ymweliad oedd gweld â grŵp tu ôl i'r prosiect a dysgu mwy am sut maent yn elwa o'r cyllid a dderbyniwyd drwy fenter Eich Cymuned, Eich Dewis y CHTh.

Mae Eich Cymuned, Eich Dewis yn dathlu ei degfed pen-blwydd yn 2023 a, dros y deng mlynedd diwethaf mae dros £500,000 wedi cael ei roi i dros 150 o brosiectau yn gweithio er mwyn lleihau trosedd yn eu hardaloedd a chynorthwyo'r blaenoriaethau yng Nghynllun Trosedd y Comisiynydd Heddlu a Throsedd. Mae cronfa Eich Cymuned, Eich Dewis yn cynorthwyo prosiectau llawr gwlad ac mae'n derbyn cymorth gan Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, Ymddiriedolaeth yr Heddlu a'r Gymuned Gogledd Cymru (PACT) a Heddlu Gogledd Cymru. Mae'r arian ar gyfer Eich Cymuned, Eich Dewis yn dod yn rhannol oddi wrth arian sydd wedi ei atafaelu drwy'r llysoedd drwy Ddeddf Enillion Troseddau gyda'r gweddill o Gronfa'r Comisiynydd Heddlu a Throsedd.

Nododd Hamdden Harlech ac Ardudwy, sy'n fenter gymdeithasol sydd ar waith gyda chymorth gwasanaeth ieuenctid ac ysgol gymunedol, y gallent ychwanegu at y gweithgareddau a gynigir i blant a phobl ifanc ar hyn o bryd yn yr ardal. Ailgysylltir pobl leol â'r pwll a'r wal ddringo yn y Ganolfan Hamdden. Yn ystod yr ymweliad, clywodd Mr Dunbobbin sut mae Hamdden Harlech ac Ardudwy yn bwriadu darparu gweithgareddau am ddim a chynorthwyol i blant 11-19 oed lleol, gyda bwriad ymestyn y rhaglen os yn llwyddiannus.

Gwelodd hefyd weithgareddau'r grŵp a chlywodd sut maent yn blaenoriaethu twf personol, datblygu sgiliau a chysylltiadau cymunedol i bobl ifanc. Maent yn gwneud hyn drwy gynnig canolfan er mwyn cyfarfod ac ar gyfer gweithgarwch hamdden, ynghyd â chyfleoedd iddynt gael cymwysterau achub bywyd a dringo. Yn ei dro, mae hyn yn galluogi pobl ifanc wneud eu cyfraniad personol eu hunain i'r gymuned leol.

Dywedodd Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru: "Mae'n amlwg i mi pa mor ymroddedig ydy Hamdden Harlech ac Ardudwy i ddarparu gwasanaeth i bobl ifanc yn eu hardal.

Mae amcanion eu prosiect hefyd yn cyd-fynd â blaenoriaeth fy Nghynllun Heddlu a Throsedd sef cyflawni cymdogaethau diogelach. Maent yn rhoi cyfleoedd amrywiol ac yn rhoi hyder i bobl ifanc yn yr ardal.  Mae hyn yn creu cymuned gryfach a chymdogaeth fwy diogel drwy roi cyfle iddynt er mwyn ychwanegu at eu sgiliau a dysgu rhywbeth newydd.  Rwyf yn falch o allu cynorthwyo'r grŵp gyda'r cyllid hwn. Rwyf yn dymuno'r gorau iddynt i'r dyfodol." 

Dywedodd Donna Morris-Collins o Hamdden Harlech ac Ardudwy: “Mae Hamdden Harlech ac Ardudwy wedi gwirioni derbyn cyllid PACT er mwyn caniatáu i ni gynnig gweithgareddau wythnosol a chanolfan gymdeithasu i'n hieuenctid lleol.  

"Rydym yn gyffrous o weithio gyda Gwasanaethau Ieuenctid er mwyn rhoi gwasanaeth hanfodol i'n hieuenctid a chaniatáu iddynt gymdeithasu gyda ffrindiau mewn amgylchfyd diogel a chynnes.  Hoffai Hamdden Harlech ac Ardudwy ddiolch i Heddlu Gogledd Cymru am eu cymorth i'r ardal ac am y cyfle i'r ganolfan gynnig gweithgaredd ar ôl ysgol i'n hieuenctid."

Dywedodd cadeirydd PACT Ashley Rogers: "Rwyf yn cydnabod gwerth Hamdden Harlech ac Ardudwy 'r cymunedau yn yr ardal. Rwyf yn falch ein bod ni wedi gallu cynorthwyo gydag arian ar gyfer gweithgareddau yn y dyfodol. Mae eu hymrwymiad i roi hyder i'r genhedlaeth nesaf yn codi calon. Dyna pam rwyf yn credu eu bod yn haeddu cael cyllid Eich Cymuned, Eich Dewis." 

Dywedodd Chris Allsop, Prif Gwnstabl Cynorthwyol Heddlu Gogledd Cymru: "Rwyf yn falch o allu rhoi cyllid i Hamdden Harlech ac Ardudwy er mwyn iddynt barhau â'u gwaith.  Mae'r grŵp yn dod â manteision i'r ardal leol drwy roi llwyfan i bobl ifanc ehangu eu diddordebau a chymryd rhan gyda'u cyfoedion. Mae'r ffactorau hyn yn cyd-fynd â gweledigaeth yr Heddlu sef creu cymunedau cryf a diogel.

Er mwyn dysgu mwy am Hamdden Harlech ac Ardudwy, ewch ar https://harlechardudwyleisure.org.uk/

Er mwyn dysgu mwy am PACT, ewch ar www.pactnorthwales.co.uk ac er mwyn dysgu mwy am waith Swyddfa'r Comisiynydd Heddlu a Throsedd, ewch ar www.northwales-pcc.gov.uk