Dyddiad
Mae pennaeth heddlu yn bwriadu cynyddu’r camau sy’n cael eu cymryd yn erbyn troseddau cyllyll ar ôl prynu sganwyr synhwyro metel i’w defnyddio gan staff wrth y drws tafarnau a chlybiau.
Gwnaeth Arfon Jones, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, y cyhoeddiad i gyd-fynd ag Operation Scepter, ymgyrch genedlaethol i leihau troseddau cyllyll rhwng Medi 16 a 22.
Fel rhan o'r ymgyrch, bydd biniau amnest yn cael eu gosod mewn gorsafoedd heddlu ar draws gogledd Cymru fel y gellir cael gwared â chyllyll yn ddiogel.
Bydd biniau tebyg yn cael eu gosod mewn nifer o ganolfannau ailgylchu ar gyfer pobl nad ydyn nhw'n teimlo'n gyffyrddus yn mynychu gorsaf heddlu.
Mae Mr Jones, sy’n gyn arolygydd heddlu, wedi prynu 10 o’r dyfeisiau ar gyfer staff drws ledled gogledd Cymru, gan ychwanegu at y 10 a gyhoeddwyd y llynedd.
Yn ogystal, mae’r comisiynydd hefyd wedi ariannu arddangosfa ryngweithiol gwerth £2,000 yn Pentre Peryglon, Talacre, sef unig ganolfan addysg diogelwch Cymru.
Ychwanegodd y Comisiynydd: “Er nad yw gogledd Cymru wedi gweld yr un raddfa o droseddau cyllyll ag ardaloedd eraill mae’n werth nodi ein bod wedi cael dau ddynladdiad yn gysylltiedig â throseddau cyfundrefnol yn ymwneud â chyllyll yn ystod y blynyddoedd diwethaf, yn y Rhyl ac ar Lannau Dyfrdwy.
Rydym yn sefydlu Comisiwn Ieuenctid ac unwaith y bydd wedi ei sefydlu bydd yn rhoi cyfle i bobl ifanc godi eu hofnau am eu diogelwch ac am eraill sy'n eu defnyddio.
Mae'r arddangosfa yma yn Pentre Peryglon wedi creu argraff fawr arnaf. Mae troseddau cyllyll ac ofn troseddau cyllyll yn achosi llawer iawn o niwed a gorau po fwyaf y gallwn ei wneud i godi ymwybyddiaeth.
Rwy’n falch iawn fy mod wedi gallu talu am yr ychwanegiad newydd hwn at y cyfleusterau rhagorol yn Pentre Peryglon ac os yw’n arbed un bywyd yn unig bydd yr arian wedi cael ei wario’n dda.
Rwy’n siŵr y bydd y plant wrth eu boddau ac mae’n wych ei fod yn cyrraedd 7,000 ohonyn nhw bob blwyddyn ond mae angen i ni wneud y lle hwn yn fwy hygyrch i bobl o bob rhan o ogledd Cymru a Swydd Gaer.
Dyma’r ail swp o 10 o offer canfod arfau a’r bwriad yw eu gosod mewn gwahanol leoliadau ar draws ardal gogledd Cymru.
Y syniad wedyn yw pan fydd aelod o’r cyhoedd yn dod i mewn i’r clwb neu'r dafarn dan sylw y bydd y sganiwr yn cael ei ddefnyddio fel amod mynediad. Maen nhw’n ataliad effeithiol.
Fel Comisiynydd Heddlu a Throsedd roeddwn i’n credu ei bod yn bwysig ariannu’r sganwyr synhwyro metel oherwydd ei fod yn rhoi tawelwch meddwl i’r cyhoedd.
Mae’n golygu y gallwch chi fynd i dafarn neu glwb i gael diod neu bryd bwyd yn dawel eich meddwl ei fod yn ddiogel. Hoffwn weld eu defnydd yn cael ei ehangu.
Yng ngogledd Cymru, bu cynnydd yng ngweithgaredd yr heddlu i fynd i’r afael â throseddau cyllyll. Bu cynnydd cyson mewn troseddau, ond bu cynnydd yng ngweithgaredd yr heddlu hefyd, cynnydd mewn stopio a chwilio, cynnydd mewn awdurdodiadau adran 60 sy’n golygu y gallant gynnal chwiliadau mewn ardal wedi eu hawdurdodi gan uwch swyddog o'r heddlu ar sail cred resymol bod trais wedi digwydd neu ar fin digwydd.”
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Tecwyn Green, sy’n cydlynu’r ymgyrch yn erbyn troseddau cyllyll yng ngogledd Cymru: “I gyd-fynd â’r ymgyrch genedlaethol, mae ein swyddogion cyswllt ysgolion wedi cael y dasg o fynd i ysgolion cynradd ac uwchradd ledled gogledd Cymru i wneud cyflwyniad ar droseddau cyllyll fel rhan o Raglen Ysgolion Cymru Gyfan.
Mae hon yn ymgyrch hynod bwysig ond byddwn yn pwysleisio, er gwaetha’r cynnydd mewn troseddau cyllyll yng ngogledd Cymru, ei bod yn dal i fod yn ardal ddiogel iawn i fyw a gweithio ynddi a bod newidiadau mewn dulliau cofnodi troseddau wedi cyfrannu at y cynnydd ystadegol.
Mae'n beth cadarnhaol bod proffil troseddau cyllell wedi codi oherwydd ei fod yn cael ei dargedu'n fwy trylwyr bellach.
Er bod y broblem yn gymharol llai yma yng ngogledd Cymru, y gwir amdani yw bod cyllyll yn beryglus ac yn gallu lladd.
Rydym yn ddiolchgar i’r Comisiynydd Heddlu a Throsedd am ei gefnogaeth i brynu’r dyfeisiau canfod metel a fydd yn sicr yn cyfrannu at wneud strydoedd gogledd Cymru hyd yn oed yn fwy diogel.”