Skip to main content

Pennaeth heddlu yn annog pobl i brynu'n lleol i hybu'r economi a chreu swyddi

Dyddiad

19082019 PCC Fire protection-4

Mae pennaeth heddlu yn annog cyrff cyhoeddus i brynu’n lleol er mwyn rhoi hwb i’r economi, creu swyddi a gwella bywydau cymunedau ledled gogledd Cymru.

Roedd comisiynydd heddlu a throsedd y rhanbarth, Arfon Jones, yn siarad ar ôl i Snowdonia Fire and Security, Gwynedd, sydd hefyd â swyddfeydd ym Mae Cinmel ac Aberystwyth, drechu cystadleuaeth ryngwladol i gipio cytundeb pum mlynedd gwerth £80,000 gyda Heddlu Gogledd Cymru.

Mae'r cwmni teuluol sy'n tyfu'n gyflym wedi cymryd drosodd y gwaith o gyflenwi, gosod a chynnal a chadw larymau tân mewn 120 o orsafoedd heddlu a gorsafoedd tân ledled y rhanbarth, gan ddisodli cwmni rhyngwladol Honeywell o’r Unol Daleithiau fel rhan o bolisi gwerth cymdeithasol arloesol y comisiynydd.

Dywedodd Mr Jones, y mae ei gyfrifoldebau’n cynnwys adeiladau ac ystadau’r heddlu: “Mae’n hanfodol bod sefydliadau mawr fel Heddlu Gogledd Cymru yn defnyddio eu pŵer prynu er budd y rhanbarth y maent yn gweithredu ynddi.

Mae tua 80 y cant o'n cyllideb yn mynd ar gyflogau a phensiwn felly rydyn ni'n gwario rhywbeth fel £30 miliwn ar nwyddau traul.

Fy nod yw defnyddio hyn lle bynnag y bo modd i wella lles cymunedau ledled gogledd Cymru trwy werth cymdeithasol.

Mae Snowdonia Fire and Security yn fusnes blaengar sy'n cyflogi staff ledled gogledd a chanolbarth Cymru, gan ddarparu hyfforddiant a chynllun prentisiaeth rhagorol ac mae ganddo hanes o ddarparu gwasanaeth o'r safon uchaf.

Wrth ddyfarnu’r cytundeb iddyn nhw, rwy’n sicrhau bod yr arian yn aros yn yr ardal ac o fudd i fusnesau a phobl leol.

Amcangyfrifir bod pob punt o gytundeb fel hwn yn cael ei wario dros dair gwaith yn y rhanbarth ac mae hynny’n ychwanegu hyd at chwarter miliwn o bunnoedd i economi gogledd Cymru.

Byddwn yn annog pob corff cyhoeddus arall, gan gynnwys awdurdodau lleol, i sicrhau eu bod yn caffael nwyddau a gwasanaethau gan gyflenwyr lleol pryd bynnag y bo modd.

Mae'n ymwneud ag adeiladu economi leol well a chryfach, gan greu twf economaidd, swyddi a chyfleoedd i bobl leol.”

Sefydlwyd Snowdonia Fire and Security yn 1974 gan David Greasley yn Waunfawr, ger Caernarfon. Mae’r cwmni'n dal wedi'i leoli yn Waunfawr ond mae hefyd wedi tyfu bellach i gyflogi 68 o bobl gan weithio ar draws y Gogledd a’r Canolbarth yn ogystal â Swydd Gaer a Swydd Amwythig.

Y rheolwr gyfarwyddwr yw mab David, Peter, ac mae ei wraig Janet yn gyd-gyfarwyddwr sydd hefyd yn gweithio i'r busnes ynghyd â'u tri mab, Dafydd, Marc a Sion.

Mae ganddyn nhw gynllun prentisiaeth ac maen nhw hefyd wedi cefnogi eu rheolwr swyddfa, Sally Evans, i ddysgu Cymraeg ac mae hi wedi ennill cymhwyster Lefel A yn yr iaith ac yn canu gyda dau gôr Cymraeg lleol.

Meddai Peter: “Rydym yn cynnal ystod eang o wasanaethau yn ymwneud â diogelwch tân a diogelwch ac rydym yn cyflogi staff ledled y Gogledd a’r Canolbarth.

Mae hynny'n golygu na fyddwn byth fwy nag 20 milltir i ffwrdd o orsaf heddlu a gallwn bob amser warantu ymateb cyflym.

Yn ddiweddar rydyn ni wedi bod yn gynyddol brysur dros y ffin hefyd, ac ers iddi ddod yn orfodol gosod systemau chwistrellu mewn cartrefi newydd yng Nghymru, rydyn ni wedi dod yn brysurach fyth.

Rydym wrth ein boddau bod y Comisiynydd mor gefnogol i fusnesau lleol ac yn ei dro rydyn ni'n gwneud ein gorau i gefnogi'r cymunedau lleol ry’n ni'n gweithio ynddynt.

Mae gennym dros 50 o gerbydau rydym yn eu prynu'n lleol, rydym yn noddi sawl tîm pêl-droed, yn cefnogi elusennau lleol ac yn ddiweddar fe wnaethon ni noddi'r gystadleuaeth pysgota plu ysgolion cyntaf ar gyfer Gwynedd ac Ynys Môn - ac roeddem yn falch dros ben i weld Ysgol Syr Hugh Owen, Caernarfon, yn dod i'r brig .

Ychwanegodd Arfon Jones, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, “Mae'n gwneud synnwyr go iawn i ddefnyddio caffael lleol lle bynnag a phryd bynnag y bo hynny'n bosibl, ac rwy'n falch bod pedwar Comisiynydd Heddlu a Throsedd Cymru yn gwneud hyn.

Mae o fudd i’r gymuned leol ac yn cryfhau ein cysylltiadau â’r cymunedau hynny ac mae hynny’n un o gongl feini plismona.”