Skip to main content

Pennaeth heddlu yn beirniadu defnyddio technoleg adnabod wynebau mewn gemau pêl-droed

Dyddiad

Pennaeth heddlu yn beirniadu defnyddio technoleg adnabod wynebau mewn gemau pêl-droed

Mae pennaeth heddlu wedi beirniadu’n hallt y defnydd o dechnoleg adnabod wynebau mewn gemau pêl-droed.

Beirniadodd Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru Arfon Jones y defnydd o’r dechnoleg ddadleuol yn sgil y gêm bêl-droed ddiweddar rhwng Dinas Caerdydd a Dinas Abertawe.

Mi wnaeth y defnydd o’r dechnoleg wylltio cefnogwyr, gyda rhai hyd yn oed yn gwisgo masgiau Calan Gaeaf mewn protest wrth fynd i’r gêm.

Yn ôl Heddlu De Cymru, roedd yn rhan o “gynllun plismona cadarn” ar gyfer y gêm yn Stadiwm Liberty yn Abertawe.

Siaradodd Mr Jones ar ôl i’r Comisiynydd Gwybodaeth Elizabeth Denham hefyd godi “pryderon difrifol” ynglŷn â’r ffordd yr oedd heddluoedd ledled y wlad yn defnyddio technoleg adnabod wynebau.

Meddai Elizabeth Denham: “Mae symud yn rhy gyflym i ddefnyddio technolegau a all fod yn rhy ymwthiol ym mywydau beunyddiol cyfreithlon pobl niweidio ymddiriedaeth nid yn unig mewn technoleg, ond yn y model sylfaenol o blismona trwy gydsyniad.”

Roedd yn deimlad a ategwyd gan Mr Jones a ddywedodd: “I fod yn onest rwy’n teimlo’n flin dros gefnogwyr Caerdydd ac Abertawe. Nid yw’n gymesur defnyddio’r dechnoleg yma i dynnu lluniau o gefnogwyr mewn gemau pêl-droed.

I’w roi yn ei gyd-destun, roedd tua 20,000 o bobl yn y gêm rhwng Abertawe a Chaerdydd ac roedden nhw’n poeni am ymddygiad tua hanner dwsin sydd wedi eu gwahardd rhag mynychu gemau pêl-droed.

Rydyn ni eisoes yn gwybod pwy yw’r unigolion sy’n creu trafferth ac maen nhw wedi cael eu gwahardd. Mae gennym staff arbenigol, a’r cyfan y maen nhw’n ei wneud yw delio efo gemau pêl-droed, ac maen nhw’n gwybod yn union am bwy i edrych.

Rwy’n credu ei bod yn fwy cymesur delio â’r bobl hyn yn unigol yn lle defnyddio dull ‘Big Brother’ gyda 99 y cant o’r boblogaeth; gan gynnwys tynnu lluniau o blant.

Rwy’n deall yn union pam fod cefnogwyr Caerdydd wedi gwisgo masgiau Calan Gaeaf i fynd i’r gêm.

 Mae hyn yn rhan o duedd ehangach lle mae ein hawl i breifatrwydd yn cael ei dorri bob dydd gan gwmnïau technoleg. Mae angen rheoleiddio llawer tynnach ar y math hwn o beth.

Rôl y Comisiynwyr Heddlu a Throsedd yw cynrychioli’r cyhoedd wrth iddynt ddelio â’r heddlu.

Mewn gorymdaith ddiweddar dros annibyniaeth yng Nghaernarfon, cefais lawer o sylwadau gan bobl ledled gogledd Cymru oherwydd bod yr heddlu’n eu ffilmio.

Rhoddais sicrwydd i bobl nad oedd yr heddlu’n mynd i ddefnyddio’r lluniau hynny i adnabod wynebau ac mae cam diogelwch ydoedd rhag ofn i rywbeth fynd o’i le, a bod y lluniau wedi cael eu dileu yn fuan ar ôl y digwyddiad.

Tynnodd Mr Jones sylw hefyd at y ffaith nad yw technoleg adnabod wynebau 100 y cant yn gywir a’i bod yn creu’r potensial ar gyfer camweinyddu cyfiawnder.

Ychwanegodd: “Rwy’n bryderus hefyd oherwydd bod gan y dechnoleg hanes o adnabod aelodau’r cyhoedd ar gam, gyda chanran arbennig o uchel o bobl ddu yn cael eu hadnabod ar gam gan yr hyn sy’n cael ei alw’n ganlyniad positif anghywir.

Y tro cyntaf i Heddlu De Cymru ddefnyddio’r dechnoleg hon oedd yn rownd derfynol Cynghrair y Pencampwyr yng Nghaerdydd, a chredaf fod ganddyn nhw oddeutu 2,300 achos o ganlyniad positif anghywir gyda’r system honno.

 Pe bai’r system yn 100 y cant yn gywir ac yn cael ei defnyddio’n gymesur gallai hynny fod yn fater gwahanol. Ond nid yw hynny’n digwydd, ac mae perygl i bobl gael eu adnabod fel rhywun arall ar gam ac yna gorfod dioddef canlyniadau hynny.

Rwy’n credu bod defnyddio technoleg adnabod wynebau mewn gemau pêl-droed yn gam rhy bell. Rwyf bob amser wedi bod ar ochr hawliau dynol pobl a’u preifatrwydd. Rhaid i ni gofio hefyd mai ein gwaith fel comisiynwyr yw cynrychioli barn y bobl i’r heddlu yn ein hetholaethau.

Dydyn ni ddim yn rhan o’r heddlu. Rydyn ni yno i gynrychioli’r boblogaeth, ac rwy’n siŵr bod yna bobl o ogledd Cymru a aeth i lawr i’r gêm honno ac sydd wedi cael lluniau wedi eu tynnu heb eu caniatâd, ac mae gen i gyfrifoldeb i’w cynrychioli nhw.

Mae’n bwysig ein bod yn cymryd sylw o rybuddion y Comisiynydd Gwybodaeth a bod yn rhaid i bob defnydd o dechnoleg adnabod wynebau fod yn hollol angenrheidiol at ddibenion gweithredu’r gyfraith a bod â sail gyfreithiol benodol o dan ddeddfau diogelu data.

Nid yw’r gyfraith fel y mae yn ddigonol i reoli’r risgiau cyfreithiol a moesegol sy’n cael eu creu gan y dechnoleg hon.”

Dywedodd Vince Alm, llefarydd ar ran Cymdeithas Cefnogwyr Pêl-droed Cymru: “Rydyn ni’n gwrthwynebu’n gryf benderfyniad yr heddlu i ddefnyddio technoleg adnabod wynebau.

Dim ond gêm bêl-droed leol oedd hon, ond er hynny nid ydym wedi cael mynegi barn a fedrwn ni ddim optio allan.”

Yn y cyfamser, dywedodd y grŵp ymgyrchu Big Brother Watch fod “gwyliadwriaeth dorfol ymwthiol yn trin pob cefnogwr fel un sydd dan amheuaeth, yn niweidio ymddiriedaeth ac yn wastraff llwyr o arian cyhoeddus”.

Mae’r grŵp yn honni mai hwn oedd y tro cyntaf i’r dechnoleg gael ei defnyddio mewn gêm bêl-droed ers i fwy na 2,000 o bobl gael eu hadnabod ar gam yn rownd derfynol Cynghrair Pencampwyr Uefa yng Nghaerdydd yn 2017.