Skip to main content

Pennaeth heddlu yn cryfhau tîm atal troseddau gwledig

Dyddiad

Rural Crime Team

Datgelwyd heddiw bod tasglu o ymladdwyr troseddau gwledig yn cael ei gryfhau.

Bydd tri heddwas ychwanegol yn ymuno â Thîm Troseddau Gwledig Gogledd Cymru o bedwar heddwas a thri Swyddog Cymorth Cymunedol yr Heddlu dan arweiniad rheolwr y tîm, Rob Taylor, gan gynyddu niferoedd y tasglu arbennig i 11 swyddog.

Gwnaed y cyhoeddiad gan Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru Arfon Jones yn Sioe Sir Feirionnydd yn Harlech.

Cafodd y symudiad ei groesawu’n frwd gan lywydd Undeb Amaethwyr  Cymru Glyn Roberts, a ddywedodd ei fod yn “newyddion rhagorol”.

Mae'r tîm hefyd yn defnyddio dulliau uwch-dechnoleg i frwydro yn erbyn troseddau gwledig, gan gynnwys dronau a rhoi cynlluniau ar waith i gyflwyno camerâu Adnabod Rhifau Cerbydau yn Awtomatig (ANPR) ar y ffordd rhwng Dolgellau a Bermo.

Dywed arbenigwyr bod y tasglu arloesol wedi gosod meincnod ar gyfer plismona cefn gwlad yn y Deyrnas Unedig.

Y llynedd sefydlwyd partneriaeth â'u cymheiriaid yn Heddlu Dyfed-Powys a sefydlodd dîm wedi'i fodelu ar y cynllun oedd ar waith yng ngogledd Cymru.

Gellir mesur eu heffeithiolrwydd hefyd gan y ffaith, er bod troseddau gwledig ar gynnydd yn Lloegr lle cafwyd cynnydd o 20 y cant, bod Cymru yn mynd yn groes i'r duedd honno gyda gostyngiad o saith y cant.

Mae'r tîm yn parhau i weithio'n galed serch hynny gyda 73 o ymchwiliad cyfredol ar droed a chyfres o achosion llys yn yr arfaeth.

Dywedodd Arfon Jones, sy’n gyn arolygydd heddlu a gafodd ei fagu ar fferm yn ardal Harlech: “Mae Gogledd Cymru yn ardal wledig enfawr ac mae angen i ni ddarparu gwasanaeth teg i holl drigolion y rhanbarth.

Er ein bod yn llwyddiannus iawn wrth dargedu’r troseddwyr sy’n cyflawni ystod o droseddau o rwydo moch daear i ddwyn tractorau, beiciau cwad a da byw, rydym yn teimlo bod angen mwy o gapasiti arnom.

Mae hwn yn faes lle mae Gogledd Cymru yn arwain y ffordd ac mae’r tîm dan arweiniad Rob Taylor yn gwneud gwaith gwych ac yn cael ei gydnabod am y ffordd y maen nhw’n delio efo troseddau gwledig a materion bywyd gwyllt ond mae’n hanfodol i ni barhau i’w cefnogi.

Maen nhw hefyd wedi bod yn rhan annatod o ffurfio timau tebyg yn ardal Dyfed-Powys, lle rydym yn gweithio'n agos gyda nhw, ac yng Ngwent hefyd.

Bydd y staff ychwanegol yng Ngogledd Cymru yn golygu y bydd y partneriaethau hyn a’r lluoedd cyfagos hynny yn Lloegr yn cael eu cryfhau.

Mae’n briodol i mi wneud y cyhoeddiad yn Harlech oherwydd bod yr ardal wedi dod yn fan problemus a bydd gan un o’r swyddogion newydd gyfrifoldeb penodol am blismona ardal Meirionnydd a’r ffin â Dyfed-Powys.

 Bydd y camerâu adnabod rhifau ceir sy’n cael eu gosod rhwng Dolgellau a Bermo yn gallu darllen rhif cofrestru cerbyd a’i wirio ar unwaith yn erbyn cofnodion cronfa ddata o gerbydau o ddiddordeb. Gall swyddogion heddlu wedyn stopio cerbyd, ei wirio am dystiolaeth a, lle bo angen, arestio pobl.

Mae'n bwysig ein bod ni nid yn unig yn ymatebol ond hefyd yn rhagweithiol fel y gallwn atal troseddau gwledig rhag digwydd yn y lle cyntaf.

Mae ein hardaloedd gwledig yn ddaearyddol fawr iawn felly mae angen technoleg arnom i'n helpu yn ein brwydr yn erbyn troseddau cefn gwlad ac i ddal troseddwyr."

Mae Rob Taylor, a fu’n heddwas am 30 mlynedd, hefyd yn rheoli tîm Dyfed-Powys ac meddai: “Pan ddechreuon ni yn 2014, roeddem yn un o’r timau troseddau gwledig arbenigol cyntaf ond erbyn hyn mae mwy nag 20 tîm tebyg.

Mae’r cynnydd hwn ym maint y tîm yn bwysig iawn i ni oherwydd ein bod yn wynebu galwadau cynyddol ac wedi bod yn rhan o dri achos llys yn ystod y deg diwrnod diwethaf, gyda phob erlyniad yn llwyddiannus.

Mae ymladd troseddau gwledig yn gyfuniad o ddulliau plismona hen ffasiwn yn gymysg â thechnoleg fodern. Mae'n ymwneud â dod i adnabod y cymunedau rydych chi'n gweithredu ynddynt a chael sgyrsiau dwyffordd efo pobl.

 Ar yr un pryd, rydym yn defnyddio technegau soffistigedig fel proffilio DNA a phlismona sy’n defnyddio’r wybodaeth ddiweddaraf i dargedu'r mannau problemus ar gyfer troseddau gwledig.

Mae ganddyn nhw gerbydau gyriant pedair olwyn a all fynd i unrhyw le a dash-cams i recordio popeth ar fideo ac rydym hefyd yn  arfogi ein swyddogion efo gliniaduron fel nad oes raid iddyn nhw fynd yn ôl i orsaf yr heddlu i ysgrifennu adroddiadau a chael mynediad ar unwaith at wybodaeth.”

Mae’r tîm hefyd yn gweithio’n agos gyda sefydliadau fel Undeb Amaethwyr Cymru, Undeb Cenedlaethol y Ffermwyr, Cymdeithas Saethu a Chadwraeth Prydain a Chymdeithas y Tirfeddianwyr.

Wrth ymateb i’r cyhoeddiad, dywedodd Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru, Glyn Roberts: “Bob blwyddyn mae troseddau gwledig yn costio miliynau o bunnoedd ac yn achosi pryder ofnadwy i ffermwyr a busnesau gwledig. Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi bod yn arwain y ffordd wrth sicrhau bod troseddu yng nghefn gwlad yn llai deniadol i ddrwgweithredwyr.

Mae’r ffaith y bydd y tîm troseddau gwledig bellach yn dyblu mewn maint, oherwydd cynnydd mewn cyllid, yn newyddion rhagorol.

Dylai heddluoedd eraill ledled Cymru nodi eu dull o fynd ati i gefnogi’r gymuned wledig ac mae'n rhaid i ni ganmol ymdrechion a phenderfyniad y Comisiynydd Heddlu a Throsedd i wneud Gogledd Cymru yn lle mwy diogel i ni i gyd.”

Mae dwyn tractorau, peiriannau a beiciau cwad ar gynnydd gyda llawer o'r lladron yn dod o dros y ffin gyda Wrecsam a Sir Ddinbych yn fannau problemus o ran troseddu.

Meddai Rob Taylor: “Mae angen i wneuthurwyr uwchraddio eu systemau diogelwch ar dractorau a cherbydau eraill oherwydd gall troseddwyr brynu teclyn atal tracio am £10 a chludo cerbydau wedi'u dwyn allan mewn cynwysyddion arbennig ac mewn cwpl o ddiwrnodau gall yr eiddo sydd wedi ei ddwyn fod yng Ngogledd Affrica neu Ddwyrain Ewrop.”

Ychwanegodd Arfon Jones: “Mae'r A55 yn ei gwneud hi'n hawdd i droseddwyr fynd i mewn ac allan ond mae yna ffyrdd eraill i mewn i fannau troseddu problemus eraill yn ardaloedd Wrecsam a Sir Ddinbych sy'n eu gwneud yn lwybrau tarw go iawn i'r troseddwyr.

Dyma lle mae camerâu adnabod rhifau cerbydau yn chwarae rhan bwysig ac rydym yn gobeithio cynyddu eu presenoldeb ar y llwybrau hyn.”