Skip to main content

Pennaeth heddlu yn cyfnewid dal troseddwyr am ddal pysgod

Dyddiad

17082019 PCC Fishing-1

Wrth ymweld â chlwb pysgota mi wnaeth pennaeth heddlu gyfnewid dal troseddwyr am ddal pysgod.

Pan aeth draw i Glwb Pysgota Cei Connah ym mhwll Rosie ym Mharc Wepre llwyddodd Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, Arfon Jones, i fachu pysgodyn rhufell dau bwys.

Ond yn wahanol i'r troseddwyr a ddaliodd yn ystod ei yrfa 30 mlynedd fel heddwas, cafodd y pysgodyn ddihangfa – wrth i'r cyn-arolygydd ei daflu yn ôl i’r dŵr.

Roedd Mr Jones wedi galw heibio i weld sut y mae'r grant a roddodd i'r clwb yn cael ei wario wrth iddyn nhw adeiladu pegiau neu lwyfannau pysgota newydd a thrwsio  hen begiau pysgota yn y pwll prydferth.

Dyfarnwyd £2,500 i'r clwb a oedd yn cynnwys arian a atafaelwyd gan droseddwyr a diben ymweliad Mr Jones oedd galw heibio i weld sut mae'r arian yn cael ei wario.

Dyfarnwyd y grant fel rhan o gynllun Eich Cymuned Eich Dewis sydd wedi'i anelu at sefydliadau sy'n addo rhedeg prosiectau fydd yn mynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol a brwydro yn erbyn trosedd ac anhrefn yn unol â blaenoriaethau Cynllun Heddlu a Throsedd y Comisiynydd Heddlu.

Cefnogir y cynllun hefyd gan Heddlu Gogledd Cymru ac Ymddiriedolaeth Heddlu a Chymuned Gogledd Cymru.

Yn ôl y clwb, bydd y cyfleusterau wedi’u huwchraddio yn rhoi cyfle iddyn nhw ddenu mwy fyth o bobl ifanc i gymryd rhan yn y gamp.

Dywedodd Mr Jones: “Os yw’r rhodd hon yn helpu Clwb Pysgota Cei Connah a’r Ardal i drawsnewid un bywyd ifanc yna bydd wedi bod yn fwy na gwerth chweil.

Mae'r clwb wedi gwneud argraff dda arnaf ac mae'r brwdfrydedd yn wych i'w weld. Mae'r budd i'r gymuned o'r hyn y mae'r clwb yn ei wneud yn amlwg ac mae gweld cymaint o bobl ifanc yma yn pysgota ac yn mwynhau'r awyr iach yn ardderchog.

Bydd yr arian rydyn ni wedi gallu ei roi iddyn nhw yn cael ei ddefnyddio’n dda. Gallaf weld bod angen uwchraddio'r pegiau neu'r llwyfannau pysgota presennol ac mae'r ffaith eu bod yn ychwanegu mwy o begiau yn newyddion da hefyd, fydd yn golygu y gall hyd yn oed mwy o bobl ifanc a theuluoedd elwa o gyfleusterau pysgota safonol.

Mae hyn yn ymwneud â chael pobl ifanc oddi ar y strydoedd a rhoi diddordeb iddyn nhw, rhywbeth y gallan nhw deimlo'n gyffrous amdano. Mae’n galondid gweld teuluoedd yma gyda chenedlaethau gwahanol yn manteisio ar y rhaglen Pysgota’n Gynnar, Pysgota am Oes.”

Ychwanegodd: “Rwyf hyd yn oed wedi rhoi cynnig arni fy hun ac rwy'n falch o ddweud nad ydw i wedi colli'r ddawn. Mae'n flynyddoedd lawer ers i mi bysgota ond llwyddais i fachu rhufell dau bwys mewn llai na munud! Rwyf hyd yn oed wedi cael tystysgrif yr wyf yn falch iawn ohoni!”

Dywedodd Alan White, Is-gadeirydd Clwb Pysgota Cei Connah a’r Ardal: “Bydd y grant o £2,500 yn cael ei ychwanegu at grant a gawsom gan Chwaraeon Cymru a rhywfaint o arian gronfa’r clwb fel y gallwn ymgymryd â’r gwaith adeiladu pwysig hwn.

“Mae'n golygu y gallwn wneud yr holl waith ar yr un pryd felly bydd llai o aflonyddu a straen ar ein stoc pysgod, a llai o aflonyddu i aelodau'r clwb a'r cyhoedd sy'n mwynhau cerdded o amgylch pwll Rosie.

“Bob blwyddyn rydyn ni'n rhwydo'r pwll ac yn tynnu pysgod llai sy'n cael eu rhoi i bwll Bwcle. Mae hynny'n gwella'r lefelau ocsigen ar gyfer pysgod mwy ac yn golygu y gall y pysgod mwy hynny dyfu gyda llai o gystadleuaeth.

“Mae gennym sawl rhywogaeth o bysgod carp yn y pwll, rhufell, rhudd, merfog, sgreten, gwyniaid a llyswennod ac ar wyneb y dŵr yn aml iawn mi welwn ni adar fel glas y dorlan ac mae gennym sawl rhywogaeth o hwyaid sy'n byw ar y pwll ac o'i gwmpas.”

Mae’r clwb, sydd â mwy na 245 o aelodau, yn cymryd rhan yn rhaglen, ‘Pysgota’n Gynnar, Pysgota am Oes’, sydd wedi ei anelu at gael mwy o bobl ifanc i gymryd rhan yn y gamp.

Ychwanegodd: “Mae'n rhaglen ragorol sy'n hynod boblogaidd. Mae'r clwb yn darparu'r holl offer, abwydod a hyfforddiant i bobl ifanc rhwng tair a 15 oed fel eu bod yn dysgu pysgota'n gyfrifol yn ogystal â dysgu sut i ofalu am yr amgylchedd.

Mae’n profi’n boblogaidd iawn ac mae’n ddiddorol hefyd ein bod ni’n gweld mwy o ferched ifanc yn rhoi cynnig ar y cynllun. Erbyn hyn mae 30% o aelodau’r clwb yn ferched.  

Bydd y pegiau neu'r llwyfannau pysgota newydd rydym yn mynd i'w hychwanegu yn golygu llawer iawn, ac yn rhoi cyfle i ni gael hyd yn oed mwy o bobl ifanc i gymryd rhan yn y gamp.”

Yn ymuno â'r Comisiynydd Heddlu a Throsedd ar ei ymweliad yr oedd Sacha Hatchett, Prif Gwnstabl Cynorthwyol Heddlu Gogledd Cymru

Dywedodd Sacha Hatchett: “Mae'n braf iawn gweld gwahanol genedlaethau yma'n mwynhau'r amgylchedd mewn lle mor hyfryd. Mae'n gyfleuster anhygoel y gall y gymuned gyfan ei fwynhau hyd yn oed os nad ydyn nhw'n bysgotwyr.

Mae'r clwb wrthi'n annog pobl o bob gallu i roi cynnig ar bysgota ac rwy'n falch iawn o glywed bod eu cynlluniau ar gyfer y dyfodol yn cynnwys llwybr gwell o amgylch y pwll a fydd hyd yn golygu bod y lle hyd yn oed yn fwy cyfeillgar i'r anabl.”

Ychwanegodd: “Rydw i mor falch bod yr arian grant hwn yn cael ei ddefnyddio mor dda. Mae’n wych gweld cymaint o blant yma. Mae’n siŵr bod hyn yn well iddyn nhw na chwarae gemau cyfrifiadur.

Bydd yr arian hwn o fenter Eich Cymuned Eich Dewis a gefnogir gan Ymddiriedolaeth Heddlu a Chymuned Gogledd Cymru (PACT) yn helpu’r clwb i symud ymlaen a chynnig hyd yn oed mwy o gyfleusterau i deuluoedd a phobl ifanc.

Bydd unrhyw beth sy’n rhoi ffocws i bobl ifanc a rhywbeth sydd o ddiddordeb iddynt yn helpu i leihau ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Dywed cynghorydd Llafur De Cei Connah, Ian Dunbar, fod y clwb pysgota o fudd gwirioneddol i’r gymuned gyfan.

Meddai: “Mae pwll Rosie yn gyfleuster cymunedol gwych. Mae aelodau Clwb Pysgota Cei Connah a’r Ardal wedi gweithio’n galed i gynnal a chadw’r pwll sy’n cael ei rentu oddi wrth Gyngor Sir y Fflint.

Mae coed a llystyfiant wedi cael eu torri’n ôl gan ganiatáu i’r pwll gael mwy o ocsigen. Yn ogystal â hynny, mae silt wedi'i dynnu sydd o fudd i bysgod a bywyd gwyllt yn gyffredinol.

Bydd y pegiau neu'r llwyfannau pysgota newydd, a fydd yn cael eu hychwanegu diolch i'r grant hwn, o fudd enfawr i'r clwb a'i aelodau.

Mae gan y clwb aelodaeth gref ac mae'n hyfryd gweld cymaint o bobl ifanc yn cymryd rhan yn y gamp.”

Mi wnaeth Amanda Bennett o Gei Connah, arweinydd tîm cymorth gwerthiant cwmni ffonau symudol, â’i mab Jack Breckon, chwech oed, sy’n ddisgybl yn Ysgol Caer Nant Cei Connah, a’i thad Mike Bennett, ddod draw i roi cynnig ar raglen Pysgota’n Gynnar, Pysgota am Oes y clwb.

Meddai: “Mae'n rhaglen chwe wythnos ac fe wnaethon ni gofrestru ar ei chyfer i roi diddordeb newydd i Jack. Mae'n sicr yn well na'i weld yn eistedd yn chwarae ar gyfrifiadur ac mae mor hamddenol.

Mae hefyd yn lleoliad mor brydferth. Mae'n anhygoel clywed bod arian sydd wedi ei gymryd gan droseddwyr yn dod yn ôl i'r gymuned ac o fudd i bawb. Ni all hynny ond helpu'r gymuned.”

Dywedodd Thelma Fluitt, chwech oed, o Gei Connah, sy’n ddisgybl yn Ysgol Wepre: “Daeth mam yma efo fi ac rwy’n mwynhau pysgota yn fawr. Rwyf wedi dal saith pysgodyn yn barod. Rwy'n credu ei fod yn grêt!”