Skip to main content

Poeni am gynnydd mewn blacmel rhywiol ymysg yr arddegau

Dyddiad

Pennaeth canolfan dioddefwyr yn annogpobl i beidio â chael eu camarwain gan dwyllwyr creulon fel ei thaid 87 oed

Mae canolfan sy'n helpu dioddefwyr troseddau wedi nodi cynnydd pryderus yn nifer yr achosion o flacmel rhywiol sy'n cynnwys pobl ifanc yn eu harddegau.

Dywed Sioned Jacobsen, rheolwr gweithrediadau Canolfan Cymorth i Ddioddefwyr Gogledd Cymru, fod pobl ifanc yn cael eu targedu gan droseddwyr ar-lein.

Datgelodd ei phryderon wrth Arfon Jones, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, sy'n ariannu'r ganolfan.

Clywodd Mr Jones, sy’n gyn-arolygydd heddlu, fod galw am wasanaethau'r ganolfan wedi cynyddu bob blwyddyn ers ei sefydlu yn 2015 a'r llynedd cysylltwyd â 34,500 o bobl oedd wedi dioddef pob math o droseddau.

Mae'r rhan fwyaf o bobl yn cael eu cyfeirio at y Ganolfan gan yr heddlu ac asiantaethau eraill ond mae dioddefwyr hefyd yn cael eu hannog i ffonio'r ganolfan eu hunain os oes angen cymorth ac arweiniad arbenigol arnynt.

Mae'r siop-un-stop ar gyfer dioddefwyr yn cwmpasu Gogledd Cymru gyfan ac mae wedi ei lleoli ym mhencadlys rhanbarthol yr heddlu yn Llanelwy.

Mae pob dioddefwr yn derbyn ymateb wedi'i deilwra'n benodol i'w sefyllfa nhw ac mae'r ganolfan yn cyflogi arbenigwyr mewn caethwasiaeth fodern, iechyd meddwl a throseddau casineb.

Dywedodd Ms Jacobsen: “Rydym wedi gweld cynnydd mewn blacmel rhywiol yn ddiweddar lle bydd pobl yn rhannu delweddau personol ar-lein ac yna bydd y troseddwyr wedyn yn gofyn am bres ganddyn nhw neu gan fygwth rhannu'r delweddau hynny os na chant eu talu.

Rydym wedi gweld llawer o'r achosion hyn yn ddiweddar, yn enwedig pobl ifanc, 14, 15, 16 oed.

Mae rhai o'r achosion yn eithaf ofnadwy. Mae'n ymwneud â'r blacmelwyr yn manteisio ar bobl ifanc sy’n agored i niwed.

Mae'r bobl ifanc dan sylw yn rhannu delweddau noeth o’u hunain heb feddwl am y canlyniadau posibl.

Er enghraifft, os yw'n ferch yn ei harddegau, efallai ei bod yn rhannu lluniau ohoni ei hun heb dop a’i bod yn credu mai at fachgen o'i hoed ei hun y mae’n anfon y lluniau.

Yna maen nhw'n darganfod eu bod wedi cael eu twyllo gan flacmeliwr sy'n gofyn am arian, efallai £500 neu £1000, neu fel arall yn bygwth rhannu'r lluniau ar y cyfryngau cymdeithasol.

Mae'n drawmatig i'r dioddefwyr sy'n cael eu gadael i deimlo'n gwbl erchyll.

Rwy'n credu bod y cynnydd yn nifer yr achosion sy'n dod drwodd i’w briodoli i'r ffaith bod cymaint o bobl ifanc ar y cyfryngau cymdeithasol y dyddiau hyn.

Dyma'r byd rydym yn byw ynddo ond yn anffodus, rwy'n credu nad yw pobl ifanc yn ymwybodol o'r peryglon.

Un peth a ddysgais yn ddiweddar oedd bod unrhyw lun rydych yn ei roi ar-lein ac ar unrhyw gyfryngau cymdeithasol, waeth pa mor breifat yw eich cyfrifon, yn gyhoeddus os rhowch hashnod ar ei ôl.

“Mae honno'n neges bwysig i’w chael allan. Mae'n frawychus ac nid yw pobl ifanc hyd yn oed yn ymwybodol o hynny felly dydyn nhw ddim yn gwybod beth yw'r canlyniadau.

 Mae'n hanfodol bwysig cael y neges allan bod angen i bobl ifanc fod yn ofalus iawn.

Mae angen i'r ysgolion godi ymwybyddiaeth o beryglon cyfryngau cymdeithasol a beth yw'r goblygiadau o rannu delweddau gyda phobl.

Gyda Snapchat er enghraifft ar ôl i chi ei anfon mae pobl yn dweud ei fod wedi mynd ar ôl 10 eiliad ond nid yw hyn yn hollol wir oherwydd gall pobl dynnu llun o'r sgrin a gall fod yno am byth wedyn. Mae'n frawychus.”

Dywedodd y Comisiynydd Jones: “Mae cadw pobl ifanc yn ddiogel yn flaenoriaeth allweddol yn fy Nghynllun Heddlu a Throsedd.

Mae'r Ganolfan Cymorth i Ddioddefwyr yn darparu gwasanaeth cwbl hanfodol, gan roi cefnogaeth sydd ei dirfawr angen i'r rhai sydd, yn anffodus, wedi dioddef ystod eang o droseddau.

Mae blacmel rhywiol yn gwbl warthus ac mae'n hynod bwysig ein bod yn cyfleu'r neges am beryglon y byd ar-lein fel y gall pobl ifanc ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol yn ddiogel ac yn gyfrifol.

Mae'n bwysig ein bod yn addysgu pobl ifanc am beryglon yr arfer peryglus hwn a'n bod yn rhoi cefnogaeth i'w rhieni pryderus i ddelio â'r sefyllfa

Mae datblygiadau technolegol wedi dod â manteision mawr i gymdeitha