Dyddiad
Aeth Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru i weld Pentre Peryglon yn Nhalacre er mwyn gweld y gwaith hanfodol mae'r sefydliad yn ei wneud er mwyn helpu pobl ifanc Gogledd Cymru a gweld faint o arian a gymerwyd oddi ar droseddwyr sy'n cael ei ddefnyddio er budd pobl y rhanbarth.
Mae Pentre Peryglon yn elusen annibynnol ar arfordir Gogledd Cymru. Roedd yn un o enillwyr diweddar gwobrau ariannu Eich Cymuned, Eich Dewis. Mae cronfa Eich Cymuned, Eich Dewis yn helpu prosiectau llawr gwlad ac mae'n derbyn help gan Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, Ymddiriedolaeth yr Heddlu a'r Gymuned Gogledd Cymru (PACT) a Heddlu Gogledd Cymru. Mae'r arian ar gyfer Eich Cymuned, Eich Dewis yn dod yn rhannol oddi wrth arian sydd wedi ei atafaelu drwy'r llysoedd drwy Ddeddf Enillion Troseddau gyda'r gweddill o Gronfa'r Comisiynydd Heddlu a Throsedd.
Mae'r lleoliad yn Nhalacre yn cynnwys canolfan ymwelwyr rhyngweithiol arobryn sydd ar agor yn ystod y tymor ysgol ar gyfer ysgolion a grwpiau trefnedig, ac i deuluoedd yn ehangach yn ystod gwyliau ysgol lleol. Mae'r lleoliad yn rhoi'r cyfle i ymwelwyr ddysgu am ddiogelwch ac mae'n llawn hwyl a gweithgareddau rhyngweithiol i bawb. Wedi'i ddylunio fel set ffilm, mae ymwelwyr yn mynd o'r cartref i'r traeth, cefn gwlad, y maes chwarae, y fferm a lleoliadau eraill. Mae Pentre Peryglon yn rhoi amgylchfyd saff lle mae ymwelwyr yn dysgu am risgiau a sut i gadw'n saff wrth, yn bwysicaf oll, gael hwyl. Yn ystod ei amser yn y Pentre Peryglon, gwnaeth y Comisiynydd gyfarfod â Julie Ann Tyler, Rheolwr y Ganolfan; nifer o Geidwaid, sy'n addysgu'r bobl ifanc; ynghyd â disgyblion o Ysgol Hirael ym Mangor, a oedd yn ymweld am y diwrnod.
Mae'r arian o Eich Cymuned, Eich Dewis yn helpu'r Pentre Peryglon ddarparu sesiynau noddedig a chostau teithio i ysgolion ledled Gogledd Cymru. Fel y cyfryw, mae'r prosiect o fudd i blant 5 i 11 oed ynghyd ag oedolion bregus o chwe sir Gogledd Cymru. Mae'r sesiynau'n defnyddio senarios rhyngweithiol Pentre Peryglon er mwyn cyflawni ymweliadau sgiliau bywyd i 450 o blant a phobl ifanc. Mae'r prosiect yn defnyddio'r setiau ffilm gafaelgar er mwyn ymgysylltu hefo pobl ifanc yn y sgwrs o ran diogelwch cymunedol er mwyn eu helpu a'u gwarchod nhw.
Dywedodd Julie Ann Tyler, Rheolwr y Ganolfan, Pentre Peryglon: "Roedd yn bleser croesawu'r Comisiynydd i'n canolfan a dangos ein gwaith iddo fo. Bydd yr arian yn galluogi'r ganolfan wella'r gwasanaethau 'da ni'n eu darparu. Byddwn yn amlygu atal troseddau a chanolbwyntio'n benodol ar ddatblygu'r problemau o fewn cymunedau cefn gwlad. Bydd y cronfeydd hefyd yn rhoi profiad gafaelgar i blant ledled Gogledd Cymru a chostau teithio noddedig a fydd yn eu helpu nhw ddatblygu sgiliau bywyd pwysig. Mae'r prosiect hwn yn helpu codi ymwybyddiaeth am beryglon, atal trosedd a sut mae Heddlu Gogledd Cymru'n gweithio mewn partneriaeth hefo ni er mwyn lleihau canlyniadau trosedd."
Dywedodd Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru: "Fe wnes i fwynhau ymweld â'r Pentre Peryglon a gweld y profiadau rhyngweithiol gwych maen nhw'n ei ddarparu. Roedd hefyd yn dda clywed sut mae eu prosiect diweddaraf, hefo help Eich Cymuned, Eich Dewis yn galluogi pobl ifanc ledled Gogledd Cymru brofi'r neges diogelwch ac atal trosedd sy'n ganolog i waith y Pentre Peryglon. Mae pobl ifanc yn rhan hanfodol o'n cymuned ni yng Ngogledd Cymru. Dwi'n falch y bydd pobl ifanc o bob cefndir ac ardal yn cael y cyfle i gymryd rhan, ac elwa o'r prosiect hwn."
Dywedodd Ashley Rogers, cadeirydd PACT: "Mae prosiectau nhw fel y Pentre Peryglon yr enaid ar gyfer gwella cymunedau ledled Gogledd Cymru, gan eu gwneud yn llefydd saffach a chadarnach i fyw, yn enwedig i'n pobl ifanc ni. Mae'r Pentre Peryglon yn enghraifft wych o hyn ar waith. Mae'n bleser gallu eu helpu nhw drwy Eich Cymuned, Eich Dewis."
Dywedodd Nigel Harrison, Prif Gwnstabl Cynorthwyol Dros Dro Heddlu Gogledd Cymru: "Mae gwaith y Pentre Peryglon yn y gymuned yn drawiadol. Dwi'n falch eu bod nhw wedi cael help cronfa Eich Cymuned, Eich Dewis. Mae’n bwysig cydnabod eu neges sef diogelwch ac atal trosedd, sy'n atseinio ac yn helpu ein gweithrediadau ni o fewn Heddlu Gogledd Cymru. Dwi'n siŵr y bydd arian Eich Cymuned, Eich Dewis yn helpu'r Pentre Peryglon yn eu gwaith. Bydd yn ehangu mynediad at y cyfleuster hanfodol hwn i hyd yn oed fwy o bobl ifanc ar draws y rhanbarth."
Mae Eich Cymuned, Eich Dewis yn dathlu ei ddegfed pen-blwydd yn 2023 a, dros y deng mlynedd diwethaf mae dros £500,000 wedi cael ei ddyfarnu i dros fwy na 150 o brosiectau yn gweithio i leihau troseddau yn eu hardaloedd a chynorthwyo'r blaenoriaethau yng Nghynllun Heddlu a Throsedd y Comisiynydd. Cynllun Heddlu a Throsedd y Comisiynydd.
Er mwyn dysgu mwy am PACT, ewch ar www.pactnorthwales.co.uk ac er mwyn dysgu mwy am waith Swyddfa'r Comisiynydd Heddlu a Throsedd, ewch ar www.northwales-pcc.gov.uk
Am fwy o wybodaeth am y Pentre Peryglon, ewch ar: www.dangerpoint.org.uk