Skip to main content

Troseddau casineb i fod yn ffocws digwyddiad yng Ngogledd Cymru

Dyddiad

2023 HCAW event CY landscape poster

Deall troseddau casineb a bregusrwydd yng Ngogledd Cymru fydd canolbwynt digwyddiad arbennig yn ystod Wythnos Ymwybyddiaeth Troseddau Casineb y DU, sy'n rhedeg o 14-21 Hydref.  Mae'r digwyddiad yn cael ei gynnal gan y Comisiynydd Heddlu a Throsedd, Andy Dunbobbin ar y cyd â Heddlu Gogledd Cymru, Canolfan Cefnogaeth Casineb Cymru yng nghanolfan Cymorth Dioddefwyr a Thimau Cydlynu Cymunedol Gogledd Cymru.  

⁠Mae'r digwyddiad, sy'n digwydd ar ddydd Llun 16 Hydref o 3.30pm - 5.30pm yn debyg i ddigwyddiad ar-lein a gafodd ei gynnal am y tro cyntaf y llynedd. Y tro hwn, bydd y trefnwyr yn archwilio bregusrwydd a throseddau casineb o fewn cymunedau Gogledd Cymru, ac yn edrych ar sut i leihau dioddef a sut mae pobl sy'n profi troseddau casineb yn gallu derbyn cefnogaeth.

Mewn digwyddiad prysur, dwy awr o hyd bydd siaradwyr yn rhannu profiadau yn gweithio yng Ngogledd Cymru - yn enwedig gyda phobl anabl - a bydd swyddogion yn clywed hefyd oddi wrth swyddogion sy'n gweithio gyda phobl ifanc mewn ysgolion a'r rhai sy'n rhoi gwasanaeth yn cefnogi dioddefwyr ynysig a bregus.

Ymysg y siaradwyr mae CHTh Gogledd Cymru, Andy Dunbobbin; Swyddog Ysgolion Heddlu Gogledd Cymru; Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth; Canolfan Cymorth Casineb Cymru, Cymorth Dioddefwyr; a Chydlynwyr Cymuned. 

Dywedodd Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru: "Mae taclo ac atal troseddau casineb yn rhan allweddol o fy addewid i gefnogi dioddefwyr a chymunedau yn fy Nghynllun Heddlu a Throsedd. Rhan o'r weledigaeth hon yw deall troseddau casineb a'r effaith ar ddioddefwyr.  Dyna pam mae digwyddiadau fel hwn mor bwysig.  Maent yn rhoi llais i'r dioddefwr ac yn ein galluogi ni i ddysgu mwy drwy adlewyrchu ar eu profiadau.  Maent hefyd yn helpu ni i wella ein ffocws a'n dealltwriaeth. 

"Mae Wythnos Ymwybyddiaeth Troseddau Casineb yn ymgyrch genedlaethol sy'n rhoi'r cyfle perffaith i dynnu sylw at droseddau casineb a bregusrwydd yn ein hardal ni.  Hoffwn annog unrhyw un gyda diddordeb i gofrestru ac ymuno â ni ar y diwrnod."

Tocynnau ar werth ar gyfer y digwyddiad ar-lein yma: Deall Troseddau Casineb a Bregusrwydd yng Ngogledd Cymru | tocyn.cymru (beta)