Skip to main content

Y CHTh yn gweld sut mae prosiectau yn gwneud gwahaniaeth yn Shotton

Dyddiad

Ar 29 Medi, gwnaeth Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd (CHTh) Gogledd Cymru gyfarfod â Sean Bibby, Cynghorydd Gorllewin Shotton ac Aelod o Gabinet Sir y Fflint dros Dai ac Adfywio. Diben y cyfarfod oedd gweld sut mae mentrau trechu trosedd yn gwneud gwahaniaeth ac yn helpu cadw trigolion lleol yn saffach yn Shotton. 

Mae'r prosiectau wedi'u hariannu drwy Gronfa Strydoedd Diogelach. Mae hon yn rhaglen £75 miliwn gan y Swyddfa Gartref sy'n annog Comisiynwyr Heddlu a Throsedd ac awdurdodau lleol ymgeisio am fuddsoddiad am fentrau er mwyn atal troseddau mewn cymdogaethau.  Cyhoeddwyd fis Gorffennaf llynedd fod ardaloedd Shotton a Queensferry yn Sir y Fflint wedi llwyddo yn eu cais am dros £385,000 o'r gronfa. Y partneriaid a oedd ynghlwm yng nghynnig Sir y Fflint oedd Heddlu Gogledd Cymru, Cyngor Sir y Fflint, Gwasanaethau Cyfiawnder Ieuenctid Sir y Fflint a gwasanaethau a oedd yn gysylltiedig mewn gweithio er mwyn atal trais yn erbyn merched yng Ngogledd Cymru.

Ers y cyhoeddiad llynedd, mae partneriaid wedi bod yn gweithio'n galed er mwyn rhoi cynlluniau ar waith yn lleol. Yn ystod eu taith gerdded o amgylch Shotton, gwelodd Andy Dunbobbin a'r Cynghorydd Bibby rai o lwyddiannau'r prosiect. Fel rhywun sy'n byw yng Nghei Connah ac yn gynghorydd tref am sawl blwyddyn, roedd gan y Comisiynydd ddiddordeb gweld y gwahaniaeth roedd y cyllid a'r prosiectau wedi'u gwneud yn yr ardal. 

Ar ôl cyfarfod ger swyddfa Cyngor Tref Shotton ar Alexandra Street, fe aeth y Comisiynydd a'r Cynghorydd Bibby i weld Green Lane. Yna stopiwyd ar North Street ac yna Westminster Crescent, cyn mynd i gyfeiriad Killin's Lane a Queensway. Roedd y ddau'n gallu gweld rhai o'r camerâu cylch cyfyng a osodwyd fel rhan o'r cynllun. Siaradwyd â thrigolion lleol, a ddywedodd am y gwahaniaeth roedd y mesurau wedi'u gwneud wrth atal ymddygiad gwrthgymdeithasol a throseddau eraill yn yr ardal. 

Ymysg llwyddiannau eraill Strydoedd Diogelach yn lleol, mae'r ardal wedi gweld:

  • Gosod 6 o gamerâu cylch cyfyng y gellir eu symud. Mae camera ychwanegol wedi'i brynu ac mae wedi'i osod ar gyffordd Cylchfan Queensferry hefo'r A494, gan helpu'r gwaith amgylcheddol yno.
  • Golau Stryd a thirlunio.
  • Mae lleoliadau wedi'u nodi gan y gymuned leol, cynghorwyr ac awdurdodau fel ardaloedd Nelson Street a Westminster Crecscent sydd angen gwaith. Mae angen lledaenu llwybrau a gwell golau a gwyliadwriaeth yn yr ardaloedd. Mae angen ail-orfodi ffiniau i ardaloedd sy'n dioddef tipio anghyfreithlon.
  • Pecynnau gwella diogelwch ac atal trosedd wedi cael eu cynnig i 250 o gartrefi. Mae 250 o geir wedi derbyn mesurau atal trosedd. Mae llawer o hyn wedi digwydd yn ardal Green Lane, hefo adborth gwych gan drigolion.
  • Mae hyfforddiant gan staff o asiantaethau gwahanol o'r awdurdod lleol a Heddlu Gogledd Cymru wedi cael ei gyflwyno gan Action for Children.
  • Cafwyd ymgyrch hysbysebu er mwyn amlygu menter 'Dangos y Drws i Drosedd' yr Heddlu, ynghyd ag ymgyrchoedd ynghylch atal ymddygiad gwrthgymdeithasol a thrais yn erbyn merched a genethod.
  • Mae cyllid hefyd wedi darparu offer i dri chlwb pêl droed lleol, gan eu galluogi nhw gynnig gwasanaethau hyfforddi a gemau cystadleuol i bobl ifanc o fewn yr ardal.  Mae un o'r clybiau hefyd wedi gallu cynnig clwb wythnosol i ferched yn unig, sy'n galluogi merched ifanc gymryd rhan mewn gweithgareddau chwaraeon mewn lle saff a chynhwysol.
  • ⁠Cynhaliwyd y prosiect Fit, Fed and Read drwy wyliau'r haf gan gynnwys chwaraeon, gwasanaethau llyfrgell lleol a darparu prydau bwyd.  Cynhaliwyd y cynllun bob wythnos dros y gwyliau ac roedd ar agor i bobl ifanc o fewn ardaloedd y prosiect. Daeth 655 i'r sesiwn wythnosol dros y cyfnod a rhoddwyd 375 o brydau am ddim. Ar ben hynny, rhannwyd talebau i'w defnyddio yng nghanolfan hamdden Glannau Dyfrdwy i rai oedd yn cymryd rhan. Roedd y talebau ar gyfer gweithgareddau a fyddai'n annog iechyd, ffitrwydd a gwaith tîm.

Dywedodd Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru: "Roedd yn wych gweld y gwahaniaeth mae'r fenter Strydoedd Diogelach yn ei wneud yn Shotton a chlywed o lygad y ffynnon gan drigolion cymaint mae wedi helpu lleihau achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol ger eu cartrefi. Mae cyflawni cymdogaethau saffach yn rhan allweddol o'm cynllun trechu trosedd i yng Ngogledd Cymru. Dwi'n falch o weithio hefo'r heddlu, yr awdurdod lleol, a'r cynghorwyr lleol yn yr ardal er mwyn gwneud ein cymunedau'n saffach ac yn fwy dymunol i fyw ynddyn nhw. Dwi'n diolch iddyn nhw gyd am eu help a'u hymdrechion mawr."

Dywedodd un o'r trigolion lleol: "Ers i'r camerâu gael eu gosod mae'n llawer tawelach. 'Da ni'm yn cael grwpiau o bobl yn hongian o gwmpas bellach, sy'n golygu ei bod hi'n ddistawach. Mae'r golau newydd yn anhygoel hefyd! Mae'r cymdogion i gyd yn fodlon iawn hefo fo, ac maen nhw i gyd yn dweud pa mor olau a saffach ydy hi rŵan. Dwi'n ddiolchgar i'r cynghorwyr lleol, y Comisiynydd a'r heddlu am eu gwaith nhw."

Dywedodd y Cynghorydd Sean Bibby: “Mi fuaswn i'n hoffi diolch i'r Comisiynydd a Heddlu Gogledd Cymru ynghyd ag asiantaethau partner am eu help wrth gael cyllid Strydoedd Diogelach ar gyfer Shotton o'r Swyddfa Gartref. Mae nifer o fentrau wedi cael eu rhoi mewn lle er mwyn delio hefo pryderon trigolion am ymddygiad gwrthgymdeithasol a gwerthu cyffuriau. Dwi wedi derbyn adborth cadarnhaol iawn gan drigolion yn benodol hefo camerâu cylch cyfyng fedrwch chi eu symud, golau stryd ychwanegol a phecynnau atal trosedd. Gobeithio bydd y seilwaith mae'r fenter wedi'i hariannu yn cael effaith tymor hir ar daclo trosedd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol yn ein cymuned ni."

Dywedodd y Cynghorydd David Evans, Ward Dwyrain Shotton a Shotton Uchaf: "Mae'r fenter ariannu Strydoedd Diogelach wedi bod yn gadarnhaol iawn i ardaloedd Dwyrain Shotton a Shotton Uchaf. Mae offer diogelwch amrywiol fel clychau drws a golau solar allanol wedi rhoi mwy o dawelwch meddwl i drigolion a gwneud iddyn nhw deimlo'n saff. Mae hyn ar ben y golau stryd dydd, lledaenu llwybrau a gosod camerâu cylch cyfyng.

"Fe wnaeth y Cynghorydd Bibby a finnau ymweld â'r ystafell reoli fideo yn Neuadd y Sir yn yr Wyddgrug er mwyn gweld yr effaith a'r ardaloedd o dan sylw'r camerâu. Roedden ni'n falch o'u gweld nhw ar waith. Dwi'n gobeithio byddan nhw'n cael yr effaith sy'n cael ei ddymuno sef lleihau trosedd ond hefyd helpu'r heddlu ddal troseddwyr yn yr ardal. Dwi'n gobeithio gallwn ni ehangu hyn i ardaloedd eraill yn Shotton wrth i gyllid ddod ar gael yn y dyfodol."