Dyddiad
Fel rhan o sicrhau fod pobl Gogledd Cymru yn cael eu gwarchod rhag twyll, gwnaeth y Comisiynydd Heddlu a Throsedd prosiect arbrofol er mwyn i Weithiwr Achos Twyll ymuno â'r tîm o weithwyr achos arbenigol yn y Ganolfan Cymorth Dioddefwyr. Dechreuodd yr arbrawf yn 2019. Mae ymchwil diweddar wedi dangos effaith y rôl a sut mae pobl Gogledd Cymru wedi elwa o'r cymorth arbenigol mae'n ei gynnig.
Mae'r Ganolfan Cymorth Dioddefwr yn Llanelwy wedi'i chomisiynu gan Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru i wrando a chynnig cymorth i ddioddefwyr trosedd, sy'n cael eu hannog i ddefnyddio eu gwasanaethau. Gyda'u gwybodaeth arbenigol, gallent gynorthwyo pobl sydd wedi dioddef twyll er mwyn edrych ar ffyrdd o hawlio unrhyw arian sydd wedi'i golli. Gallent gynorthwyo pobl greu gwytnwch er mwyn atal unrhyw droseddau pellach. Gallent ddarparu cymorth personol. Gallent wrando gyda thosturi a chynorthwyo pobl ganfod ffyrdd o reoli a theimlo'n fwy diogel. Gyda chaniatâd y dioddefwr, gallent weithredu fel dadleuwr wrth gwyno wrth fanc neu'r ombwdsmon ariannol.
Ers sefydlu'r rôl, mae 2,246 o ddioddefwyr twyll wedi derbyn cymorth wedi'i deilwra gan y Gweithiwr Achos Twyll. Mae'r gwasanaeth yn golygu fod y dioddefwyr hyn wedi derbyn adnoddau penodol ar gyfer twyll a gallent siarad â rhywun sy'n deall effaith unigryw dioddef twyll. Gall y dioddefwyr hefyd gael pwynt cyswllt uniongyrchol drwy eu gweithiwr achos. Mae'n golygu nad oes rhaid iddynt ailadrodd eu stori ac ail-fyw effaith y trawma.
Roedd y pum atgyfeiriad uchaf a wnaed i'r gweithiwr achos ynghylch cyfathrebu maleisus, twyll arall, siopa ac arwerthiannau ar-lein, hacio cyfrifiaduron a'r cyfryngau cymdeithasol, sieciau, cardiau plastig a chyfrifon banc ar-lein.
Drwy gael gweithiwr achos ymroddedig, gall y Ganolfan Cymorth Dioddefwyr gynnig gwasanaeth arbenigol sydd ond yn canolbwyntio ar gynorthwyo dioddefwyr twyll. Mae hyn yn galluogi'r gweithiwr achos ddatblygu eu gwybodaeth a'u harbenigedd, a gwneud cysylltiadau gyda staff a sefydliadau arbenigol eraill sy'n gweithio yn y maes twyll.
Mae'r gweithiwr achos twyll hefyd wedi gallu nodi rhai o'r prif themâu mae dioddefwyr twyll yn eu profi. Mae'r rhain yn aml yn cynnwys cywilydd ac embaras, amharodrwydd i agor i deulu/ffrindiau agos oherwydd y teimladau o gywilydd, colledion ariannol yn effeithio ar eu hansawdd bywyd, diffyg ymddiriedaeth mewn pobl, bod ag ofn defnyddio technoleg ddigidol a theimladau o hunanhyder a hunanwerth isel.
Gall aelodau o'r cyhoedd warchod eu hunain rhag dioddef twyll cyn ei fod yn digwydd drwy ddilyn cynghorion syml:
- Pwyllo – peidiwch byth ag anfon arian at rywun os ydych yn amheus ohonynt.
- Herio – peidiwch â bod ofn holi cwestiynau.
- Gwirio – meddyliwch yn ofalus am yr hyn a ddywedir wrthych chi ac os oes unrhyw ffordd er mwyn cadarnhau'r wybodaeth sydd gennych chi.
Dywedodd Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru: "Mae'n dda gweld y gwahaniaeth mae'r Gweithiwr Achos Twyll wedi bod yn ei wneud i gannoedd o ddioddefwyr trosedd ledled Gogledd Cymru fel rhan o wasanaethau'r Ganolfan Cymorth Dioddefwyr, gwaith rwyf yn ei gomisiynu. Fodd bynnag, mae llawer i'w wneud o hyd er mwyn sicrhau nad ydy pobl yn dioddef yn y lle cyntaf a'u bod yn derbyn y cymorth a'r cyngor maent eu hangen os ydynt yn dioddef twyllwyr a throseddwyr. Buaswn yn cynghori pawb ddilyn cyngor Uned Troseddau Economaidd Heddlu Gogledd Cymru a Stopio, Herio a Gwirio bob amser cyn unrhyw drafodiad."
Dywedodd Linda Parry, Rheolwr Gweithrediadau yn y Ganolfan Cymorth Dioddefwyr: "Rydym yn falch fod y CHTh yn parhau i ariannu rôl y Gweithiwr Achos Twyll sydd yn fawr ei hangen. Mae'r rôl arbenigol yn caniatáu i ni gynnig cymorth cyfrinachol ac wedi'i deilwra i bobl sy'n cael trafferth gyda'u hyder, hunanwerth ac ymddiriedaeth mewn pobl eraill oherwydd y twyll. Buasem yn annog unrhyw un sydd wedi'u heffeithio gan dwyll i beidio teimlo cywilydd wrth estyn allan am gymorth."
Dywedodd DC Rachel Roberts, Swyddog Diogelu Rhag Cam-drin Ariannol, Heddlu Gogledd Cymru: “Mae twyll yn effeithio ar bawb o fewn ein cymunedau. Wrth i dechnoleg ddatblygu fwy, mae hon yn fath o drosedd a fydd yn dod yn fwy cyffredin a chymhleth. Mae Gweithiwr Achos Twyll arbenigol y Ganolfan Cymorth Dioddefwyr yn darparu cymorth a chyngor hanfodol i'r bobl hynny sydd yn anffodus wedi dioddef trosedd. Mae'r gwasanaeth maent yn ei gynnig yn cael effaith sylweddol ar leihau dioddef eto a sicrhau bod dioddefwyr yn cael eu had-dalu os daw'r gwaethaf eto."
Yr hyn i'w wneud os byddwch yn dioddef twyll
Os ydy'r drosedd ar waith ac mae rhai o dan amheuaeth yn bresennol, hysbyswch Heddlu Gogledd Cymru ar 101 yn uniongyrchol neu ffoniwch 999.
Fel arall, dylech hysbysu'r mater wrth Action Fraud ar 0300 123 2040 neu ar www.actionfraud.police.uk. Action Fraud ydy'r ganolfan hysbysu genedlaethol am dwyll ledled Cymru a Lloegr.
Canolfan Cymorth Dioddefwyr
Mae'r staff yn y ganolfan yn deall yr embaras a'r cywilydd mae dioddefwyr yn ei deimlo ar ôl profi twyll. Mae rhai pobl yn beio eu hunain, ond nid dioddefwyr sydd ar fai.
Peidiwch a phetruso cysylltu â'r Ganolfan Cymorth Dioddefwyr os ydych wedi dioddef twyll ac os hoffech wybod mwy am sut y gallent eich cynorthwyo.
Os ydych wedi cael eich effeithio gan dwyll yng Ngogledd Cymru, ffoniwch dîm eich Canolfan Cymorth Dioddefwyr lleol ar 0300 303 0159. Oriau agor ydy dydd Llun – dydd Gwener 8.00am-8.00pm a dydd Sadwrn 9.00am-5.00pm.