Skip to main content

Annog ffermwyr i fod ar eu gwyliadwriaeth wrth i ladron ddod allan o'r cyfnod clo

Dyddiad

190819 rural crime team

Mae pennaeth heddlu yn rhybuddio ffermwyr yng ngogledd Cymru i fod ar eu gwyliadwriaeth wrth i droseddwyr fanteisio ar y llacio yng nghyfyngiadau Covid-19.

Disgwylir i ddiwedd y gwaharddiad ar deithiau dros bum milltir nad ydynt yn hanfodol ynghyd ag agor y ffin gyda Lloegr i dwristiaid roi cyfle i ladron weithredu yng nghefn gwlad unwaith eto, yn ôl Comisiynydd Heddlu a Throsedd y rhanbarth, Arfon Jones.

Mae gan Heddlu Gogledd Cymru eisoes Dîm Troseddau Gwledig effeithiol sy’n cael ei gydnabod fel un o’r goreuon yn y Deyrnas Unedig ac mae ganddyn nhw record ragorol wrth ymladd troseddau cefn gwlad gan gynnwys lleihad o 90 y cant mewn troseddau bywyd gwyllt dros y 12 mlynedd diwethaf.

Mae’r Comisiynydd Jones, yn gyn arolygydd heddlu a gafodd ei fagu ar fferm ger Harlech, wedi bod yn hyrwyddo’r tîm ers tro a’r llynedd cynyddodd ei niferoedd i 11 o swyddogion.

Ond mae’n gweld bygythiad cynyddol wrth i gyfyngiadau teithio gael eu llacio a dywedodd: “Fel pawb arall mae’r troseddwyr wedi cael eu cyfyngu gan y cyfnod clo ond fedran nhw ddim gwneud cais i fynd ar ffyrlo.

“Mi fyddan nhw’n awyddus i fynd yn ôl i ddrwgweithredu rŵan wrth i’r ffyrdd brysuro eto ac wrth i’r cynnydd yn nifer ybobl sy’n symud o gwmpas cefn gwlad roi cyfle iddyn nhw ddwyn eto.

“Mae ein Tîm Troseddau Gwledig yn gwneud gwaith gwych ac yn destun cenfigen ardaloedd cefn gwlad eraill y DU ac rwy’n gwybod y byddan nhw’n parhau i fod yn wyliadwrus ond mae angen i ni i gyd eu helpu nhw a helpu ni ein hunain drwy fod yn ymwybodol a bod yn ofalus.

“Mae gogledd Cymru yn ardal wledig enfawr ac rydym wedi llwyddo i ymladd troseddau sy’n amrywio o ddwyn anifeiliaid, cerbydau a pheiriannau fferm i droseddau bywyd gwyllt fel rhwydo moch daear a dwyn wyau ond wnawn ni ddim gorffwys ar ein rhwyfau, a dylai pobl sy’n byw yng nghefn gwlad barhau i fod ar eu gwyliadwriaeth hefyd.”

Cynyddodd Mr Jones niferoedd y Tîm Troseddau Gwledig i 11 y llynedd, ac mae’n cael ei arwain gan y Rheolwr Tîm a chyn-Sarjant yr Heddlu Rob Taylor sydd hefyd yn rhedeg tîm Dyfed-Powys.

Meddai Rob Taylor: “Ers diwrnod cyntaf y cyfnod clo mae ein tîm wedi bod allan yn patrolio ein hardaloedd gwledig saith diwrnod yr wythnos.

“Mi wnaethon ni weld gostyngiad mewn troseddau gwledig ar y cychwyn ac roedd hynny’n bennaf oherwydd llai o draffig ar ein ffyrdd a llai o gyfleoedd i droseddwyr deithio.

“Rydym bellach yn gweld cynnydd bychan yn y troseddau sy’n dod i’n sylw felly rydyn ni’n atgoffa’r cyhoedd i aros yn wyliadwrus a bod yn ymwybodol o’u diogelwch.

“Os oes gennych larymau neu deledu cylch cyfyng yna gwiriwch nhw a gwnewch yn siŵr eu bod yn gweithio’n gywir ac yn y cyfamser mi fyddwn ni’n parhau i fod allan ar batrôl yng nghefn gwlad ac yn ceisio rhoi tawelwch meddwl i bobl.”

Mae’r Tîm yn defnyddio cymysgedd o blismona hen ffasiwn a thechnoleg fodern fel camerâu Adnabod Rhifau Ceir yn Awtomatig, proffilio DNA a defnyddio gwybodaeth benodol i dargedu mannau problemus ar gyfer troseddau gwledig.

Maent yn defnyddio cerbydau gyriant pedair olwyn gyda chamerâu dashfwrdd ac mae gliniaduron gan aelodau’r tîm er mwyn iddyn tallu ysgrifennu adroddiadau ar y lôn a chael mynediad i wybodaeth yn gyflym.

Maent hefyd yn gweithio’n agos gyda sefydliadau fel Undeb Amaethwyr Cymru, Undeb Cenedlaethol y Ffermwyr, Cymdeithas Saethu a Chadwraeth Prydain a Chymdeithas y Perchnogion Tir.

Ychwanegodd Arfon Jones: “Rydym wedi bod yn llwyddiannus iawn wrth dargedu’r troseddwyr sy’n cyflawni ystod o droseddau o rwydo moch daear i ddwyn tractorau, beiciau cwad a da byw.

“Mae Gogledd Cymru yn arwain y ffordd ac mae’r tîm dan arweiniad Rob Taylor yn gwneud gwaith gwych ac yn cael ei gydnabod am y ffordd y mae’n delio efo troseddau cefn gwlad a materion bywyd gwyllt ac mae’n hanfodol i ni barhau i’w gefnogi.

“Mae’r tȋm hefyd wedi bod yn rhan hanfodol o ffurfio timau tebyg mewn ardaloedd heddlu eraill fel Dyfed-Powys, lle rydym yn cydweithio’n agos, ac yng Ngwent hefyd.”

“Mae’n bwysig ein bod nid yn unig yn ymatebol ond yn rhagweithiol hefyd fel y gallwn atal troseddau gwledig rhag digwydd cyn y lle cyntaf.

“Mae ein hardaloedd gwledig yn eang iawn o ran daearyddiaeth felly mae angen technoleg arnom i’n helpu yn ein brwydr yn erbyn troseddau cefn gwlad ac i ddal y troseddwyr.”