Skip to main content

Arbenigwr blaenllaw yn cefnogi galwad i roi heroin am ddim i ddefnyddwyr cyffuriau problemus

Dyddiad

Gallai madarch hudol helpu i osgoi argyfwng iechyd meddwl, yn ôl pennaeth heddlu

Mae arbenigwr blaenllaw yn cefnogi galwadau am gynllun peilot yng ngogledd Cymru i roi heroin ar bresgripsiwn am ddim i bobl sy’n gaeth i gyffuriau.

Syniad Comisiynydd Heddlu a Throsedd y rhanbarth, Arfon Jones, yw’r cynllun, a dywed y byddai cyflwyno Triniaeth â Chymorth Heroin (HAT) yn arbed bywydau, yn lleihau troseddau, yn torri costau ac yn tarfu ar y farchnad gyffuriau anghyfreithlon.

Mae Mr Jones, sy’n gyn-arolygydd heddlu ac wedi ymgyrchu ers blynyddoedd dros ddiwygio cyffuriau, yn trefnu cynhadledd rithwir ar Dachwedd 2 i geisio cael cefnogaeth i’r rhaglen arloesol, gyda Glannau Dyfrdwy yn Sir y Fflint yn lleoliad posib.

Ymhlith y siaradwyr gwadd bydd yr Athro Syr John Strang, cyfarwyddwr y Ganolfan Dibyniaeth Genedlaethol sy’n arwain yr Adran Ddibyniaeth yng Ngholeg y Brenin Llundain.

Dywed yr Athro Strang bod Triniaeth â Chymorth Heroin wedi profi’n llwyddiant mewn gwledydd eraill, yn enwedig y Swistir, ac mewn rhannau eraill o’r DU.

Meddai: “Roeddwn yn rhan o sefydlu astudiaeth ymchwil mewn tair rhan o Loegr yn edrych a oedd y driniaeth ddwys ac anghonfensiynol hon yn gallu helpu pobl i dorri cylch eu defnydd rheolaidd o heroin stryd.

“Y rhesymeg y tu ôl iddo oedd gweld a allem helpu pobl i dorri i ffwrdd o ddefnyddio cyffuriau a hefyd i dorri’r ymgysylltiad eilaidd sy’n digwydd gyda’r farchnad anghyfreithlon a’r holl weithgaredd troseddol sy’n gysylltiedig â hynny.

“Roeddem yn gweld hyn fel ymyrraeth arbenigol ddwys i bobl sy’n gaeth i heroin lle nad yw triniaethau eraill yn gweithio. Mewn ffordd gallwch feddwl am y peth fel rhywbeth sy’n cyfateb i lawdriniaeth agored ar y galon.

“Ni fyddech yn ystyried ymyrraeth fel hyn ar gyfer y mwyafrif o’r bobl rydych yn eu gweld ond rydych am gael sicrwydd ei fod ar gael os nad yw ymyriadau eraill yn gallu mynd i’r afael â’r broblem.

“Cawsom ganlyniadau cadarnhaol iawn gyda HAT a chynhaliwyd clinigau am nifer o flynyddoedd nes i ni gael ein gorfodi gan doriadau ariannol i’w cau.

“Yn y DU ar hyn o bryd mae yna gynlluniau sylweddol sy’n archwilio HAT a budd y cynllun yn Glasgow a Middlesbrough.”

Yn ôl Mr Jones, mae dirfawr angen dull newydd o weithredu oherwydd bod y rhyfel bondigrybwyll ar gyffuriau wedi bod yn “fethiant truenus”.

Meddai: “Rhaid i ni ddod o hyd i ffordd well o ddelio â phobl sy’n gaeth a’u cefnogi os ydym am leihau marwolaethau o orddos cyffuriau.

“Bydd y gynhadledd Lleisiau Coll, Bywydau Coll yn canolbwyntio ar fuddion HAT i unigolion bregus sydd yn gaeth i heroin a lle mae triniaethau eraill wedi methu.

“Mae budd mesuradwy i gymunedau cyfan a gwelwyd gostyngiad pendant mewn troseddu o ganlyniad.

“Mae HAT yn ymagwedd iechyd cyhoeddus sy’n trin pobl sy’n gaeth i gyffuriau ers amser hir gyda thriniaethau eraill.

“Fel claf mi fyddent yn mynychu clinig arbenigol ddwy neu dair gwaith y dydd i dderbyn eu presgripsiwn o ddiamorffin meddyginiaethol o dan oruchwyliaeth staff sydd wedi’u hyfforddi’n feddygol.

“Mae’r rhai sy’n gaeth a fyddai’n gymwys i gael HAT yn byw ffordd o fyw anhrefnus iawn heb fawr o fynediad at gymorth a gwasanaethau iechyd. Trwy fynychu clinig yn ddyddiol byddai gan gleifion fynediad rheolaidd at weithwyr iechyd proffesiynol, tai a gwasanaethau cymorth eraill.

“Mae’n atal y cylch dieflig o dreulio dyddiau yn chwilio am eu’ ffics’ nesaf ac yn golygu y gallant fyw bywydau mwy normal. Mae hefyd yn golygu y gall cleifion ddechrau delio â’u dibyniaeth a dychwelyd yn araf i fyw bywyd sefydlog.”

Ychwanegodd: “Mae hefyd yn golygu ein bod yn gweld gostyngiad mewn troseddau gan nad oes angen i’r unigolion yma sy’n gaeth i gyffuriau ddod o hyd i’r arian i brynu heroin yn ddyddiol. Felly, mae’n lleihau troseddu ac yn cael gwared ar ofn trosedd o gymunedau.

“Nid yw pob unigolyn sy’n gaeth yn addas i dderbyn HAT ac nid oes unrhyw gyffuriau yn gadael y clinig gan fod y presgripsiwn yn cael ei gymryd o flaen staff meddygol.

“Rwyf am weithio gyda chynghorwyr lleol i weld a allwn gael cynllun peilot ar waith. Mae’n bryd i’r bwrdd iechyd a byrddau cynllunio ardal edrych ar driniaethau amgen. Mewn amryw o ffyrdd mae bod yn gaeth i heroin yn eliffant yn yr ystafell.

“Fodd bynnag, ni allwn ei anwybyddu ac os ydym am achub bywydau a chael rhai pobl gaeth yn ôl ar y llwybr iawn, rhaid iddo fod yn ffordd ymlaen. Yn awr mae angen i’r byrddau Cynllunio Iechyd ac Ardal gamu i’r adwy.

“Mae Llywodraeth Cymru, mewn egwyddor, yn cefnogi cynllun peilot HAT a dyna pam y bydd Tracey Breheny, dirprwy gyfarwyddwr Iechyd Meddwl, Camddefnyddio Sylweddau a Grwpiau Bregus Llywodraeth Cymru hefyd yn siarad fel rhan o’r gynhadledd rithiol.

“Rwyf eisiau gweithio gyda chynghorwyr lleol sy’n adnabod eu wardiau yn dda. Mae angen i ni ddechrau’r ymgyrch hon o’r gwaelod i fyny.

“Rwy’n ystyried ardal Glannau Dyfrdwy yn Sir y Fflint sydd wedi dioddef llawer gan broblemau cyffuriau ers amser maith. Yn rhy aml o lawer, mae nodwyddau wedi eu taflu a phetheuach cyffuriau yn cael eu gweld ar y strydoedd ac mae angen i ni roi stop ar hynny.

“Mae angen i ni dorri’r cylch o bobl sy’n gaeth i gyffuriau yn prynu heroin gan gangiau troseddol. Y gwir amdani yw bod heroin stryd yn cynnwys pob math o amhureddau ac yn syml iawn, nid yw’n ddiogel.

“Rhaid i ni roi cyfle i bobl sy’n gaeth i gyffuriau fyw bywydau gwell ac yn y pen draw i roi’r gorau i’w harferion cyffuriau. A thrwy wneud hynny rydym yn cyflawni ein nod o leihau trosedd ac ofn trosedd.”

Mae’r Cynghorydd Sean Bibby, sy’n cynrychioli Ward Gorllewin Shotton ar Gyngor Sir y Fflint, yn edrych ymlaen at gynhadledd Lleisiau Coll, Bywydau Coll i glywed drosto’i hun sut y mae HAT yn gweithio.

Meddai: “Mae’r materion cyffuriau problemus o amgylch Glannau Dyfrdwy yn sylweddol er nad yw hynny’n dweud nad oes problemau mewn ardaloedd eraill yng ngogledd Cymru. Ond yn sicr, yng nghyd-destun Sir y Fflint mae’n ymddangos bod gan Lannau Dyfrdwy broblem gyffuriau fawr.

“Rwy’n credu bod gan HAT ei rinweddau ond rwyf am glywed beth sydd gan bobl i’w ddweud yn y gynhadledd hon a gweld drosof fy hun sut y mae’n gweithio ar lawr gwlad.