Skip to main content

Arloesi i Dyfu: Cynllun newydd yn lansio i gydnabod prosiectau ymladd trosedd ledled Gogledd Cymru

Dyddiad

Arloesi i Dyfu: Cynllun newydd yn lansio i gydnabod prosiectau ymladd trosedd ledled Gogledd Cymru

Mae'r cynllun newydd gan y Comisiynydd Heddlu a Throsedd Andy Dunbobbin yn cydnabod mentrau sy'n torri tir newydd wrth ymdrin ag achosion o drosedd ledled y rhanbarth

Mae'r Comisiynydd Heddlu a Throsedd Andy Dunbobbin wedi lansio cynllun newydd – Arloesi i Dyfu – er mwyn targedu a buddsoddi mewn prosiectau sy'n ymdrin ag achosion gwreiddiol trosedd ledled Gogledd Cymru, yn enwedig rhai sy'n cynnig syniadau newydd ac arloesol ynghylch atal ac ymdrin â drygioni.

Y nod ydy i'r fenter ategu at y blaenoriaethau o fewn Cynllun Heddlu a Throsedd y Comisiynydd, ynghyd a'i Wasanaeth Heddlu Cymunedol er mwyn gwasanaethu holl gymunedau ledled gogledd Cymru. Mae enghreifftiau o fentrau a all fod yn gymwys am gymorth o dan y cynllun yn cynnwys y rhai hynny sy'n cynnwys gwasanaethau ieuenctid; ymyrraeth gynnar; profiadau niweidiol yn ystod plentyndod; gwasanaethau camddefnyddio cyffuriau, alcohol a sylweddau; sefydliadau sy'n gweithio i wrthsefyll cam-drin domestig, trais rhywiol a thrais yn erbyn merched a genethod. 

Dywedodd Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru: "Rwyf yn hynod gyffrous o lansio menter newydd Arloesi i Newydd. Rwyf yn credu y bydd yn cynorthwyo i ddatblygu rhai o'r prosiectau mwyaf cyffrous, arloesol a gwerth chweil er mwyn ymdrin â throsedd sydd ar y gweill yn y rhanbarth. Mae fy Nghynllun Heddlu a Throsedd yn ymroi i gyflawni cymdogaethau diogelach yng Ngogledd Cymru, er mwyn cynorthwyo dioddefwyr a chymunedau, a sicrhau system cyfiawnder troseddol teg ac effeithiol i bawb. 

"Ffordd allweddol o fodloni'r uchelgeisiau hyn ydy drwy fuddsoddi yn y prosiectau cymunedol ledled Gogledd Cymru sy'n meddwl ac yn gweithredu mewn ffyrdd newydd ac arloesol er mwyn atal trosedd lle mae'n dechrau. Buaswn yn annog unrhyw sefydliad sy'n meddwl eu bod yn gweddu i'r meini prawf i gysylltu ac ymgeisio, fel y gallent weithredu gyda ni er mwyn ychwanegu at eu gwaith da a chyflawni'r cymdogaethau diogelach rydym i gyd yn dymuno eu gweld."

Mae Mr Dunbobbin wedi dyrannu £100,000 i'r cynllun newydd er mwyn cynorthwyo prosiectau am hyd at flwyddyn, gyda'r ffocws ar arloesedd. Bydd hyd at £5,000 ar gael i bob prosiect. Fodd bynnag, os cyflwynir y prosiect ledled dwy neu fwy o siroedd, cynigir uchafswm o £10,000. 

Er mwyn bod yn gymwys am gyllid, rhaid i ymgeiswyr fod yn rhai nid er elw a rhaid iddynt gwblhau cynllun busnes. Rhaid i'r cynllun fod yn gydnaws ag un o flaenoriaethau plismona'r Comisiynydd. Bydd angen i bob sefydliad hefyd sicrhau fod ganddynt bolisi ar y Gymraeg, ar Gyfleoedd Cyfartal ac ar Werth Cymdeithasol mewn lle a dangos sut byddant yn integreiddio'r meysydd hyn i gyflawni'r prosiect. 


Dogfennaeth Arloesi i Dyfu 2022:

Cliciwch ar y dolenni isod i ddysgu mwy am Arloesi i Dyfu a sut y gallwch gyflwyno cais: