Dyddiad
Mae mis Mehefin yn Fis Balchder, dathliad blynyddol o'r nifer o gyfraniadau a wnaed gan y gymuned LHDTQ+ i hanes, cymdeithas a diwylliannau o amgylch y byd. Mae Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, wedi cefnogi'r dathliad ac wedi ailadrodd ei benderfyniad i weld Gogledd Cymru sy'n croesawu amrywiaeth a chynhwysiant ac sy'n brwydro gwahaniaethu.
Yn ddiweddar, ymwelodd y CHTh â safle GISDA yng Nghaernarfon er mwyn cyfarfod â staff a phobl ifanc yn eu Clwb Ieuenctid LHDTQ+. Mae GISDA yn elusen a sefydlwyd yn 1985 sy'n rhoi cymorth dwys ac yn cynnig cyfleoedd i bobl ifanc bregus rhwng 14 a 25 oed yng Ngogledd Cymru. Mae ganddynt hefyd leoliadau ym Mhwllheli a Blaenau Ffestiniog.
Fel rhan o'i gwaith, mae'n cynorthwyo pobl ifanc LHDTQ+ sydd angen cyngor, gwybodaeth a chymorth. Tra yn y sesiwn Clwb Ieuenctid, clywodd Andy Dunbobbin yn uniongyrchol gan y bobl ifanc am eu profiadau o drosedd casineb yn y gymuned a sut mae hyn wedi'u heffeithio nhw. Clywodd hefyd ganddynt sut mae diffyg cyfleoedd ehangach yn gallu effeithio ar bobl ifanc mewn ardaloedd gwledig, fel diffyg swyddi a thrafnidiaeth gyhoeddus wael.
Ar 24 Mehefin, mae Balchder Gogledd Cymru yn digwydd yng Nghaernarfon. Mae Swyddfa'r Comisiynydd Heddlu a Throsedd yn falch o fod yn noddwr swyddogol y digwyddiad. Mae hyn yn dilyn y swyddfa yn noddi Balchder Bae Colwyn ym mis Mai. Gwelwyd cannoedd o bobl yn mynd i bromenâd Bae Colwyn am gyngor, cymorth, gwrando ar gerddoriaeth a gweld adloniant.
Sefydlwyd Balchder Gogledd Cymru yn 2011. Mae'n ddigwyddiad unigryw a phwysig sy'n dathlu'r gymuned LHDTQ+ ac yn cynnig cyfleoedd i ddod â phobl at ei gilydd a lleihau ynysu gwledig.
Bydd Heddlu Gogledd Cymru hefyd yn cynnal ei Gyfarfod Grwp Cymunedol LHDT+ nesaf ym Mhencadlys yr Heddlu, Bae Colwyn, sy'n agored i holl aelodau'r gymuned a phartneriaid. Yn ystod y nosweithiau rheolaidd hyn mae cyfle i gael trafodaethau wyneb yn wyneb gyda swyddogion heddlu o Dîm Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yr Heddlu. Mae hyn er mwyn trafod problemau neu godi pryderon a chlywed y diweddaraf gan wasanaethau.
Dywedodd Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru: "Rwyf eisiau gweld Gogledd Cymru lle mae pawb yn teimlo eu bod yn cael eu cynnwys a'u croesawu beth bynnag fo'u rhywioldeb, pa rywedd maent yn uniaethu ag o, neu unrhyw agwedd arall sy'n eu gwneud pwy ydynt neu pwy maent eisiau bod. Mae gan bawb yr hawl i deimlo'n ddiogel rhag gwahaniaethu a chynhwysiant. Dyna'r hyn ydy Mis Balchder a dyna pam rwyf yn falch o'i gefnogi. Rwyf yn gwerthfawrogi gwaith Heddlu Gogledd Cymru yn trechu trosedd yn erbyn y gymuned LHDTQ+. Rwyf yn gwerthfawrogi cyngor ac arweiniad y gymuned ar sut y gallwn eu gwasanaethu a'u gwarchod nhw hyd yn oed yn well."
Er mwyn gwybod mwy am Falchder Gogledd Cymru, ewch ar: Hafan | Cymru Pride Wales (northwalespride.wales)