Dyddiad
Mae Checkpoint - gwasanaeth a gomisiynwyd gan Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru yn mynd i'r afael â'r hyn sy'n achosi ymddygiad troseddol, fel problemau iechyd meddwl a cham-drin sylweddau, wedi lansio gwasanaeth newydd i wella profiad a dyfodol troseddwyr benywaidd o fewn y system cyfiawnder troseddol ar draws Gogledd Cymru.
Mae'r gwasanaeth newydd yn adeiladu ar wasanaethau tebyg yn yr ardal a ddatblygwyd ers 2013, pan ganfu Ymholiad Pwyllgor Dethol Cyfiawnder y dylai mwy gael ei wneud i wella profiadau merched yn y System Cyfiawnder Troseddol yn genedlaethol. Ers hynny, mae cefnogaeth wedi cynyddu i helpu merched gael cymorth, yn cynnwys cyngor ar lety ac addysg fel y gallant wneud penderfyniadau positif yn eu bywydau ac ym mywydau eu teuluoedd, a bydd y gwasanaeth newydd i ferched gan Checkpoint yn ehangu ar y gwasanaeth hwn.
Mae Checkpoint eisoes yn fenter sy'n defnyddio'r cynsail o ddatrysiadau tu allan i'r llys ac egwyddorion rheoli troseddwyr, i roi opsiwn amgen credadwy i erlyn. Mae'n gwneud hynny drwy adnabod a chefnogi anghenion perthnasol a 'llwybrau hanfodol' allan o droseddu. Y canlyniad yw bod troseddwyr isel a chanolig sy'n oedolion yn cael eu dargyfeirio i ffwrdd o'r System Cyfiawnder Troseddol, (neu adael y System Cyfiawnder Troseddol yn gynt), gan hefyd ymdrin â rheswm sylfaenol eu hymddygiad troseddol.
Mae Checkpoint wedi gweld llawer o lwyddiant yng Ngogledd Cymru yn gweithio gyda dynion sydd wedi troseddu a'r bwriad yw cael yr un canlyniadau positif gyda'r gwasanaeth arbenigol i ferched gan ganolbwyntio ar droseddwyr benywaidd. Fel mesur o'i effaith, cyfeiriwyd dros 400 o unigolion at y rhaglen Checkpoint ehangach yn 2021/22 gan gwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus. Ers hynny, mae dros 96% o'r bobl hyn wedi llwyddo i beidio â throseddu eto.
Fel rhan o lansio'r gwasanaeth i ferched, mae Checkpoint yn recriwtio llyw-wyr arbenigol. Mae Checkpoint yn defnyddio llyw-wyr arbenigol sy'n paratoi, cydlynu a chyflwyno'r cytundebau sydd wedi'u teilwra'n unigol ac yn cynorthwyo troseddwyr i ymgysylltu â gwasanaethau cymorth i ymdrin ag achosion sylfaenol eu troseddu. Mae rolau ar gael yng Nghaernarfon, Llanelwy a Llai.
Dywedodd un o ddefnyddwyr y gwasanaeth sydd wedi gweithio gyda Checkpoint: "Mae'r cymorth ac arweiniad a dderbyniais gan Checkpoint wedi fy helpu i ddatrys llawer o'r gofidion a oedd yn achosi problemau i mi."
Dywedodd un arall: "Rwyf wir yn gwerthfawrogi'r gefnogaeth rwyf wedi derbyn gan Checkpoint. Mae wedi rhoi cyfle i mi siarad am fy iselder a fy iechyd meddwl gan roi pwyslais ar gydymdeimlad a thosturi.
Dywedodd Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru: "Rwyf yn falch o weld Checkpoint yn lansio eu gwasanaeth newydd i ferched yng Ngogledd Cymru. Mae eu harbenigedd a'u llwyddiant yn y gorffennol fel sefydliad yn helpu cefnogi pobl sydd wedi bod drwy'r system cyfiawnder troseddol rhag troseddu eto yn amlwg.
“Roedd system cyfiawnder troseddol effeithiol a theg yn addewid allweddol yn fy Nghynllun Heddlu a Throsedd a luniais wedi i mi gael fy ethol. Y llynedd lansiwyd Strategaeth Cyfiawnder i helpu ymdrin â'r rhesymau y mae merched yn troseddu yng Ngogledd Cymru gan wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau merched, lleihau eu cysylltiad gyda’r system cyfiawnder troseddol, a thynnu lefelau troseddu i lawr.
"Mae'r datblygiad diweddaraf yn gam arall i gynorthwyo merched yn y system cyfiawnder troseddol, er mwyn iddynt allu byw bywyd heb droseddu. Bydd y rhaglen yn golygu y bydd yn rhaid i bobl dalu eu dyled yn ôl i gymdeithas am eu troseddau o hyd ond mewn ffordd sydd hefyd yn cydnabod y problemau sy'n achosi troseddu yn y lle cyntaf."
Dywedodd Anna Baker, Rheolwr Llwybrau Hanfodol Checkpoint Cymru: “Rwyf yn falch iawn o'r gwaith sydd wedi cael ei wneud gyda dynion ers i Checkpoint ddod i fodolaeth yn 2019. Mae sawl un a gafodd gefnogaeth gennym yn ddiolchgar am yr help i fynd i'r afael â'r problemau a wnaeth arwain at droseddu a'u helpu i ddod allan o'r system cyfiawnder troseddol. Mae hyn, yn ei dro, wedi arwain at gymunedau mwy diogel a llai o alw ar ein heddlu llinell flaen a gwasanaethau hanfodol eraill.
"Mae cael arian ychwanegol i ehangu'r gwaith gyda merched yn gam ymlaen i ni ac yn gydnabyddiaeth o'r effaith bositif a wnaed gan y rhaglen hyd yn hyn. Credaf y byddwn yn gallu cael yr un llwyddiant gyda merched, gan fod gennym dîm o lyw-wyr benywaidd sy'n gallu rhoi cefnogaeth benodol i ferched ynghyd â chynllun gofal holistaidd a chadarn. Hoffem glywed gan bobl sydd am wneud gwahaniaeth i bobl eraill, yn helpu cymunedau ac ymuno â'n tîm ardderchog!"
I wybod mwy am y swyddi ar gael gyda Checkpoint (dyddiad cau 16/07), ewch at: Llywiwr Llwybrau Hanfodol Checkpoint Cymru - Police Jobs Wales (tal.net)