Skip to main content

CHTh Gogledd Cymru yn cefnogi ymgyrch ymwybyddiaeth stelcian

Dyddiad

Stalking Awareness Week logo

Mae Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru Andy Dunbobbin wedi addo ei gefnogaeth i Wythnos Ymwybyddiaeth Stelcian (24-28 Ebrill) gan Ymddiriedolaeth Suzy Lamplugh, yn canolbwyntio ar gynorthwyo pobl ifanc o dan thema ‘Gwrthsefyll Stelcian’, yn dilyn cynnydd yn y nifer o bobl rhwng 16 a 24 oed sy’n cysylltu â’r Llinell Gymorth er mwyn cael cyngor ar sut i ymdrin ag ymddygiad di-angen.

Mae stelcian yn digwydd pan fydd rhywun yn ymddwyn mewn ffordd sy’n eich gwneud chi deimlo’n ofnus, mewn gofid neu’n cael eich bygwth. Mae gwahanol ffyrdd o stelcian a gall unrhyw un ddioddef. Mae’n un o’r meysydd rydym yn ceisio ymdrin ag o drwy Ymgyrch Unite (dolen i’r ymgyrch).

Yn ystod Wythnos Cenedlaethol Ymwybyddiaeth am Stelcian, mae heddluoedd, asiantaethau eiriolaeth ac elusennau yn dod at ei gilydd er mwyn codi ymwybyddiaeth am stelcian.

Mae’r gweithgarwch dwysach yn cael ei arwain gan Ymddiriedolaeth Suzy Lamplugh. Cafodd yr ymddiriedolaeth ei chreu gan rieni Suzy Lamplugh – Paula a Diana nôl yn 1986 ar ôl i’r ferch 25 oed ddiflannu tra’n gweithio fel asiant gwerthu tai yn dangos cwsmer o amgylch tŷ yn Fulham.

Nid ydy corff Suzy erioed wedi ei ganfod, ond mae’n debygol ei bod wedi cael ei llofruddio ac fe gadarnhawyd yn 1993 yn gyfreithiol ei bod wedi marw.

Mae’r wythnos ymwybyddiaeth yn cyd-daro â chyhoeddi llyfryn ar Drais yn erbyn Menywod a Merched (VAWG), a gynhyrchwyd ar y cyd gan Swyddfa’r Comisiynydd Heddlu a Throsedd a Heddlu Gogledd Cymru, yn rhoi cyngor a ble i fynd am gymorth a chefnogaeth.

VAWG yw unrhyw drais ar sail rhywedd sydd wedi’i anelu at ferch oherwydd ei bod yn ferch neu drais sy’n cael ei ddioddef yn anghymesur gan ferched. Mae’r mwyafrif o VAWG gan ddynion yn erbyn merched a genethod (er gall dynion hefyd ddioddef trais neu gam-drin).

Dywedodd Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru: “Rwyf eisiau pob dioddefwr wybod lle i gael cymorth ac mae’r llyfryn yma yn hynod o werthfawr i ddarganfod sut i gael cymorth, stopio’r drosedd a gwneud newidiadau.”

Dywedodd y Prif Gwnstabl Heddlu Gogledd Cymru Amanda Blakeman: “Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi ymrwymo dileu Trais yn Erbyn Merched a Genethod. Ein bwriad ydy gwneud Gogledd Cymru’r lle mwyaf diogel i fyw, gweithio ac ymweld yn y DU. Byddwch yn ymwybodol y byddwn yn ymdrin ag unrhyw adroddiad yn ddifrifol ac amserol.”

Sut i gael cymorth