Skip to main content

CHTh yn cefnogi Wythnos Ymwybyddiaeth am Ymddygiad Gwrthgymdeithasol

Dyddiad

AD at desk

3-9 Gorffennaf ydy Wythnos Ymwybyddiaeth am Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, sef yr ymgyrch genedlaethol gan Resolve. Ei nod ydy codi ymwybyddiaeth am ymddygiad gwrthgymdeithasol, cynnig cyngor ar sut i hysbysu amdano a phwy ddylai wybod, a deall hawliau'r bobl fel dioddefwyr ymddygiad gwrthgymdeithasol. Mae'r ymgyrch yn cael ei chefnogi gan Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd (CHTh) Gogledd Cymru. Mae atal ymddygiad gwrthgymdeithasol mewn cymunedau ledled Gogledd Cymru yn flaenoriaeth fawr. 

Diffinnir ymddygiad gwrthgymdeithasol fel ymddygiad lle mae gweithrediadau unigolyn neu grŵp yn achosi annifyrrwch, dioddefaint neu drafferth i unigolyn neu grŵp penodol neu'r gymuned ehangach. Gall enghreifftiau gynnwys fandaliaeth, niwsans gyda cherbydau, yfed yn y stryd ac ymddygiad amhriodol gan gymdogion.

Mae'r broblem yn rhan allweddol o Gynllun Heddlu a Throsedd y Comisiynydd ar gyfer y rhanbarth, sy'n cynnwys ymrwymiadau i gynorthwyo dioddefwyr a chymunedau a chyflawni cymdogaethau mwy diogel. Ers cael ei ethol, mae'r CHTh wedi cyflwyno sawl mesur newydd ac arloesol er mwyn atal ymddygiad gwrthgymdeithasol a meithrin Gogledd Cymru mwy diogel i bawb.

Strydoedd Diogelach i bawb

Mae trefi ledled Gogledd Cymru hefyd wedi elwa o £1.5m o gyllid o brosiect Strydoedd Diogelach y Swyddfa Gartref, gyda chyfrannau yn mynd tuag at wella goleuadau stryd, gosod camerâu CCC a phrosiectau ymyrryd ag ymddygiad gwrthgymdeithasol yng Nghaergybi, Wrecsam ac ardaloedd Shotton a Queensferry mewn ymgais i atal troseddau cymdogaethau. Atgyfnerthwyd hyn gan ymgyrchoedd hysbysebu ymroddedig. 

Yn ddiweddar, mae'r CHTh wedi ymweld ag ardaloedd wedi'u heffeithio gan achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol er mwyn dysgu o lygad y ffynnon gan bobl sydd wedi'u heffeithio ac edrych ar ba fesurau a ellir eu rhoi mewn lle yn y dyfodol ledled Gogledd Cymru, o Fangor i'r Bermo ac o'r Rhyl i Wrecsam. Mae hefyd wedi ymuno â swyddogion heddlu lleol a mentrau cymunedol ledled Gogledd Cymru sy'n anelu atal ymddygiad gwrthgymdeithasol a chynorthwyo pobl ifanc a dioddefwyr trosedd, drwy gronfa Eich Cymuned, Eich Dewis. Mae'r gronfa yn cynorthwyo mentrau lleol, fel gweithgareddau chwaraeon a chymdeithasol er mwyn cadw pobl ifanc yn brysur ac allan o helynt.

Eich Cymuned, Eich Dewis

Mae Eich Cymuned, Eich Dewis yn dathlu ei ddegfed pen-blwydd yn 2023. Dros y deng mlynedd diwethaf mae dros £500,000 wedi cael ei roi i dros 150 o brosiectau yn gweithio i leihau trosedd yn eu hardaloedd a chynorthwyo'r blaenoriaethau yn y Cynllun Heddlu a Throsedd. Mae cronfa Eich Cymuned, Eich Dewis yn cynorthwyo prosiectau llawr gwlad ac mae'n derbyn cymorth gan Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, Ymddiriedolaeth yr Heddlu a'r Gymuned Gogledd Cymru (PACT) a Heddlu Gogledd Cymru. 

Mae'r arian ar gyfer Eich Cymuned, Eich Dewis yn dod yn rhannol oddi wrth arian sydd wedi ei atafaelu drwy'r llysoedd drwy Ddeddf Enillion Troseddau gyda'r gweddill o Gronfa'r Comisiynydd Heddlu a Throsedd. Mae llawer o'r grwpiau sy'n derbyn cyllid yn cynorthwyo cynlluniau tynnu sylw sy'n cynorthwyo troi pobl ifanc i ffwrdd o'r posibilrwydd o achosi ymddygiad gwrthgymdeithasol a darparu gweithgareddau iddynt er mwyn eu difyrru. Mae enghreifftiau o sefydliadau sydd wedi derbyn cyllid eleni yn cynnwys sgowtiaid a geids ar Ynys Môn, clwb seiclo yn y Rhyl, grŵp theatr ym Mae Colwyn a menter atal bwlio yn Sir y Fflint. 

Un enghraifft o enillwyr diweddar y gwobrau cyllid Eich Cymuned, Eich Dewis ydy Canolfan Gymunedol Llanfaes. Mae'r grŵp y tu ôl i'r ganolfan gymunedol yn gweithio'n agos gyda phobl yn yr ardal i glywed eu barn a'u gofidion a threfnu digwyddiadau i feithrin cymuned gytûn. Aeth Andy Dunbobbin i ymweld â nhw'n ddiweddar er mwyn clywed sut bydd yr arian yn cael ei ddefnyddio i atgyweirio offer yn y parc yn Llanfaes, gan roi lle diogel i blant gyfarfod a chwarae. Eglurwyd hefyd sut y bydd arian hefyd yn cael ei wario ar welliannau yng nghegin y ganolfan gymunedol, gan ddarparu adnoddau gwell ar gyfer digwyddiadau neu bartïon.

Gwaith mewn ysgolion er mwyn ymdrin ag ymddygiad gwrthgymdeithasol

Ers y pandemig, mae cynnydd sylweddol wedi bod mewn ASB ymysg pobl ifanc mewn ysgolion ac yn y gymuned ehangach, ynghyd â chynnydd ymysg pobl ifanc sy'n dweud eu bod yn dioddef problemau iechyd meddwl. Mae prosiect arloesol yn ardal Wrecsam yn ceisio mynd i'r afael â gwir achosion ymddygiad gwrthgymdeithasol gydag ysgolion a sefydliadau lleol. Ymysg yr ysgolion sy'n cymryd rhan yn y rhaglen mae Ysgol Morgan Llwyd, Ysgol Clywedog ac Ysgol Rhosesni.

Mae pob ysgol o dan sylw yn cael dau ddiwrnod yr wythnos o ymgysylltiad ble fydd y tîm ieuenctid yn Groundwork North Wales yn darparu cymorth, cyfleoedd a thrafodaeth ddwys ar ymddygiad gwrthgymdeithasol o fewn yr ysgol, yn ogystal â nodi problemau presennol a phroblemau a amlygwyd yn eu cymunedau. Mae gan grwpiau hefyd y cyfle i ddysgu sgiliau a chymwysterau newydd drwy gymryd rhan yn y gweithgareddau.

Arloesi i Dyfu

Lansiwyd menter y CHTh sef Arloesi i Dyfu ym mis Ebrill 2022. Ei nod ydy targedu a buddsoddi mewn prosiectau sy'n ymdrin â gwir achosion trosedd ledled Gogledd Cymru – yn enwedig rhai sy'n cynnig syniadau newydd ac arloesol o ran atal ac ymdrin â drygioni. Mae cyllid o'r prosiect wedi mynd i sawl menter sydd â'r nod o leihau ymddygiad gwrthgymdeithasol yng Ngogledd Cymru, fel Youth Shedz. 

Sefydlwyd Youth Shedz gan Scott yn 2018 ac mae chwe sied wedi ei sefydlu (sy'n cynnwys prosiect allanol), mewn trefi ar draws Gogledd Cymru fel Dinbych, Bae Cinmel ac yn ddiweddar Caergybi gyda 50 aelod ar draws Gogledd Cymru. ⁠Mae Sied Ieuenctid mewn tref yn lleihau'r ymddygiad gwrth-gymdeithasol gan ei fod yn cynnig lle i bobl ifanc gymdeithasu a chael rhywbeth i wneud. Nod Youth Shedz ydy cyrraedd pobl ifanc sy'n llai tebygol o ymgysylltu â gwasanaethau prif ffrwd.

Mae Youth Shedz yn defnyddio'r arian o Arloesi i Dyfu i gynorthwyo sefydlu tair Youth Shed trwyddedig ar draws Gogledd Cymru, gan gynorthwyo pump o bobl ifanc o leiaf ymhob lleoliad.

Ymddygiad Gwrthgymdeithasol yn ardaloedd gwledig Gogledd Cymru

Mae ymddygiad gwrthgymdeithasol mewn cymunedau gwledig yn bryder allweddol i'r CHTh. Mae lansio menter Heddlu Gogledd Cymru sef Dangos y Drws i Drosedd yn gweld ffermydd ledled y rhanbarth yn derbyn pecynnau er mwyn eu cynorthwyo nhw atal trosedd a lladradau a gwarchod eu heiddo ac offer. Defnyddir y dechnoleg SmartWater ddiweddaraf, sy'n hylif y gellir ei olrhain a roddir ar eitemau gwerthfawr. Mae hyn er mwyn adnabod lladron ac atal lladradau.

Mae'r CHTh yn comisiynu gwasanaethau hefyd yn cynorthwyo gwaith Timau Troseddu Ieuenctid ledled Gogledd Cymru. Ariennir rolau a gweithgareddau o fewn y timau, sy'n gweithio gyda phobl ifanc ar y problemau a all fod yn ffactor yn cymell ymddygiad gwrthgymdeithasol fel camddefnyddio sylweddau a bywydau ansefydlog ar yr aelwyd. Mae'r CHTh hefyd yn comisiynu gwaith y Ganolfan Cymorth Dioddefwyr yn Llanelwy, sy'n cynnig cymorth a chyngor i'r bobl hynny a effeithir gan ymddygiad gwrthgymdeithasol yn eu cymuned. 

Plismona yng Nghymru

Bydd penodi'r Comisiynydd yn ddiweddar fel Cadeirydd y fforwm cenedlaethol Plismona yng Nghymru, sy'n dod â Chomisiynwyr Heddlu a Throsedd, Prif Swyddogion ac arweinwyr eraill y tri heddlu arall yng Nghymru at ei gilydd gyda Llywodraeth Cymru o gymorth hefyd i gydlynu'r ymateb a rhannu cudd-wybodaeth ar atal ymddygiad gwrthgymdeithasol ledled y wlad. 

Dywedodd Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru: "Rwyf yn falch o ddangos fy nghefnogaeth i Wythnos Ymwybyddiaeth Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2023 a rhannu'r neges gyda phobl Gogledd Cymru mai nhw ydy fy mlaenoriaeth i. Mae gennym yr hawl teimlo'n ddiogel yn ein cymunedau. 

"Rwyf yn credu'n angerddol mewn ymdrin â gwir achosion ymddygiad gwrthgymdeithasol, fel camddefnyddio sylweddau a diffyg gweithgareddau tynnu sylw i bobl ifanc. Ond hefyd mewn cynnig cymorth a chyflawni cyfiawnder i'r bobl hynny sy'n dioddef ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Mae cyflawni cymdogaethau mwy diogel a chynorthwyo dioddefwyr a chymunedau yn gonglfeini fy Nghynllun Heddlu a Throsedd. Fy ngwaith i ydy dwyn Heddlu Gogledd Cymru yn atebol er mwyn sicrhau ei bod yn bodloni'r amcanion hyn. Buaswn yn annog unrhyw un sydd eisiau hysbysu am drosedd neu sydd ag unrhyw amheuon i hysbysu'r heddlu neu Crimestoppers. Gallwn weithio gyda'n gilydd er mwyn atal ymddygiad gwrthgymdeithasol lle bynnag mae'n digwydd."

Chwiliwch am gyngor am yr hyn ydy Ymddygiad Gwrthgymdeithasol a sut allwch hysbysu amdano yma: https://www.northwales.police.uk/advice/advice-and-information/asb/asb/antisocial-behaviour/

Cliciwch yma er mwyn darllen blaenoriaethau plismona Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru: https://www.northwales-pcc.gov.uk/sites/default/files/2022-04/Police-and-Crime-Plan-2021.pdf

Ceir mwy o wybodaeth yma am Arloesi i Dyfu yma:

www.northwales-pcc.gov.uk/innovate-grow-new-scheme-launches-recognise-crime-fighting-projects-across-north-wales