Dyddiad
Mewn cyfarfod arbennig o Blismona yng Nghymru ar fore 8 Mehefin, enwyd Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, yn Gadeirydd y fforwm. Roedd yn olynu Jeff Cuthbert, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gwent, am flwyddyn.
Plismona yng Nghymru ydy'r corff sy'n dod â Chomisiynwyr Heddlu a Throsedd, Prif Gwnstabliaid, Prif Weithredwyr ac arweinwyr eraill pedwar heddlu Cymru at ei gilydd er mwyn trafod y prif faterion sy'n effeithio plismona ledled y wlad. Fel Cadeirydd, bydd Andy Dunbobbin hefyd â chyfarfodydd rheolaidd gyda'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol sef Jane Hutt AS a swyddogion o Lywodraeth Cymru.
Roedd y bobl a oedd yn bresennol yn y digwyddiad yn The Kinmel, Abergele, yn cynnwys Comisiynwyr Heddlu a Throsedd, uwch swyddogion heddlu a chynrychiolwyr eraill o wahanol ardaloedd heddlu. Edrychodd y cyfarfod ar y sefyllfa bresennol a chyfeiriad plismona yn y dyfodol yng Nghymru. Ymysg yr eitemau a drafodwyd oedd diweddariad ar y Cynllun Gweithredu Atal Hiliaeth, diweddariad ar Drais yn Erbyn Merched a Genethod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol, a'r mater o ymddiriedaeth a hyder mewn plismona yn ehangach. Mae hyn yn dilyn Adroddiad y Farwnes Casey yn dilyn troseddau Wayne Couzens a digwyddiadau eraill sydd wedi effeithio'n negyddol ar hyder mewn plismona. Pwnc arall a drafodwyd oedd Gweithredu'r terfyn cyflymder 20mya diofyn sydd ar y gweill, sy'n dod i rym yng Nghymru ym mis Medi eleni.
Dywedodd Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru: "Rwyf yn falch o dderbyn rôl Cadeirydd Plismona yng Nghymru ar amser hollbwysig i Gomisiynwyr a Heddluoedd ledled y wlad. Fel Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, fy mlaenoriaethau ydy cyflawni cymdogaethau diogelach, cynorthwyo dioddefwyr a chymunedau, a system cyfiawnder troseddol effeithiol. Tra bydd gan bob un Comisiynydd ac ardal Heddlu eu blaenoriaethau a'u hanghenion plismona eu hunain, mae'r rhain yn ddelfrydau y gallwn ni gyd eu cefnogi. Rwyf yn edrych ymlaen at gydweithredu gyda fy nghydweithwyr drwy Gymru er mwyn sicrhau fod gan bobl y wlad hyder mewn plismona, ein bod yn gwrando ar eu pryderon ac yn eu gwasanaethu i'r gorau o'n gallu."