Skip to main content

CHTh yn gweld sut mae clwb yn Sir y Fflint yn helpu mynd i'r afael â bwlio

Dyddiad

Cobra Life

Aeth Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru i ymweld â Cobra Life Family Martial Arts Academy yn Shotton ar 26 Mai i weld y gwaeth arbennig y mae'r clwb yn gwneud yn y gymuned ac i weld sut mae arian sy'n cael ei gymryd oddi wrth droseddwyr yn cael ei ddefnyddio er lles pobl ifanc yn yr ardal. 

Mae'r arian, o'r gronfa Eich Cymuned, Eich Dewis, yn cynorthwyo Cobra Life i barhau gyda'i gwaith rhagorol yn datblygu a gwella bywydau pobl ifanc gyda'r prosiect 'Cobra Bully Buster'. Mae hyn yn canolbwyntio gydag agweddau geiriol a chorfforol bwlio ac yn annog pobl ifanc i ragori ym maes Crefft Ymladd fel modd o ddelio â'u profiadau a'u rheoli. Bydd yr arian yn cefnogi cost cyflenwi'r prosiect i bobl ifanc ac ysgolion ar draws Sir y Fflint.

Mae Eich Cymuned, Eich Dewis yn dathlu ei ddegfed pen-blwydd yn 2023 a, dros y deng mlynedd diwethaf mae dros £500,000 wedi cael ei ddosbarthu i 150 o brosiectau yn gweithio i leihau troseddau a chynorthwyo blaenoriaethau yng Nghynllun Heddlu a Throsedd y Comisiynydd. Mae'r arian ar gyfer Eich Cymuned, Eich Dewis yn dod yn rhannol oddi wrth arian sydd wedi ei atafaelu drwy'r llysoedd drwy Ddeddf Enillion Troseddau gyda'r gweddill o Gronfa'r Comisiynydd Heddlu a Throsedd.  

Yn ystod ei amser yn Academi Crefft Ymladd Cobra Life profodd Andy Dunbobbin rhaglen ‘Cobra Kids Champions for Life’. Sesiwn yw hwn i blant 4-6 oed sydd wedi ei gynllunio yn benodol i helpu pobl ifanc i fagu hyder a disgyblaeth wrth ddysgu sgiliau bywyd fel deall beth i wneud tasent yn mynd ar goll, yn cael eu bwlio, neu tasai argyfwng meddygol yn digwydd, a llawer mwy.  Mae'r plant yn dysgu technegau sut i amddiffyn eu hunain ac hefyd yn dysgu magu hyder i beidio â brifo eu hunain nac unrhyw un arall.

Dywedodd Gavin Eastham, Prif Hyfforddwr Cobra Life Family Martial Arts: "Roedd yn bleser croesawu'r Comisiynydd Heddlu a Throsedd.  Mae arian Eich Cymuned Eich Dewis yn golygu y byddwn yn gallu cael effaith ar bobl ifanc yn ein cymunedau drwy eu helpu i gael dealltwriaeth ddyfnach a gwybodaeth am fwlio, beth sydd yn ei achosi ac hefyd beth yw'r canlyniadau. Rydym yn anelu i addysgu pobl ifanc fel y gallant adnabod yr arwyddion mewn dioddefwyr a chael cefnogaeth, ond hefyd eu helpu i ddeall achosion bwlio. ⁠Byddwn hefyd yn addysgu oedolion o fewn y byd addysg sut i ddelio â bwlio ac i roi cefnogaeth i’r rhai sy’n dioddef." 

Dywedodd Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru: "Roeddwn yn falch iawn o ymuno â Gavin i weld y gwaith gwych y mae Cobra Life yn gwneud yn rhoi cyfleoedd i bobl ifanc yn Sir y Fflint, yn eu helpu i drechu bwlio.

"Mae rhoi rhywbeth heini a chreadigol i bobl ifanc ei wneud yn hynod bwysig. Mae Cobra Life yn gwneud gwaith gwych wrth roi cyfle positif i bobl ifanc ddefnyddio eu hegni, yn ogystal ag atal melltith bwlio. Mae hefyd yn briodol iawn bod yr arian ar gyfer Eich Cymuned, Eich Dewis yn dod yn rhannol oddi wrth arian sydd wedi ei atafaelu oddi ar droseddwyr. Mae'n dangos fod y cronfeydd hyn yn gallu cael eu defnyddio er budd y gymuned ehangach."

Dywedodd Ashley Rogers, cadeirydd PACT: "Mae prosiectau llawr gwlad yn hanfodol ar gyfer gwella cymunedau ledled Gogledd Cymru, gan eu gwneud yn llefydd mwy diogel a sefydlog i fyw.  Mae Cobra Life yn enghraifft wych o hyn ar waith. Mae'n bleser gallu eu cynorthwyo nhw drwy Eich Cymuned, Eich Dewis."

Dywedodd Chris Allsop, Prif Gwnstabl Cynorthwyol Heddlu Gogledd Cymru: "Mae hwn yn grŵp gwerth chweil sy'n gwneud gwahaniaeth mawr i fywydau plant a phobl ifanc yn ardal Sir y Fflint. Mae'r gweithgareddau maent yn eu darparu o ran cynnig difyrrwch, ymarfer corff a chefnogaeth i bobl ifanc yn rhywbeth sydd wir ei angen ac rwyf yn siŵr bod arian oddi wrth Eich Cymuned, Eich Dewis yn eu cynorthwyo nhw yn eu gwaith."

Er mwyn dysgu mwy am PACT, ewch ar www.pactnorthwales.co.uk ac er mwyn dysgu mwy am waith Swyddfa'r Comisiynydd Heddlu a Throsedd, ewch ar www.northwales-pcc.gov.uk

Am fwy o wybodaeth ar Cobra Life, ewch at: www.cobralife.co.uk