Skip to main content

CHTh yn gweld sut mae menter leol yn blaguro a blodeuo yn y Rhyl

Dyddiad

Blossom&Bloom

Aeth Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru i weld hyb lles Blossom and Bloom yng Nghanolfan y Rhosyn Gwyn yn y Rhyl ar 28 Ebrill. Roedd hyn er mwyn gweld y gwaith pwysig mae'r elusen yn ei wneud er mwyn cynorthwyo mamau a'u babanod yn y gymuned leol. 

Roedd Blossom & Bloom yn un o enillwyr diweddar cronfa £120,000 arbennig er mwyn cynorthwyo cymunedau ledled Gogledd Cymru. Mae cronfa Eich Cymuned, Eich Dewis yn cynorthwyo prosiectau llawr gwlad ac mae'n derbyn cymorth gan Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, Ymddiriedolaeth yr Heddlu a'r Gymuned Gogledd Cymru (PACT) a Heddlu Gogledd Cymru. 

Ers mis Hydref 2021, mae Blossom & Bloom wedi bod yn darparu gwasanaethau lles galw mewn a chymorth dyddiol o Siop Goffi Costigans. Gwnaiff y man ymroddedig newydd hwn yng Nghanolfan y Rhosyn Gwyn gynorthwyo  gyda darparu cymorth a chymdeithas hygyrch dyddiol i famau a babanod mewn amgylchfyd diogel a chyfeillgar. Mae'r grant wedi cynorthwyo agor yr hyb a bydd hefyd yn cynorthwyo gydag ariannu cost Swyddog Cymorth Lles a wnaiff weithio gyda mamau a babanod sydd angen cymorth. Mae'r hyb ar agor i famau a phlant meithrin bob dydd o'r wythnos rhwng 10am a 2pm ac mae'n cynnig y siop gyfnewid hanfodion babanod gyntaf ar gyfer ailgylchu, ail-gartrefu ac ailddefnyddio. 

Tra yn yr hyb, cyfarfu Andy Dunbobbin, Dirprwy Gomisiynydd Wayne Jones a Chadeirydd PACT Ashley Rogers â Vicky Welsman-Millard, sylfaenydd yr elusen; Joanne Garratt, Cydlynydd yr Hyb Lles; Ashleigh Greenwodd, Cynorthwyydd yr Hyb Lles; Lesley Welsman a Kim Patterson, Gwirfoddolwyr yn yr Hyb Lles, ynghyd â rhai mamau a babanod a oedd yn y man ar y diwrnod.

Dywedodd Vicky Welsman-Millard, sylfaenydd elusen Blossom & Bloom: "Roedd yn bleser croesawu'r Comisiynydd Heddlu a Throsedd i'n Hyb Lles Blossom & Bloom.  Hoffem fynegi ein diolch cywiraf i aelodau o'n cymuned am bleidleisio ar gyfer Blossom & Bloom a rhoi cyllid grant bach Eich Cymuned Eich Dewis i ni. 

"Mae'r Hyb yn cynnig lle cymunedol, am ddim a diogel i famau a babanod gymdeithasu, teimlo cymorth, datblygu a ffynnu, cynorthwyo ei gilydd a chael mynediad at eitemau hanfodol i fabanod ail-law ond mae teuluoedd lleol eu hangen.

"Mae Blossom & Bloom wedi cynorthwyo dros 70 o deuluoedd yn y Rhyl ers 2020. Bydd agor ein safle newydd yn ein galluogi ni gyrraedd mwy o deuluoedd sy'n cael trafferthion ar hyn o bryd. 

"Mae ein drws ar agor i bob mam a baban sy'n byw yn yr ardal. Rydym yn gofyn i deuluoedd sydd ag unrhyw eitemau hanfodol i fabanod sydd mewn cyflwr gwych nad ydynt bellach yn eu defnyddio ac yn gallu eu rhoi/cyfnewid i gysylltu â ni ar 01745 314050."

Dywedodd Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru: "Roeddwn yn falch o ymweld â Blossom & Bloom a gweld y gwaith anhygoel sy'n cael ei wneud gan y sefydliad er mwyn cynorthwyo mamau a'u babanod yn y Rhyl ar adeg dyngedfennol yn eu bywydau.  

"Dros y deg mlynedd diwethaf, mae Eich Cymuned, Eich Dewis wedi dangos y gwahaniaeth gall ei wneud wrth gynnig cyfleoedd newydd i grwpiau cymunedol a'u galluogi nhw dyfu. Mae sefydliadau fel Blossom & Bloom yn cynorthwyo cadw ein cymdogaethau yn ddiogel, gan ateb blaenoriaethau fy Nghynllun Heddlu a Throsedd. Mae'r ffaith bod peth o'r arian yn dod o gronfeydd a atafaelwyd oddi wrth droseddwyr hefyd yn dangos i bobl nad ydy trosedd yn talu, ond mae gweithgarwch cymunedol!"

Dywedodd cadeirydd PACT Ashley Rogers: "Prosiectau llawr gwlad ydy'r enaid ar gyfer gwella cymunedau ledled Gogledd Cymru, gan eu gwneud yn llefydd mwy diogel a chadarn i fyw. Mae Blossom & Bloom yn enghraifft wych o hyn ar waith. Mae'n bleser gallu eu cynorthwyo nhw drwy Eich Cymuned, Eich Dewis."

Dywedodd Chris Allsop, Prif Gwnstabl Cynorthwyol Heddlu Gogledd Cymru: "Mae hon yn elusen wych sy'n gwneud gwahaniaeth mawr i fywydau merched gyda babanod ifanc yn y Rhyl. Mae'r cymorth maent yn ei roi o ran canfod llety brys angenrheidiol, ymdrin ag ynysu a datblygu mentrau cymunedau yn amhrisiadwy. Maent eisoes wedi gadael argraff gadarnhaol ar gymaint o deuluoedd lleol. Bydd y grant hwn yn eu galluogi nhw gynorthwyo cymaint mwy."

Roedd gwobrau Eich Cymuned, Eich Dewis eleni hyd yn oed yn fwy arwyddocaol gan fod Eich Cymuned, Eich Dewis yn dathlu ei ddegfed pen-blwydd yn 2023. Dros y deg mlynedd diwethaf, mae dros £500,000 wedi cael ei roi i dros 150 o brosiectau yn gweithio i leihau trosedd yn eu hardaloedd a chynorthwyo'r blaenoriaethau yng Cynllun Heddlu a Throsedd y Comisiynydd. Mae'r arian ar gyfer Eich Cymuned, Eich Dewis yn dod yn rhannol oddi wrth arian sydd wedi ei atafaelu drwy'r llysoedd drwy Ddeddf Enillion Troseddau gyda'r gweddill o Gronfa'r Comisiynydd Heddlu a Throsedd.  

Er mwyn dysgu mwy am PACT, ewch ar www.pactnorthwales.co.uk