Skip to main content

CHTh yn ymweld â Llanfaes i gwrdd ag enillwyr y gronfa gymunedol

Dyddiad

Llanfaes Community Centre

Ar 5 Mai, ymwelodd Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru â Llanfaes er mwyn cyfarfod â'r pwyllgor sy'n rheoli'r ganolfan gymunedol yn yr ardal i ddysgu mwy am eu gwaith a'u cynlluniau i wella'r gymuned leol.

Roedd Canolfan Gymunedol Llanfaes yn un o enillwyr diweddar gwobrau ariannu Eich Cymuned Eich Dewis. Mae cronfa Eich Cymuned, Eich Dewis yn cynorthwyo prosiectau llawr gwlad ac mae'n derbyn cymorth gan Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, Ymddiriedolaeth yr Heddlu a'r Gymuned Gogledd Cymru (PACT) a Heddlu Gogledd Cymru. 

Mae'r grŵp y tu ôl i'r ganolfan gymunedol yn gweithio'n agos gyda phobl yn yr ardal i glywed eu barn a'u gofidion a threfnu digwyddiadau i feithrin cymuned gytûn.

Clywodd Mr Dunbobbin sut y bydd yr arian yn cael ei ddefnyddio i atgyweirio offer yn y parc yn Llanfaes, gan roi lle diogel i blant gwrdd ag i chwarae. Eglurwyd hefyd sut y bydd arian hefyd yn cael ei wario ar welliannau yng nghegin y ganolfan, gan roi adnoddau gwell ar gyfer digwyddiadau a phartïon.

Mae Eich Cymuned, Eich Dewis yn dathlu ei ddegfed pen-blwydd yn 2023 a, dros y deng mlynedd diwethaf  mae dros £500,000 wedi cael ei ddyfarnu i dros fwy na 150 o brosiectau yn gweithio i leihau troseddau yn eu hardaloedd a chynorthwyo'r blaenoriaethau yng Nghynllun Heddlu a Throsedd y Comisiynydd.  Mae'r arian ar gyfer Eich Cymuned, Eich Dewis yn dod yn rhannol oddi wrth arian sydd wedi ei atafaelu drwy'r llysoedd drwy Ddeddf Enillion Troseddau gyda'r gweddill o Gronfa'r Comisiynydd Heddlu a Throsedd.  

Dywedodd Kelly Williams Ysgrifennydd Pwyllgor y Parc a'r Ganolfan Gymunedol: “Roedd hi'n syndod mawr ond rydym mor ddiolchgar i ddarganfod ein bod ni wedi bod yn llwyddiannus yn cael yr arian.

"Mae hyn yn golygu ein bod ni'n gallu gwneud y gwelliannau sydd eu hangen i'r offer chwarae ac i brynu pethau newydd, gan barhau i wella'r ganolfan a'r lle chwarae.

“Mae'n bwysig sicrhau bod yr ardal yn ddiogel er mwyn i bawb ei fwynhau gan ein helpu i ni gryfhau ac adeiladu ein cymuned. Ac i ni fel cymuned mae'n rhoi'r anogaeth a'r symbyliad i barhau, i ddatblygu'r parc drwy wahanol ddulliau o godi arian. Diolch i bawb am eu cefnogaeth."

Dywedodd Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru: "Roedd yn bleser mynd i Lanfaes i gwrdd â'r tîm sy'n rheoli'r ganolfan yn y pentref.  Mi wnes i brofi’r ysbryd cymunedol ac rwyf yn falch o weld arian Eich Cymuned Eich Dewis yn cael ei wario ar achos mor dda.

"Rwyf wedi clywed oddi wrth y grŵp sut maent yn bwriadu adfywio'r parc yn yr ardal, gan roi lle gwell i'r genhedlaeth iau chwarae.  Mae cynlluniau'r grŵp yn cyfateb i flaenoriaethau yn fy Nghynllun Heddlu a Throsedd yn cyflenwi cymdogaethau mwy diogel ac yn cefnogi cymunedau a dyna pham mae'n bleser rhoi'r arian hwn iddynt."

Dywedodd cadeirydd PACT Ashley Rogers: "Prosiectau llawr gwlad ydy'r enaid ar gyfer gwella cymunedau ledled Gogledd Cymru, gan eu gwneud yn llefydd mwy diogel a chadarn i fyw.  Mae Canolfan Gymunedol Llanfaes yn enghraifft wych o hyn ar waith. Mae'n bleser gallu eu cynorthwyo nhw drwy Eich Cymuned, Eich Dewis."

Dywedodd Chris Allsop, Prif Gwnstabl Cynorthwyol Heddlu Gogledd Cymru: "Mae Canolfan Gymunedol Llanfaes yn enghraifft o fenter gymunedol sy'n dod â phobl at ei gilydd. Mae'r grŵp sy'n rhedeg y ganolfan yn gweithio yn ddiflino i wasanaethu pobl yr ardal, yn oedolion ac yn blant fel ei gilydd ac rwyf yn falch ein bod ni wedi gallu rhoi arian iddynt ar gyfer y dyfodol. Rwyf yn dymuno'r gorau i'r sefydliad at y dyfodol."

Er mwyn dysgu mwy am PACT, ewch ar www.pactnorthwales.co.uk