Skip to main content

Chwa o awyr iach i Wrecsam drwy Our City, Our Tribe

Dyddiad

Yellow and Blue

Ar 20 Gorffennaf, ymwelodd Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd (CHTh) Gogledd Cymru, â Wrecsam er mwyn gweld sut mae cyllid o fenter Eich Cymuned, Eich Dewis yn cynorthwyo hyrwyddo'r ddinas i'r cyhoedd, lleihau ymddygiad gwrthgymdeithasol, a rhoi sgiliau cyfryngau cymdeithasol newydd i bobl ifanc.

Mae Eich Cymuned, Eich Dewis yn cynorthwyo prosiectau llawr gwlad ac mae'n derbyn cymorth gan Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, Ymddiriedolaeth yr Heddlu a'r Gymuned Gogledd Cymru (PACT) a Heddlu Gogledd Cymru. Mae'r arian ar gyfer Eich Cymuned, Eich Dewis yn dod yn rhannol oddi wrth arian sydd wedi ei atafaelu drwy'r llysoedd drwy Ddeddf Enillion Troseddau gyda'r gweddill o Gronfa'r Comisiynydd Heddlu a Throsedd.

Mae'r fenter yn Wrecsam, o'r enw Our City, Our Tribe, yn cael ei rhedeg gan yr Yellow and Blue Group, menter gymdeithasol nid er elw sy'n seiliedig yn eu hyb newydd yn Nôl yr Eryrod. Mae'r prosiect yn cynnwys plant 11-16 oed yn rhoi fideos ar TikTok a llwyfannau cyfryngau cymdeithasol eraill sy'n hyrwyddo dinas Wrecsam. Diben dod â phobl at ei gilydd a'u haddysgu nhw am y ddinas, prosiectau a'r gwaith yn y gymuned ydy eu galluogi nhw deimlo fod ganddynt gyfraniad i'w wneud a rhoi'r hawl iddynt deimlo'n rhan o'r gymuned leol. Mae hefyd yn annog cydlyniad cymunedol ac yn cynorthwyo ymdrin a lleihau ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Tra’n lleoliad y prosiect, gwnaeth Andy Dunbobbin, Dave Evans o PACT, Uchel Siryf Clwyd ac Ymddiriedolwr PACT sef Kate Hill Trevor gyfarfod â Pete Humphreys, sylfaenydd Yellow and Blue; a Sammii Jones sy'n weithiwr ieuenctid gwirfoddol a nifer o'r bobl ifanc sy'n cymryd rhan yn y prosiect. Mae llawer yn dod o ardaloedd fel Parc Caia. Roedd PC Tom Norton a SCCH Chris Smith o Heddlu Gogledd Cymru yno hefyd. Roeddent yno er mwyn rhoi eu cefnogaeth i'r prosiect ac ymgysylltu â'r bobl ifanc mewn llawer o'r gweithgareddau sy'n digwydd dros yr haf yn Wrecsam. Mae hyn er mwyn darparu atgyfeiriadau iddyn nhw, fel dosbarthiadau bocsio am ddim. Roedd y noson hefyd yn cynnwys sesiwn gweithdy ar sut i fod yn DJ gyda Paul Griffiths o Premier Radio. Roedd gan y Comisiynydd ddiddordeb clywed am amcanion a llwyddiannau'r prosiect a sut mae Yellow and Blue yn mynd o nerth i nerth yn ei leoliad newydd ac yn ymgysylltu â phobl ifanc yn Our City, Our Tribe ac ym mywyd ehangach Wrecsam. 

Dywedodd Pete Humphreys, sylfaenydd Yellow and Blue: "Rydym mor falch o fod wedi croesawu'r CHTh i Yellow and Blue er mwyn iddo weld sut rydym yn gwneud ymdrech fawr i wella bywydau yn Wrecsam. Rydym yn dod â phobl anhygoel at ei gilydd yn y ddinas ac rydym wedi cyffroi o weld canlyniadau hyn. Mae ein prosiect yn cyrraedd y bobl hynny sydd anoddaf ymgysylltu â nhw yn y diwylliant ieuenctid. Rydym yn siŵr o weld canlyniadau cadarnhaol."

Dywedodd Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru: "Rwyf yn falch o weld y gwaith heriol sy'n cael ei wneud gan Yellow and Blue er mwyn lleihau ymddygiad gwrthgymdeithasol yn Wrecsam ac annog pawb i wybod fod ganddynt gyfraniad i'w wneud i ddyfodol y ddinas. 

"Mae Eich Cymuned, Eich Dewis yn dangos y gwahaniaeth a ellir ei wneud drwy gynnig cyfleoedd newydd i bobl yn y gymuned. Mae sefydliadau fel Yellow and Blue yn rhoi eu hamser a'u hegni i gynorthwyo eu hardal leol. Maent yn helpu cadw ein cymdogaethau yn ddiogel ac yn ateb blaenoriaethau yn fy Nghynllun Heddlu a Throsedd. Mae'r ffaith bod peth o'r arian yn dod oddi o gronfeydd a atafaelwyd oddi wrth droseddwyr hefyd yn dangos i bobl nad ydy trosedd yn talu, ond mae gweithgarwch cymunedol!"

Dywedodd cadeirydd PACT Ashley Rogers: "Prosiectau llawr gwlad fel Our City, Our Tribe ydy'r enaid ar gyfer gwella cymunedau ledled Gogledd Cymru, gan eu gwneud yn llefydd mwy diogel a chadarn i fyw. Ni all grwpiau cymunedol weithredu heb gyllid priodol. Mae hyn yn hynod wir heddiw. Dyna pam mae'n bleser gallu eu cynorthwyo nhw drwy Eich Cymuned, Eich Dewis."

Dywedodd Chris Allsop, Prif Gwnstabl Cynorthwyol Heddlu Gogledd Cymru: "Mae Heddlu Gogledd Cymru yn cydnabod ac yn sylweddoli'r gwaith mawr mae sefydliadau fel Yellow and Blue yn ei wneud yn ein cymunedau ledled y rhanbarth. Mae Wrecsam yn ddinas gyda diwylliant unigryw, sydd wedi gweld ffocws ac adfywiad go iawn mewn blynyddoedd diweddar. Mae'n bleser gallu cynorthwyo mentrau er mwyn ymgysylltu pobl ifanc lleol yn eu cymuned, wrth obeithio lleihau trosedd hefyd.  Mae hyn hyd yn oed yn fwy addas o ystyried fod yr arian ar gyfer Eich Cymuned, Eich Dewis yn dod yn rhannol oddi wrth elw trosedd ei hun."

Mae cronfa Eich Cymuned, Eich Dewis yn dathlu ei degfed pen-blwydd yn 2023. Dros y deng mlynedd diwethaf mae dros £500,000 wedi cael ei roi i dros 150 o brosiectau yn gweithio er mwyn lleihau trosedd yn eu hardaloedd a chynorthwyo'r blaenoriaethau yng Nghynllun Heddlu a Throsedd y Comisiynydd Heddlu a Throsedd.

Er mwyn dysgu mwy am PACT, ewch ar www.pactnorthwales.co.uk ac er mwyn dysgu mwy am waith Swyddfa'r Comisiynydd Heddlu a Throsedd, ewch ar www.northwales-pcc.gov.uk